Pentref bychan hanesyddol yng nghymuned Trallong, Powys, Cymru, yw Llanfihangel Nant Brân. Saif yn ardal Brycheiniog yn ne'r sir, 38.9 milltir (62.5 km) o Gaerdydd. Mae'n gorwedd i'r de o Fynydd Epynt tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o Aberhonddu.
Enwir y pentref ar ôl yr eglwys, a gysegrir i Sant Mihangel, ac afon Nant Brân sy'n llifo trwy'r pentref. Mae'r eglwys yn hynafol, gyda thŵr Normanaidd trawiadol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]
Cyfeiriadau