Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanddewi yn Hwytyn neu Hwytyn[1] (Saesneg: Whitton). Saif ger cyffordd y ffyrdd B4357 a B4356, ychydid i'r de o Drefyclawdd.
Ychydig i'r gorllewin mae Pilalau neu Pyllalai (Pilleth yn Saesneg), lle enillodd Owain Glyndŵr fuddugoliaeth ym Mrwydr Bryn Glas. Yn 1870 cafwyd hyd i bentyrrau o esgyrn ger eglwys Llanddewi yn Hwytyn; credir mai gweddillion milwyr a laddwyd yn y frwydr oeddynt. Ychydig i'r dwyrain o'r pentref mae Clawdd Offa.
Heblaw pentref Llanddewi yn Hwytyn ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Discoed, Casgob a Pilalau. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 310.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.