Bu mwy a mwy o Iddewon yn ymfudo i'r wlad (a alwyd yn Israel o'r 1920au ymlaen) a oedd ar y pryd o dan lywodraeth Gwledydd Prydain. Fe ddaeth yn wlad noddfa arbennig o bwysig i Iddewon yn sgíl twf Ffasgiaeth a Natsïaeth yn Ewrop yn y 1930au a'r 1940au.
Gorchfygwyd yr Arabiaid gan yr Ymerodraeth Brydeinig (Lloegr) rhwng 1920 a 1948, a daeth dan Fandad Prydain a daeth y Rheolaeth Otomanaidd i ben. Unwaith y cytunodd y Lloegr i gyflenwi arfau i'r Brigâd Iddewig a ffurfiwyd ganddynt ym 1944, ymunodd Iddewon yr Yishuv gyda Lloegr a'r cynghreiriaid yn swyddogol. Ar ddiwedd y rhyfel, mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig (UN), a oedd yn awyddus i apelio at garfanau Arabaidd ac Iddewig, Gynllun Rhaniad ar gyfer Palestina ym 1947 yn argymell creu gwladwriaethau Arabaidd ac Iddewig annibynnol, a gweinyddu Jeriwsalem yn rhyngwladol.[13] Derbyniwyd y cynllun gan yr Asiantaeth Iddewig ond cafodd ei wrthod gan arweinwyr Arabaidd. Y flwyddyn ganlynol, datganodd yr Iddewon annibyniaeth Israel, ac wedi Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, sefydlwyd Israel fwy neu lai lle bu'r tiroedd dan Fandad, tra bod y Lan Orllewinol a Gaza yn cael eu dal gan wladwriaethau Arabaidd cyfagos.[14] Ers hynny, mae Israel wedi ymladd sawl rhyfel â gwledydd Arabaidd,[15] er mwyn ceisio cynnal y titoedd hyn a orchfygwyd ganddynt, ac ers y Rhyfel Chwe Diwrnod ym Mehefin 1967 nhw hefyd oedd yn rheoli'r hyn a elwir yn "diriogaethau dan feddiant" sy'n cynnwys y Lan Orllewinol, Ucheldiroedd Golan a Llain Gaza.
Ystyrir yn rhyngwladol mai meddiant Israel o diriogaethau Palestina yw'r meddiannaeth filwrol hiraf y byd yn y cyfnod modern. Nid yw'r ymdrechion i ddatrys y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina wedi arwain at gytundeb heddwch terfynol er bod a bod Israel wedi llofnodi cytundebau heddwch gyda'r Aifft a Gwlad Iorddonen.[16]
Ganddi hi mae'r 32fed economi fwyaf'r byd yn ôl CMC enwol, yn bennaf oherwydd y nawdd ariannol, blynyddol mae'n ei dderbyn gan UDA,[22] ac mae ganddi'r safon byw uchaf yn y Dwyrain Canol. Mae ymhlith gwledydd sydd a'r canran uchaf o: dinasyddion sydd â hyfforddiant milwrol,[23] dinasyddion sydd â gradd addysg drydyddol, gwariant ymchwil a datblygu yn erbyn canran CMC,[24] diogelwch menywod,[25] disgwyliad oes,[26] dyfeisgarwch,[27] a hapusrwydd.[28]
Yr enw 'Israel'
O dan Fandad Prydain (1920-1948), enw'r tiriogaeth cyfan oedd 'Palesteina'. Ar ôl annibyniaeth yn 1948, mae'r wlad wedi mabwysiadu'n ffurfiol yr enw 'Gwladwriaeth Israel' ar ôl i enwau hanesyddol a chrefyddol arfaethedig eraill gan gynnwys 'Gwlad Israel ' (Eretz Israel), Seion, a <a href="./Jwda" rel="mw:WikiLink" data-linkid="undefined" data-cx="{"userAdded":true,"adapted":true}">Jwda</a>, gael eu hystyried ond eu gwrthod,[29] tra pasiwyd yr enw 'Israel' (a awgrymwyd gan Ben-Gurion) trwy bleidlais o 6–3 gan ei llywodraeth. Yn ystod wythnosau cynnaf annibyniaeth, dewisodd y llywodraeth y term " Israeliad " i ddynodi dinesydd o Israel.[30]
Mae'r term yn un a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal o fewn llawysgrifau Hebraeg.
Gelwir yr ardal hefyd yn "Wlad Sanctaidd", gan ei bod yn sanctaidd i bob crefydd Abrahamig gan gynnwys Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam a Bahá'í. Trwy'r canrifoedd, roedd y diriogaeth yn hysbys gan amrywiaeth o enwau eraill, gan gynnwys Canaan, Djahy, Samaria, Jwdea, Yehud, Iudaea, Syria Palaestina a De Syria .
Cysylltiadau tramor
Mae'r rhan fwyaf o gymdogion Israel, gan gynnwys y Palesteiniaid, pobl Libanus a'r Aifft yn ddig wrth Israel am yr hyn a wnaeth yn 1948 ac am beidio â rhoi tir a hawliau llawn i'r Palesteiniaid. Ers ei chreu mae Israel wedi brwydro dros ei chornel ac mae sawl rhyfel wedi bod rhyngddi hi a gwledydd cyfagos yn yr hyn a elwir Wrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Un o'r ymosodiadau diweddaraf gan Israel yw'r Ymosodiad a wnaeth ar Lain Gaza Rhagfyr 2008 hyd 2009 sef ('Ymgyrch Plwm Bwrw' fel y'i gelwir) a lansiodd ar y 27ain o Ragfyr 2008.
Caiff Israel lawer iawn o arian gan Unol Daleithiau America a ddefnyddir ganddi i brynu arfau, gan gynnwys arfau niwclear; oddeutu $3 biliwn y flwyddyn.[31]
"If one has to refer to any of the parties as a terrorist state, one might refer to the Israeli government, because they are the people who are slaughtering defenseless and innocent Arabs in the occupied territories, and we don't regard that as acceptable."[32]
Dywedodd Desmond Tutu:
Black South Africans and others around the world have seen the 2010 Human Rights Watch report which "describes the two-tier system of laws, rules, and services that Israel operates for the two populations in areas in the West Bank under its exclusive control, which provide preferential services, development, and benefits for Jewish settlers while imposing harsh conditions on Palestinians."“This, in my book, is apartheid. It is untenable.”[33]
Traethodd Nelson Mandela yn helaeth am y tebygrwydd rhwng Israel a'r hen Dde Affrica, “Our freedom is incomplete without the freedom of the Palestinians”.[34] a nododd Winnie Mandela:
“Apartheid Israel can be defeated, just as apartheid in South Africa was defeated”[35].
“a system of apartheid, with two peoples occupying the same land but completely separated from each other, with Israelis totally dominant and suppressing violence by depriving Palestinians of their basic human rights.”[36][37]
Ar y llaw arall ceir rhai'n mynegi nad oes apartheid yma; dywedodd Benjamin Pogrund, cynrychiolydd Israel yn y Cenhedloedd Unedig“ Occupation is brutalising and corrupting both Palestinians and Israelis ... [b]ut it is not apartheid. Palestinians are not oppressed on racial grounds as Arabs, but, rather, as competitors — until now, at the losing end — in a national/religious conflict for land.”[38]
Coginio a bwyd
Mae bwyd Israelaidd yn gymysgedd o fwyd lleol a bwyd a ddaeth o bedwar ban y byd, wrth i'r Israeliaid grynhoi yma yn yr 1950au. Datblygwyd math o fwyd a elwir yn Israeli fusion cuisine. Kosher yw'r bwyd mwyaf poblogaidd a chaiff ei goginio yn ôl yr Halakha Iddewig. Gan fod y boblogaeth naill ai'n Iddewon neu'n Fwslemiaid, pur anaml y gwelir cig moch ar y fwydlen.
Ceir sawl cwmni o Israel sy'n allforio eu cynnyrch, ac sy'n cael eu boicotio gan lawer o bobl:
↑Finkelstein, Israel; Silberman, Neil Asher (2001). The Bible unearthed : archaeology's new vision of ancient Israel and the origin of its stories (arg. 1st Touchstone). New York: Simon & Schuster. ISBN978-0-684-86912-4.
* Weill, Sharon (2014). The Role of National Courts in Applying International Humanitarian Law. Oxford University Press. t. 22. ISBN978-0-19-968542-4. Although the basic philosophy behind the law of military occupation is that it is a temporary situation modem occupations have well demonstrated that rien ne dure comme le provisoire A significant number of post-1945 occupations have lasted more than two decades such as the occupations of Namibia by South Africa and of East Timor by Indonesia as well as the ongoing occupations of Northern Cyprus by Turkey and of Western Sahara by Morocco. The Israeli occupation of the Palestinian territories, Nodyn:Underline has already entered its fifth decade. * Azarova, Valentina. 2017, Israel's Unlawfully Prolonged Occupation: Consequences under an Integrated Legal Framework, European Council on Foreign Affairs Policy Brief: "June 2017 marks 50 years of Israel's belligerent occupation of Palestinian territory, making it the longest occupation in modern history."
↑"Israel". Freedom in the World. Freedom House. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-23. Cyrchwyd 20 Mawrth 2012.
↑Rummel 1997. "A current list of liberal democracies includes: Andorra, Argentina, ..., Cyprus, ..., Israel, ..."
↑According to http://www.nytimes.com/pages/books/bestseller/index.html "Best Sellers: Hardcover Nonfiction", New York Times, accessed 27 Ionawr 2007: Palestine Peace Not Apartheid was number 6 on the list as of date accessed. It was listed as number 11 in "New York Times Best Sellers: Hardcover Nonfiction"[dolen farw] on 18 Mawrth 2007, on the list for 15 weeks for the week ending 3 Mawrth 2007. As of 6 Mai 2007 it no longer appears on the expanded list featured at that site
Dynodir gwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol gan lythrennau italig. 1 Cydnabyddir gan Dwrci yn unig. 2 Gyda'r mwyafrif o'i thir yn Affrica. 3 Yn Ne Orllewin Asia yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan o Ewrop am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol. 4 Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 5 Ystyrid weithiau yn rhan o Oceania. 6 Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia. 7 Ystyrid ynysfor Socotra yn rhan o Affrica. 8 Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina. 9 Nid yn llwyr annibynnol.