- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Sarnau.
Pentref bychan yng nghymuned Honddu Isaf, Powys, Cymru, yw Sarnau.
Fe'i lleolir yn y bryniau yn ardal Brycheiniog tua 3 milltir i'r gogledd o Aberhonddu. Llifa Afon Honddu heibio ychydig i'r dwyrain o'r pentref. Mae lôn yn ei gysylltu â'r ffordd B4520 Aberhonddu - Llanfair-ym-Muallt.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]
Cyfeiriadau