Pentref yng nghymuned Ystradfellte, Powys, Cymru, yw Pontneddfechan (wedi ei Seisnigo weithiau fel Pontneathvaughan). Saif yn ardal Brycheiniog yn rhan uchaf Glyn Nedd, ar bwys yr A465. Enwir y pentref ar ôl pont dros Afon Nedd Fechan ger ei chymer ag Afon Mellte. I'r gogledd o'r pentref cyfyd bryniau'r Fforest Fawr, sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Nedd Uchaf.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]
Enwogion
- Thomas Stephens (1821-1875), hanesydd llenyddiaeth, ysgolhaig ac awdur Cymreig a aned ym Mhontneddfechan
Cyfeiriadau