Mae eglwys plwyf Pencraig yn dyddio o'r 15g ac yn cynnwys y cas organ hynaf yng ngwledydd Prydain.
Heblaw pentref Pencraig, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Evenjobb a Walton. Cafwyd hyd i balisâd mawr o goed o'r cyfnod Neolithig yn Walton yn ddiweddar. Codwyd y castell mwnt a beili yn Womaston cyn 1066, a chredir mai hwn oedd yn cynharaf yng Nghymru. Bu George Cornewall Lewis yn byw yn Harpton Court. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 741.
O ran pensaerniaeth ac adeiladwaith, dyma un o eglwysi pwysicaf Cymru: mae'r hen eglwys wreiddiol yn tarddu ymhell cyn i'r Normaniaid gyrraedd. Gan nad oes eglwys arall a gysegrwyd i Sant Steffan yng Nghymru, dyfalir y gallai'r eglwys wreiddiol fod wedi ei chysegru i Ystyffan, aelod o deulu brenhinol Teyrnas Powys, gyda nifer eraill o eglwysi wedi eu cysegru iddo. Yn dilyn cwymp Tywysogion Cymru, efallai fod y Normaniaid wedi credu'n anghywir mai cyfeiriad Cymreig at Sant Steffan oedd Ystyffan ac ailgysegrwyd yr eglwys i hwnnw, gan ei fod yn sant poblogaidd yn Lloegr.
Yn y 1200au, trosglwyddwyd yr eglwys i Deulu'r Mortimer. Yn 1401 cafodd ei llosgi yn ystod Gwrthryfel Glyn Dŵr. Er gwaethaf y tân, mae'r bedyddfaen cyn-Normanaidd mawr iawn, a allai fod mor hen â'r 8fed ganrif, wedi goroesi.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.