Pentref yng nghymuned Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin, Powys, Cymru, yw Cwmdu,[1] weithiau Cwm-du, hefyd Llanfihangel Cwm Du.[2] Saif yn ne'r sir, yn y Mynydd Du, ar briffordd yr A479 rhwng Talgarth a Tretŵr. Llifa Afon Rhiangoll heibio'r pentref. Saif yng nghymuned Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin.
Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, yn enwedig i gerddwyr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Cyfeiriadau