Erthygl am y tirffurf yw hon. Am y pentref yng Ngwynedd gweler Ynys (Llanfihangel-y-traethau ).
Ynys Moelfre oddi ar Ynys Môn , Cymru
Darn o dir a amgylchynnir gan ddŵr yw ynys (ac eithrio'r cyfandiroedd ). Gall fod yn y môr neu ar y tir . Ynys fwyaf y byd yw Yr Ynys Las (2.2 miliwn km² / 840,000 milltir sgwâr).
Mae ynysoedd cyfandirol , fel Prydain , yn gorwedd ar silffoedd cyfandirol gyda dim ond sianel o ddŵr rhyngddyn nhw â'r tir mawr, fel rheol.
Mae ynysoedd cefnforol orogenig yn tueddu i orwedd lle mae dau blât lithosfferig yn cwrdd. Mae ynysoedd Siapan yn odweddiadol o'r fath yma o ynys.
Yn rhannau dyfnaf y cefnforoedd ceir ynysoedd cefnforol fwlcanig , fel ynysoedd Hawaii . Mae'r rhain yn arbennig o gyffredin yn y Cefnfor Tawel . Mae gan nifer o ynysoedd coral seiliau fwlcanig hefyd.
Ynysoedd mwyaf y byd
Ynys
Môr
Arwynebedd (km²)
Gwlad/Gwledydd
1.
Yr Ynys Las
Cefnfor yr Iwerydd /Cefnfor yr Arctig
2,130,800
Yr Ynys Las , Cenedl ymreolaethol oddi mewn Denmarc
2.
Gini Newydd
Y Cefnfor Tawel
785,753
Indonesia /Papua Gini Newydd
3.
Borneo
Y Cefnfor Tawel
748,168
Indonesia /Maleisia /Brwnei
4.
Madagasgar
Cefnfor India
587,042
Madagasgar
5.
Ynys Baffin
Cefnfor yr Iwerydd /Cefnfor yr Arctig
507,451
Canada
6.
Sumatra
Cefnfor India
443,066
Indonesia
7.
Honshū
Y Cefnfor Tawel
230,316
Japan
8.
Prydain Fawr
Cefnfor yr Iwerydd
219,331
Cymru /Lloegr /Yr Alban
9.
Ynys Victoria
Cefnfor yr Arctig
217,291
Canada
10.
Ynys Ellesmere
Cefnfor yr Arctig
196,236
Canada
Ynys Enlli
Gweler hefyd