- Am leoedd eraill o'r enw "Llansantffraid" (neu enwau tebyg) ym Mhowys a siroedd eraill, gweler Llansantffraid (gwahaniaethu).
Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Glasgwm, Powys, Cymru, yw Llansantffraed-yn-Elfael (Saesneg: Llansantffraed-in-Elwel). Saif yn ne'r sir, tua 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Llanfair-ym-Muallt, chwarter milltir o briffordd yr A481 rhwng Llanfair-ym-Muallt a chyffordd yr A481 a'r A44.
Yn yr Oesoedd Canol roedd yn gorwedd yng nghantref Elfael, yn ardal Rhwng Gwy a Hafren. Fe'i gelwir yn Llansantffraed-yn-Elfael i wahaniaethu rhyngddo a'r nifer o leoedd eraill yng Nghymru a enwir ar ôl Santes Ffraid (Ffraed).
Lleiandy
Yn negawdau olaf y 12g sefydlwyd lleiandy yn yr ardal, ond byr fu ei barhad. Cyfeiria Gerallt Gymro ato yn 1188 ond ymddengys iddo ddirwyn i ben yn fuan wedyn. Ni oes olion i'w gweld yn Llansantffraed heddiw.
Cynrychiolaeth etholaethol
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]
Cyfeiriadau