Tref a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llandrindod[1] (Saesneg: Llandrindod Wells). Tyfodd y dref yn y 19g pan gyrhaeddodd y rheilffordd, gan ddod â llawer o ymwelwyr i brofi'r dyfroedd arbennig o'r ffynhonnau sydd yn y dref (dyma pryd bathwyd yr enw Saesneg Llandrindod Wells, er mwyn denu rhagor o ymwelwyr "ffasiynol" i brofi rhin y dŵr).
Erbyn hyn mae Llandrindod yn gartref i Gyngor Sir Powys, sydd yn un o brif gyflogwyr y dref. Cynhelir nifer o gynadleddau yn y dref, gan bod cynifer o westai yn y dref a Phafiliwn sy'n addas ar gyfer digwyddiadau mawr.
Mae Cwm Y Gof (Saesneg: Rock Park) yn barc pert rhwng y dref ac Afon Ieithon. Yn y parc mae man uchel uwchben yr afon o'r enw "Llam Y Cariadon" (Saesneg: Lovers' Leap). Yn ôl hen chwedl, oddi yno y neidiodd dau oedd yn gariadon cudd.
Mae gan Landrindod hefyd lyn adnabyddus gydag ynys fechan yn ei ganol.
Cynhelir marchnad yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ar ddydd Iau cynhelir marchnad ffermwyr yn Stryd Middleton ble gwerthir cynnyrch lleol. Ceir hefyd nifer o siopau bach annibynnol a dau archfarchnad yn y dref.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.