Tref a chymuned yn ne-ddwyrain Powys, Cymru, yw Crucywel[1] (Saesneg: Crickhowell) neu weithiau Crughywel a Crug Hywel.[2][3]
Saif ar Afon Wysg ac ar y ffordd A40.
Mae adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig yn y dref yn cynnwys eglwys blwyf St Edmund, sy’n dyddio o’r 14g, gweddillion castell Crucywel ar y “twmp” a’r bont o’r 17g. Mae gan y bont ddeuddeg bwa ar un ochr a thri bwa ar ddeg ar yr ochr arall.
↑D. Geraint Lewis, Y Llyfr Enwau: Enwau'r Wlad (Gwasg Gomer, 2007)
↑Gwyddoniadur Cymru (Gwasg PrifysgolCymru, 2008), tud. 201
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.