Pentref bychan yng nghymuned Dwyriw, Powys, Cymru, yw Adfa.[1][2] Lleolir y pentref yn y bryniau tua 5 milltir i'r de-orlelwin o bentref Llanfair Caereinion.
Llanllugan, filltir i'r gogledd, yw'r pentref agosaf. Mae ffordd yn cysylltu Adfa gyda'r pentref hwnnw a gyda Llanwyddelan i'r dwyrain. Dwy filltir i'r de ceir Mynydd Clogau (402 m).
Y papur bro yw Plu'r Gweunydd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]
Cyfeiriadau