Pentref bychan yng nghymuned Pencraig, Powys, Cymru, yw Kinnerton.[1][2] Saif ar ffordd y B4372 tua deg milltir i'r dwyrain o Landrindod.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Gerllaw'r pentref ceir cae gyda phedwar maen hir ynddo. Ceir eglwys Santes Fair yn y pentref, sy'n dyddio yn ôl i'r 19g.[5]
Cyfeiriadau