Ychydig i'r gorllewin o'r pentref saif bryn o'r enw Bryn Glas. Hwn oedd safle Brwydr Bryn Glas, neu Frwydr Pilleth yn Saesneg, ar 22 Mehefin1402, pan orchfygodd Owain Glyndŵr fyddin Seisnig fwy niferus dan Edmund Mortimer. Saif eglwys y plwyf, Eglwys y Santes Fair, ar y bryn yma yn hytrach nag yng nghanol y pentref. Credir fod y sefydliad yn un cynnar, ac roedd ffynnon santaidd yma. Dyddia'r eglwys bresennol o'r 13g yn bennaf, a'r tŵr o'r 14g.
Yn y 19g cafwyd hyd i lawer o esgyrn heb fod ymhell o'r eglwys, lladdedigion y frwydr yn ôl pob tebyg, a phlannwyd coed Wellingtonia i nodi'r fan. Mae'n rhain yn awr yn nodwedd amlwg.