Pentref bychan yng nghymuned Ceri, Powys, Cymru, yw Dolfor.[1][2] Fe'i lleolir yn ardal Maldwyn tua 3 milltir i'r de o'r Drenewydd. Saif ar gyffordd y ffordd B4355 a'r briffordd A483.
Tardda Afon Miwl ger y pentref. Cysegrwyd eglwys Dolfor i Sant Paul.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]
Cyfeiriadau