Maleisia |
Maleisia |
|
Arwyddair | Bersekutu Bertambah Mutu |
---|
Math | gwladwriaeth sofran, aelod-wladwriaeth o ASEAN, gwlad, talaith ffederal |
---|
|
Prifddinas | Kuala Lumpur |
---|
Poblogaeth | 32,447,385 |
---|
Sefydlwyd | 31 Awst 1957 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) 16 Medi 1963 (Datganiad) |
---|
Anthem | Negaraku |
---|
Pennaeth llywodraeth | Anwar Ibrahim |
---|
Cylchfa amser | UTC+08:00, Asia/Kuala_Lumpur |
---|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Maleieg |
---|
Daearyddiaeth |
---|
Rhan o'r canlynol | De-ddwyrain Asia |
---|
Gwlad | Maleisia |
---|
Arwynebedd | 330,803 km² |
---|
Gerllaw | Culfor Malacca, Culfor Johor, Môr De Tsieina, Bae Brunei, Môr Sulu, Môr Celebes |
---|
Yn ffinio gyda | Gwlad Tai, Brwnei, Indonesia, Singapôr, y Philipinau |
---|
Cyfesurynnau | 3.780511°N 102.314362°E |
---|
Gwleidyddiaeth |
---|
Corff gweithredol | Cabinet Maleisia |
---|
Corff deddfwriaethol | Senedd Maleisia |
---|
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Yang di-Pertuan Agong |
---|
Pennaeth y wladwriaeth | Ibrahim Iskandar o Johor |
---|
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Maleisia |
---|
Pennaeth y Llywodraeth | Anwar Ibrahim |
---|
|
|
Ariannol |
---|
Cyfanswm CMC (GDP) | $372,981 million, $406,306 million |
---|
Arian | ringgit Maleisia |
---|
Canran y diwaith | 2 ±1 canran |
---|
Cyfartaledd plant | 1.76 |
---|
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.803 |
---|
|
|
Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Maleisia. Cafodd Maleisia ei chreu ym 1957 ar ôl i'r hen wladfa Malaia ennill annibyniaeth o Brydain ar ôl cyfnod o wrthryfel.
Mae'r gwlad yn ffederasiwn o 13 talaith ac wedi'i rhannu'n ddwy gan Fôr De Tsieina. Roedd Singapôr yn rhan o Faleisia tan 1965.
Mae'r wlad yn gymysgedd o wahanol hiliau adiwyllianau. Mae namyn dros hanner y wlad yn Falaiaid ac yn swyddogol maent i gyd yn Fwslemiaid. Mae tua 30% o'r wlad o hil Tsieineaidd. Mae bron 10% o'r wlad o hil Indiaidd, y rhan fwyaf yn Tamil. Y crefydd swyddogol yw Islam ond oherwydd y cymysgedd o ddiwylliannau a hiliau mae'r wlad yn un aml-grefyddol ac aml-ddiwylliannol.
Yr iaith swyddogol a brodorol yw Maleieg (Bahasa Melayu) ond mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn medru siarad Saesneg hefyd. Y brifddinas yw Kuala Lumpur lle gellir gweld un o adeiladau tala'r byd, Tyrau Petronas.
Prif ddiwydiannau Maleisia yw olew a ffermio. Yn ystod cyfnod Mahathir Mohamad fel Prif Weinidog o 1981 i 2003, gwelwyd twf economaidd cyflym yn Malaysia, a gostyngodd y gyfradd o dargedau tlodi yn sylweddol. Roedd oes Mahathir hefyd yn gweld llawer o gynlluniau adeiladu mawr, gan gynnwys Tyrau Petronas. Ar ôl i Najib Razak dderbyn ei swydd fel Prif Weinidog yn 2009, cododd protestiadau cryf oherwydd y sgandal twyll 1MDB y cysylltir ag ef. Yn 2018, dan arweiniad Mahathir, llwyddodd y blaid wrthwynebol i guro Najib a chyflawni buddugoliaeth, ac ar ôl 15 mlynedd, ail-ymrwymodd fel Prif Weinidog.