- Am y pentref o'r un enw ym Morgannwg, gweler Abertridwr, Caerffili.
Pentref bychan yng nghymuned Llanwddyn, Powys, Cymru, yw Abertridwr.[1][2] Saif yn ardal Maldwyn ar lan ogleddol afon Efyrnwy, tua milltir i'r dwyrain o Llanwddyn a'r argae ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy. Mae'r B4393 yn ei gysylltu â Llanwddyn ac â Llanfyllin i gyfeiriad y dwyrain.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]
Cyfeiriadau