Singapôr

Singapôr
ArwyddairOnward, Singapore Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, dinas-wladwriaeth, ynys-genedl, dinas, dinas â phorthladd, dinas fawr, tref ar y ffin, gwlad, dinas global, national capital Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSinha Edit this on Wikidata
PrifddinasSingapôr Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,866,139 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Awst 1965 Edit this on Wikidata
AnthemOnward Singapore Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethLawrence Wong Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00, Singapore Standard Time, Asia/Singapore Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGibraltar, P'yŏngyang Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Maleieg, Mandarin safonol, Tamileg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe-ddwyrain Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Singapôr Singapôr
Arwynebedd719.1 km² Edit this on Wikidata
GerllawSingapore Strait, Afon Singapore Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMaleisia, Indonesia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau1.3°N 103.8°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Singapôr Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Singapôr Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Singapôr Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethTharman Shanmugaratnam Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Singapôr Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethLawrence Wong Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadBwdhaeth, Taoaeth, Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$423,797 million, $466,789 million Edit this on Wikidata
ArianSingapore dollar Edit this on Wikidata
Canran y diwaith2.1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.25 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.939 Edit this on Wikidata

Gwlad sofran, dinas ac ynys yn ne-ddwyrain Asia yw Singapôr ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir oddi ar flaen deheuol Gorynys Malaya, 137 km i'r gogledd o'r Cyhydedd. Cysylltir yr ynys â Maleisia gan sarn ar draws Culfor Johor. Singapôr yw un o borthladdoedd prysuraf y byd ac mae wedi dod yn ganolfan ddiwydiannol ac ariannol bwysig ers ei hannibyniaeth oddi wrth Lloegr ym 1965.

Gelwir hi weithiau'n 'Ddinas y Llewod', 'Dinas y Gerddi' neu'n 'Ddotyn Coch'. Hi yw'r unig wlad sofran sydd hefyd yn ynys. Saif un gradd (137 km) i'r gogledd o'r cyhydedd, i lawr i'r de, sydd y rhan mwyaf deheuol o gyfandir Asia. Mae ei thiriogaeth hefyd yn cynnwys 62 ynys arall ac ers ei hannibyniaeth adenillwyd llawer o dir newydd a gwelwyd gynnydd yn ei harwynebedd o 23% (130 km2) yn fwy a cheir gerddi cenedlaethol, er gwaetha dwysedd poblogaeth uchel. Ceir yma dyfiant trofannol hynod.

Eglwys Gadeiriol Sant Andreus

Sefydlwyd y Singapôr fodern yn 1819 gan Syr Stamford Raffles fel porthladd masnashu'r Ymerodraeth Brydeinig. Yn 1867, ad-drefnwyd cytrefi'r Ymerodraeth yn Ne-ddwyrain Asia a daeth Singapôr dan reolaeth uniongyrchol Lloegr fel rhan o Aneddiadau'r Culfor (Straits Settlements). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd , meddiannwyd Singapôr gan Japan, a dychwelodd i reolaeth Prydain fel trefedigaeth y goron pan ildiodd Japan ym 1945. Enillodd Singapôr hunan-lywodraeth oddi wrth y DU ym 1959 ac ym 1963 daeth yn rhan o ffederasiwn newydd Malaysia, ochr yn ochr â Malaya, Gogledd Borneo, a Sarawak. Arweiniodd gwahaniaethau ideolegol at ddiarddel Singapore o'r ffederasiwn ddwy flynedd yn ddiweddarach a daeth yn wlad annibynnol.

Ar ôl blynyddoedd cynnar o gynnwrf ac er gwaethaf diffyg adnoddau naturiol a chefn gwlad, datblygodd y genedl yn gyflym i ddod yn un o'r "Pedwar Teigr Asiaidd" yn seiliedig ar fasnach allanol, gan ddod yn wlad ddatblygedig iawn; mae yn y nawfed safle ym Mynegai Datblygiad Dynol y Cenhedloedd Unedig ac mae ganddo'r CMC ail-uchaf y pen (PPP) yn y byd. Singapôr yw'r unig wlad yn Asia sydd â sgôr sofran AAA gan yr holl brif asiantaethau graddio. Mae'n ganolbwynt ariannol a morol o bwys, wedi'i rhestru'n gyson y ddinas ddrutaf i fyw ynddi ers 2013, ac mae wedi'i nodi fel hafan dreth. Mae Singapôr wedi'i osod yn uchel mewn dangosyddion cymdeithasol allweddol: addysg, gofal iechyd, ansawdd bywyd, diogelwch personol, a thai, gyda chyfradd perchentyaeth o 91%. Mae Singaporiaid yn mwynhau un o ddisgwyliadau oes hira'r byd, cyflymderau cysylltiad Rhyngrwyd cyflymaf ac un o'r cyfraddau marwolaethau babanod isaf yn y byd .

Mae Singapôr yn weriniaeth seneddol unedol gyda system o lywodraeth seneddol unochrog. Er bod etholiadau’n cael eu hystyried yn rhydd yn gyffredinol, mae’r llywodraeth yn arfer rheolaeth eitha llym dros wleidyddiaeth a chymdeithas, ac mae Plaid Weithredu’r Bobl wedi llywodraethu'n ddi-dor ers annibyniaeth. Mae'r wlad yn un o bum aelod sefydlol ASEAN, acyn bencadlys Ysgrifenyddiaeth Cydweithrediad Economaidd Asia-Môr Tawel (APEC) ac Ysgrifenyddiaeth Cyngor Cydweithrediad Economaidd y Môr Tawel (PECC), yn ogystal â llawer o gynadleddau a digwyddiadau rhyngwladol. Mae Singapôr hefyd yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Masnach y Byd, Uwchgynhadledd Dwyrain Asia, Mudiad Heb Aliniad, a Chymanwlad y Cenhedloedd.

Geirdarddiad

Mae'r enw Cymraeg "Singapôr" (a nifer o ieithoedd eraill) yn dod o'r enw brodorol Maleieg am y wlad, Singapura, a oedd yn ei dro'n deillio o'r gair Sansgrit am "ddinas y llew" (a Ladineiddiwyd fel Siṃhapura; Brahmi : 𑀲𑀺𑀁𑀳𑀧𑀼𑀭; yn llythrennol "llew ddinas"; ystyr siṃha yw "llew", ystyr pura yw "dinas" neu "gaer").[1] Ceir cofnod Tsieineeaidd o'r 3g at Pú Luó Zhōng, sy'n swnio fel yMaleieg am "ynys ar ddiwedd penrhyn."[2]

Ceir cyfeiriadau cynnar i'r ew 'Temasek' hefyd, a hynny yn y Nagarakretagama (canu mawl mewn Jafaneg), a ysgrifennwyd yn 1365, ac mewn Fietnameg ceir ffynhonnell o'r un cyfnod. Mae'r enw o bosibl yn golygu "Tref Glan Môr", sy'n deillio o'r gair tasek Malay, sy'n golygu "môr" neu "lyn".[3] Oddeutu tua 1330 ymwelodd y teithiwr Tsieineaidd Wang Dayuan â lle o'r enw Danmaxi neu Tam ma siak, yn dibynnu ar ynganiad. Gall Danmaxi fod yn drawsgrifiad o Temasek (Tumasik), neu fe all fod yn gyfuniad o'r Malay Tanah golygu "tir" a'r gair Tseineeaidd Xi sy'n golygu "tun," a masnachwyd ar yr ynys.[3][4]

Defnyddiwyd amrywiadau o'r enw Siṃhapura ar gyfer nifer o ddinasoedd ledled y rhanbarth cyn sefydlu Teyrnas Singapura. Yn y diwylliant Hindŵaidd-Bwdhaidd, roedd llewod yn gysylltiedig â phŵer ac amddiffyniad (fel ag yr oedd gan Lywelyn Fawr) a allai esbonio atyniad enw o'r fath.[5][6][7]

O dan feddiannaeth Siapan, ailenwyd y wlad am ysbaid yn Syonan ( Shōnan) sy'n golygu "Golau o'r De." [8][9] Weithiau cyfeirir at Singapôr gan y llysenw "Gardd-Ddinas" gan gyfeirio at ei pharciau a'i strydoedd â'i choed.[10] Mabwysiadwyd enw anffurfiol arall, sef " Little Red Dot," ar ôl i cyhoeddi erthygl yn yr Asian Wall Street Journal ar 4 Awst 1998.[11][12][13][14]

Hanes

Yn 1299, yn ôl yr Malay Annals, y sefydlwyd Teyrnas Singapura ar yr ynys gan Sang Nila Utama.[15] Er bod hyn yn destun dadleuon academaidd,[5] mae'n hysbys serch hynny o amrywiol ddogfennau fod Singapôr yn y 14g, a elwid yr adeg honno yn Temasek, yn borthladd masnachu pwysig a rannwyd rhwng yr Ymerodraeth Majapahit a theyrnasoedd Siamese[5] ac roedd yn rhan o'r Indosffer.[16][17][18][19][20] Nodweddwyd y teyrnasoedd Indiaidd hyn gan wytnwch rhyfeddol, uniondeb gwleidyddol a sefydlogrwydd gweinyddol.[21] Dengys ffynonellau hanesyddol hefyd bod y Majapahit neu'r Siamese wedi ymosod ar ei reolwr Parameswara tua diwedd y 14g, gan ei orfodi i symud i Malacca lle sefydlodd Sultanate Malacca.[5] Mae tystiolaeth archaeolegol yn awgrymu bod y prif anheddiad ar Fort Canning wedi'i adael tua'r adeg hon, er i anheddiad masnachu bach barhau yn Singapôr am beth amser wedi hynny.[7] Yn 1613, llosgodd ysbeilwyr Portiwgal yr anheddiad, a diflannodd yr ynys i ebargofiant am y ddwy ganrif nesaf.[22] Erbyn hynny roedd Singapôr yn rhan o'r Sultanate Johor mewn enw.[23] Roedd y rhanbarth morwrol ehangach a llawer o fasnach o dan reolaeth yr Iseldiroedd am y cyfnod canlynol ar ôl concwest yr Iseldiroedd o Malacca.[24]

Gwladychu gan 'Brydain'

Cyrhaeddodd y llywodraethwr Seisnig Stamford Raffles Singapôr ar 28 Ionawr 1819 a chyn hir cydnabu'r ynys fel dewis naturiol ar gyfer porthladd newydd.[25] Yna rheolwyd yr ynys mewn enw gan Tengku Abdul Rahman, Swltan Johor, a oedd yn cael ei reoli gan yr Iseldiroedd a'r Bugis.[26] Fodd bynnag, gwanhawyd y Swltaniaeth: roedd Temenggong (Prif Weinidog) Tengku Abdul Rahman yn deyrngar i frawd hynaf y Sultan, Tengku Long, a oedd yn byw yn alltud yn Riau. Gyda chymorth y Temenggong, llwyddodd Raffles i smyglo Tengku Long yn ôl i Singapore. Cynigiodd Raffles gydnabod Tengku Long fel Sultan haeddiannol Johor, o dan y teitl Sultan Hussein, yn ogystal â darparu taliad blynyddol o $5000 a $3000 arall i'r Temenggong. Yn gyfnewid am hyn, byddai Sultan Hussein yn rhoi’r hawl i Loegr sefydlu porthladd i fasnachu ar Singapôr.[27] Llofnodwyd cytundeb ffurfiol ar 6 Chwefror 1819.[28][29]

Map arolwg 1825. Bu masnach ym mhorthladd rhydd Singapôr am 150 mlynedd. Roedd bryn Fort Canning (canol) yn gartref i'w reolwyr trefedigaethol hynafol a chynnar.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, adeiladodd y Prydeinwyr canolfan i'w Llynges fawr yma fel rhan o'u strategaeth i ddal ei gafael yn Singapôr.[30] Cyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1921, aeth y gwaith o adeiladu'r sylfaen ymlaen nes goresgyniad Manchuria gan Japan ym 1931. Costiodd $60 miliwn ac heb ei gwblhau'n llawn ym 1938, serch hynny, hwn oedd y doc sych mwyaf yn y byd, y doc arnofio trydydd-fwyaf, ac roedd ganddo ddigon o danciau tanwydd i gynnal llynges gyfan Prydain am chwe mis.[30][31][32] Amddiffynnwyd y porthladd yma gan ynna 15 modfedd (380 mm) a oedd wedi'u lleoli yn Fort Siloso, Fort Canning a Labrador, yn ogystal â maes awyr y Llu Awyr Brenhinol yng Nghanolfan Awyr Tengah.

Galwodd Winston Churchill y lle yn " Gibraltar y Dwyrain", ac roedd trafodaethau milwrol yn aml yn cyfeirio at y ganolfan yn syml fel " Dwyrain o Suez ". Fodd bynnag, roedd Fflyd Gartref Prydain wedi'i lleoli yn Ewrop, ac ni allai Lloegr fforddio adeiladu ail fflyd i amddiffyn eu buddiannau yn Asia. Y cynllun oedd i'r Fflyd Gartref hwylio yn gyflym i Singapore pe bai argyfwng. O ganlyniad, ar ôl i'r Ail Ryfel Byd ddechrau ym 1939, roedd y fflyd yn canolbwyntio ar amddiffyn Prydain, gan adael Singapôr yn agored i oresgyniad gan Japan.[33][34]

Yr Ail Ryfel Byd

Lloegr yn ei heglu hi oddi yno, ym 1945 ar ôl ildio Japan. Mae tŵr rheoli Maes Awyr Kallang ger y ddinas wedi'i gadw hyd heddiw.

Yn ystod Rhyfel y Môr Tawel, daeth goresgyniad Japan o Malaya i ben gyda Brwydr Singapôr. Pan ildiodd llu Prydain o 60,000 o filwyr ar 15 Chwefror 1942, galwodd prif weinidog Prydain Winston Churchill y gorchfygiad "y trychineb gwaethaf a'r capitiwleiddio mwyaf yn hanes Prydain".[35] Roedd colledion Prydain a'r Ymerodraeth yn ystod yr ymladd dros Singapôr yn drwm, gyda chyfanswm o bron i 85,000 o bersonél wedi'u cipio.[36] Lladdwyd neu anafwyd tua 5,000;[37] o Awstralia y daeth y mwyafrif. [38][39][40] Lladdwyd 1,714 o Japaneiaid a chlwyfwyd 3,378.[36]

Cyfnod ar ôl y rhyfel

Ar ôl ildio Japan i'r Cynghreiriaid ar 15 Awst 1945, aeth Singapôr gyflwr byr o anarchiaeth, trais ac anhrefn; roedd ysbeilio a lladd i ddial yn eang. Dychwelodd milwyr Prydain, Awstralia ac India dan arweiniad yr Arglwydd Louis Mountbatten i Singapôr i dderbyn ildiad ffurfiol lluoedd Japan yn y rhanbarth gan y Cadfridog Seishirō Itagaki ar ran y Cadfridog Hisaichi Terauchi ar 12 Medi 1945.[41][42] Rhoddwyd Tomoyuki Profwyd Yamashita gerbron y Llys gan gomisiwn milwrol yr Unol Daleithiau am droseddau rhyfel. Fe'i cafwyd yn euog a'i grogi yn Ynysoedd y Philipinau ar 23 Chwefror 1946. [43] [44]

Gweriniaeth Singapôr

Lee Kuan Yew, prif weinidog cyntaf Singapore

Ar ôl cael eu diarddel o Malaysia, daeth yn annibynnol, dan yr enw 'Gweriniaeth Singapôr' Singapôr, ar 9 Awst 1965, gyda Lee Kuan Yew yn brif weinidog a Yusof bin Ishak yn arlywydd cyntaf.[45][46] Yn 1967, cyd-sefydlodd y wlad Gymdeithas Cenhedloedd De-ddwyrain Asia (ASEAN). Dechreuodd terfysgoedd hil unwaith eto ym 1969.[47] Pwysleisiodd Lee Kuan Yew yr ochr economaidd drwy entrepreneuriaeth busnes, a chyfyngiadau ar ddemocratiaeth fewnol, a llwyddodd yn ei ymgais.[48][49] Parhaodd twf economaidd trwy gydol yr 1980au, gyda'r gyfradd ddiweithdra yn gostwng i 3% a thwf CMC go iawn ar gyfartaledd tua 8% hyd at 1999. Yn ystod yr 1980au, dechreuodd Singapôr symud tuag at ddiwydiannau uwch-dechnoleg, er mwyn parhau i fod yn gystadleuol yn erbyn gwledydd cyfagos drwy gynhyrchu gyda llafur rhatach. Agorwyd Maes Awyr 'Changi Singapore' ym 1981 a ffurfiwyd Singapore Airlines.[50] Daeth Porthladd Singapôr yn un o borthladdoedd prysuraf y byd a thyfodd y diwydiannau gwasanaeth a thwristiaeth yn aruthrol yn ystod y cyfnod hwn.[51][52]

Llywodraeth a gwleidyddiaeth

Yr Istana yw preswylfa swyddogol a swyddfa'r Arlywydd, yn ogystal â swyddfa weithredol y Prif Weinidog.

Gweriniaeth seneddol yw Singapôr sy'n seiliedig ar system San Steffan, oherwydd y cysylltiad a fu yn y gorffennol. Cyfansoddiad y wlad yw cyfraith oruchaf y wlad, gan sefydlu strwythur a chyfrifoldeb y llywodraeth. Yr arlywydd yw pennaeth y wladwriaeth ac mae'n arfer pŵer gweithredol ar gyngor ei weinidogion. Y prif weinidog yw pennaeth y llywodraeth ac fe’i penodir gan yr arlywydd fel y person sydd fwyaf tebygol o ennyn hyder mwyafrif y Senedd. Dewisir y Cabinet gan y prif weinidog a'i benodi'n ffurfiol gan yr arlywydd.[53]

Milwrol

Mae byddin Singapôr, y gellir dadlau ei fod y mwyaf datblygedig, yn dechnolegol, yn Ne-ddwyrain Asia,[54] yn cynnwys y fyddin, y llynges, a'r llu awyr. Fe'i gwelir fel gwarantwr annibyniaeth y wlad.[55][56] Mae'r llywodraeth yn gwario 4.9% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y wlad ar y fyddin - sy'n uchel yn ôl safonau rhanbarthol [54] - ac mae un o bob pedair doler o wariant y llywodraeth yn cael ei wario ar amddiffyn.[57]

Hawliau Dynol

Mae Cornel yr Areithwyr yn Chinatown yn darparu man cyhoeddus ac ardal lle gellir siarad yn rhydd, sydd wedi'i gyfyngu mewn rhannau eraill o'r ynys.

Yn 2020, roedd Singapôr yn y 158fed safle allan o 180 o genhedloedd gan 'Ohebwyr Heb Ffinia'u ym Mynegai Rhyddid y Wasg 'Worldwide'.[58] Yn hanesyddol, mae'r llywodraeth wedi cyfyngu ar ryddid barn a rhyddid y wasg ac wedi cyfyngu rhai hawliau sifil a gwleidyddol.[59] Cyfyngir ar yr hawl i ryddid barn a chymdeithas a warantir gan Erthygl 14 (1) o Gyfansoddiad Singapôr gan is-adran (2) ddilynol yr un Erthygl.[60] Mae Freedom House yn graddio Singapôr fel "rhannol rydd" yn ei adroddiad Rhyddid yn y Byd,[61] ac mae Uned Cudd-wybodaeth yr Economegydd yn graddio Singapôr fel "democratiaeth ddiffygiol", yr ail reng orau o bedwar, yn ei " Mynegai Democratiaeth".[62][63] Yn etholiad cyffredinol 2015 Singapôr, enillodd Plaid Weithredu'r Bobl (PAP) 83 o 89 sedd a ymladdwyd â 70% o'r bleidlais boblogaidd.[64] Roedd yr etholiadau diweddaraf yng Ngorffennaf 2020, gyda Phlaid Gweithredu'r Bobl (PAP) yn ennill 83 o 93 sedd a ymladdwyd â 61% o'r bleidlais boblogaidd.

Mae Amnest Rhyngwladol wedi dweud bod rhai o ddarpariaethau cyfreithiol system Singapôr yn gwrthdaro â’r “hawl i gael eich rhagdybio’n ddieuog nes eich profi’n euog”.[65] Mae'r llywodraeth wedi dadlau yn erbyn honiadau Amnest, gan nodi nad yw eu "safbwynt ar ddileu'r gosb eithaf yn wrthwynebus yn rhyngwladol o bell ffordd" a bod yr Adroddiad yn cynnwys "gwallau difrifol o ffeithiau a chamddarluniadau".[66] Mae system farnwrol Singapore yn cael ei hystyried yn un o'r rhai mwyaf dibynadwy yn Asia.[67] Mae masnachu mewn rhyw yn Singapôr yn broblem sylweddol. Mae menywod a merched o Singapôr a merched tramor wedi cael eu gorfodi i buteindra mewn puteindai ac wedi cael eu cam-drin yn gorfforol ac yn seicolegol.[68][69][70] Mae deddf sy'n dyddio o 1938 yn gwahardd cysylltu rhywiol rhwng dynion, ond anaml y gorfodir y gyfraith. Ar y llaw arall, mae cysylltiadau rhywiol rhwng menywod yn gyfreithiol.[71]

Daearyddiaeth

Canol Singapôr

Mae Singapôr yn cynnwys 63 o ynysoedd, gan gynnwys y brif ynys, Pulau Ujong.[72] Ynys Jurong, Pulau Tekong, Pulau Ubin a Sentosa yw'r mwyaf o ynysoedd Singapôr. Y pwynt naturiol uchaf yw Bryn Bukit Timah yn sy'n 163 metr o chder.[73] O dan lywodraeth Prydain, roedd Ynys y Nadolig a'r Ynysoedd Cocos yn rhan o Singapôr, ond trosglwyddwyd y ddau i Awstralia ym 1957.[74][75][76] Pedra Branca yw pwynt mwyaf dwyreiniol y genedl.[77]

Mae prosiectau adfer tir wedi cynyddu arwynebedd tir Singapore o 580 km sgwar yn y 1960au i 710 km sg erbyn 2015, cynnydd o ryw 22% (130 km 2).[78] Rhagwelir y bydd y wlad yn adennill 56 km sg yn y dyfodol agos.[79] Mae rhai prosiectau'n cynnwys uno ynysoedd llai trwy adfer tir i ffurfio ynysoedd mwy, fel y gellir byw arnynt, fel y gwnaed gydag Ynys Jurong.[80] Mae'r math o dywod a ddefnyddir wrth adfer i'w gael mewn afonydd a thraethau, yn hytrach nag anialwch, ac mae galw mawr amdano ledled y byd. Yn 2010 mewnforiodd Singapôr bron i 15 miliwn tunnell o dywod ar gyfer ei phrosiectau, gyda'r galw yn golygu bod Indonesia, Malaysia a Fietnam i gyd wedi cyfyngu neu wahardd allforio tywod i Singapôr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, yn 2016 newidiodd Singapôr i ddefnyddio polderi ar gyfer adfer, lle mae ardal wedi'i hamgáu ac yna ei bwmpio'n sych.[81]

Mae Gerddi Botaneg Singapore yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO - un o dair gardd yn y byd, a'r unig ardd drofannol, i gael ei chydnabod felly.

Natur

Mae trefoli Singapôr yn golygu ei bod wedi colli 95% o'i choedwigoedd hanesyddol,[82] ac erbyn hyn mae dros hanner y ffawna a'r fflora sy'n digwydd yn naturiol yn Singapôr yn bresennol mewn gwarchodfeydd natur yn unig, fel Gwarchodfa Natur Bukit Timah a Gwarchodfa Gwlyptir Sungei Buloh, sy'n cynnwys dim ond 0.25% o arwynebedd tir Singapôr.[82] Yn 1967, er mwyn brwydro yn erbyn y dirywiad hwn mewn gerddi a pharciau naturiol, cyflwynodd y llywodraeth y weledigaeth o wneud Singapôr yn "ardd-ddinas",[83] gyda'r nod o wella ansawdd bywyd i'w dinasyddion.[84] Ers hynny, mae bron i 10% o dir Singapore wedi'i neilltuo ar gyfer parciau a gwarchodfeydd natur[85] a cheir cynlluniau i warchod y bywyd gwyllt sy'n weddill yn y wlad gan y Llywodraeth.[86] Mae gerddi adnabyddus Singapôr yn cynnwys Gerddi Botaneg Singapôr, gardd drofannol 161 oed a Safle Treftadaeth y Byd UNESCO cyntaf yn Singapore.[87]

Hinsawdd

Mae gan Singapôr hinsawdd coedwig law drofannol (Köppen: Af ) heb dymhorau nodedig, tymheredd a gwasgedd unffurf, lleithder uchel, a glawiad toreithiog.[88][89] Mae'r tymheredd fel arfer yn amrywio o 23 to 32 °C (73 to 90 °F). Er nad yw'r tymheredd yn amrywio'n fawr trwy gydol y flwyddyn, ceir tymor monswn gwlypach rhwng Tachwedd a Chwefror.[90]

Rhwng Gorffennaf a mis Hydref, yn aml tawch a mwg a achosir gan danau yn Indonesia gyfagos, fel arfer o ynys Sumatra.[91] Mae Singapôr yn dilyn parth amser GMT + 8, awr o flaen y parth nodweddiadol ar gyfer ei leoliad daearyddol.[92] Mae hyn yn achosi i'r haul godi a machlud yn arbennig o hwyr yn ystod mis Chwefror, lle mae'r haul yn codi am 7:15 y bore ac yn machlud tua 7:20 yp. Yn ystod Gorffennaf, mae'r haul yn machlud tua 7:15 yp. Y cynharaf y bydd yr haul yn codi ac yn machlud yw ddiwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd pan fydd yr haul yn codi am 6:46 am ac yn gosod am 6:50 yp.[93]

Economi

Singapore Airlines celebrated the nation's Golden Jubilee with a flag livery on its Airbus A380
Dathlodd <i>Singapore Airlines</i>, Jiwbilî Aur y genedl yn 2015 gyda baner y wlad ar ei Airbus A380 .

Mae gan Singapôr economi a marchnad ddatblygedig iawn. Ynghyd â Hong Kong, De Korea, a Taiwan, mae Singapore yn un o'r Pedwar Teigr Asiaidd, ac mae wedi rhagori ar y gwledydd eraill o ran Cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) y pen. Rhwng 1965 a 1995, roedd cyfraddau twf ar gyfartaledd oddeutu 6% y flwyddyn, a bu i'r cynnydd hwn drawsnewid safonau byw'r boblogaeth.[94]

Mae economi Singapôr yn cael ei ystyried yn rhydd,[95] yn arloesol,[96] yn ddeinamig [97] ac yn gyfeillgar i fusnes.[98] Am sawl blwyddyn, mae'r wlad wedi bod yn un o'r ychydig[99] sydd â statws credyd AAA, a'r unig wlad Asiaidd i gyflawni'r sgôr yma.[100] Mae wedi denu llawer iawn o fuddsoddiad tramor o ganlyniad i'w lleoliad, gweithlu medrus, cyfraddau treth isel, seilwaith datblygedig a dim goddefgarwch yn erbyn llygredd.[101] Hi yw economi fwyaf cystadleuol y byd, yn ôl safle Fforwm Economaidd y Byd o 141 o wledydd,[102] gyda'r ail GDP uchaf y pen.[103][104] Ceir mwy na 7,000 o gorfforaethau rhyngwladol o'r Unol Daleithiau, Japan ac Ewrop yn Singapôr.[105][106] Er gwaethaf rhyddid y farchnad, mae lywodraeth Singapore ei bus ym mrywes yr economi, gan gyfrannu 22% o'r CMC.[107] Dywedir fod y ddinas yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau crofforaethol mawr.[108]

Cyfeiriadau

  1. "Singapore". bartleby.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 April 2001. Cyrchwyd 13 Mai 2020.
  2. "Singapore: History, Singapore 1994". Asian Studies @ University of Texas at Austin. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mawrth 2007. Cyrchwyd 13 Mai 2020.
  3. 3.0 3.1 Singapore Street Names: A Study of Toponymics. Marshall Cavendish. 15 Mehefin 2013. t. 381. ISBN 9789814484749.
  4. John N. Miksic (15 Tachwedd 2013). Singapore and the Silk Road of the Sea, 1300–1800. NUS Press. tt. 171–182. ISBN 978-9971695743.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Miksic 2013.
  6. Joshua Lee (6 December 2016). "5 other places in Asia which are also called Singapura". Mothership. Cyrchwyd 13 Mai 2020.
  7. 7.0 7.1 Turnbull, C.M. (2009). A History of Modern Singapore, 1819–2005. NUS Press. tt. 21–22. ISBN 978-9971-69-430-2.
  8. Abshire, Jean (2011). The History of Singapore. ABC-CLIO. t. 104. ISBN 978-0-313-37743-3.
  9. Blackburn, Kevin; Hack, Karl (2004). Did Singapore Have to Fall?: Churchill and the Impregnable Fortress. Routledge. t. 132. ISBN 978-0-203-40440-9.
  10. inc, Encyclopaedia Britannica (1991). The New Encyclopædia Britannica (arg. 15th). Chicago: Encyclopædia Britannica. t. 832. Bibcode:1991neb..book.....G. ISBN 978-0-85229-529-8. "Singapore, known variously as the 'Lion City,' or 'Garden City,' the latter for its many parks and tree-lined streets
  11. Glennie, Charlotte; Ang, Mavis; Rhys, Gillian; Aul, Vidhu; Walton, Nicholas (6 Awst 2015). "50 reasons Singapore is the best city in the world". CNN. Cyrchwyd 13 Mai 2020. The Lion City. The Garden City. The Asian Tiger. The 'Fine' City. All venerable nicknames, and the longtime favourite is the 'Little Red Dot'
  12. "A little red dot in a sea of green". The Economist. London. 16 Gorffennaf 2015. ..with a characteristic mixture of pride and paranoia, Singapore adopted 'little red dot' as a motto
  13. "Editorial: The mighty red dot". The Jakarta Post. 8 Medi 2017. Cyrchwyd 13 Mai 2020.
  14. "Habibie truly admired the 'Little Red Dot'", Today (Singapore newspaper), 20 Medi 2006.
  15. Malay Annals. 1821. t. 43.
  16. Dixon, Robert M.W.; Alexandra, Y. (2004). Adjective Classes: A Cross-linguistic Typology. Oxford University Press. t. 74. ISBN 0-19-920346-6.
  17. Matisoff, James (1990), "On Megalocomparison", Language 66 (1): 106–120, doi:10.2307/415281, JSTOR 415281
  18. Enfield, N.J. (2005), "Areal Linguistics and Mainland Southeast Asia", Annual Review of Anthropology 34: 181–206, doi:10.1146/annurev.anthro.34.081804.120406, http://pubman.mpdl.mpg.de/pubman/item/escidoc:57458/component/escidoc:57459/Enfield_2005_areal.pdf
  19. Lavy, Paul A.. "As in Heaven, So on Earth: The Politics of Visnu Siva and Harihara Images in Preangkorian Khmer Civilisation". Journal of Southeast Asian Studies (academia edu) 34 (1): 21–39. doi:10.1017/S002246340300002X. https://www.academia.edu/2635407. Adalwyd 23 December 2015.
  20. "Results of the 1995–1996 Archaeological Field Investigations at Angkor Borei, Cambodia" (PDF). University of Hawai'i-Manoa. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 23 Medi 2015. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2015.
  21. Pierre-Yves Manguin, "From Funan to Sriwijaya: Cultural continuities and discontinuities in the Early Historical maritime states of Southeast Asia", in 25 tahun kerjasama Pusat Penelitian Arkeologi dan Ecole française d'Extrême-Orient, Jakarta, Pusat Penelitian Arkeologi / EFEO, 2002, p. 59-82.
  22. Borschberg, P. (2010). The Singapore and Melaka Straits. Violence, Security and Diplomacy in the 17th century. Singapore: NUS Press. tt. 157–158. ISBN 978-9971-69-464-7.
  23. "Country Studies: Singapore: History". U.S. Library of Congress. Cyrchwyd 1 Mai 2007.
  24. Leitch Lepoer, Barbara, gol. (1989). Singapore: A Country Study. Country Studies. GPO for tus/singapore/4.htm. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
  25. Mun Cheong Yong; V. V. Bhanoji Rao (1995). Singapore-India Relations: A Primer. NUS Press. t. 3. ISBN 978-9971-69-195-0.
  26. Trocki, Carl A. (2009). Singapore: Wealth, Power and the Culture of Control. Routledge. t. 73. ISBN 978-1-134-50243-1.
  27. "Singapore – Founding and Early Years". U.S. Library of Congress. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2006.
  28. Ng, Jenny (7 Chwefror 1997). "1819 – The February Documents". Ministry of Defence. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-17. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2006.
  29. "Milestones in Singapore's Legal History". Supreme Court, Singapore. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Medi 2007. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2006.
  30. 30.0 30.1 Stille, Mark (2016). Malaya and Singapore 1941–42: The fall of Britain's empire in the East. Bloomsbury Publishing. tt. 5–6. ISBN 978-1-4728-1124-0.
  31. Tan, Kevin (2008). Marshall of Singapore: A Biography. Institute of Southeast Asian Studies. tt. 90–. ISBN 978-981-230-878-8.
  32. Hobbs, David (2017). The British Pacific Fleet: The Royal Navy's Most Powerful Strike Force. Naval Institute Press. t. 5. ISBN 978-1-61251-917-3.
  33. Lamb, Margaret; Tarling, Nicholas (2001). From Versailles to Pearl Harbor: The Origins of the Second World War in Europe and Asia. Macmillan International Higher Education. t. 39. ISBN 978-1-4039-3772-8.[dolen farw]
  34. Tan, Kevin (2008). Marshall of Singapore: A Biography. ISBN 978-981-230-878-8.
  35. "On This Day – 15 February 1942: Singapore forced to surrender". BBC News. 15 Chwefror 1942. Cyrchwyd 1 Mai 2007.
  36. 36.0 36.1 Wigmore 1957.
  37. "Battle of Singapore". World History Group. Cyrchwyd 8 Mai 2015.
  38. Legg 1965.
  39. Ooi, Teresa (17 Ionawr 1995). "1,000 Aussie victims of WWII join suit against Japan". The Straits Times. Singapore.
  40. "South West Pacific War: Australia's Fine Record". The Straits Times. Singapore. 12 Medi 1946.
  41. Bose 2010.
  42. "The real Japanese surrender" (PDF). The Sunday Times. Singapore. 4 Medi 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 19 Ionawr 2008. Cyrchwyd 22 Hydref 2019.
  43. Smith 2006.
  44. "Yamashita Hanged". Malaya Tribune. 23 Chwefror 1946.
  45. "Past and present leaders of Singapore | Infopedia". eresources.nlb.gov.sg. Cyrchwyd 28 Mai 2020.
  46. "Yusof to be the first President". eresources.nlb.gov.sg. Cyrchwyd 28 Mai 2020.
  47. Sandhu, Kernial Singh; Wheatley, Paul (1989). Management of Success: The Moulding of Modern Singapore. Institute of Southeast Asian Studies. t. 107. ISBN 978-981-3035-42-3.
  48. Terry McCarthy, "Lee Kuan Yew."
  49. "Lee Kuan Yew: Our chief diplomat to the world". The Straits Times. Singapore. 25 Mawrth 2015.
  50. "History of Changi Airport". Civil Aviation Authority of Singapore. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2006.
  51. "LUNCH DIALOGUE ON 'SINGAPORE AS A TRANSPORT HUB'". Lee Kuan Yew School of Public Policy. Lee Kuan Yew School of Public Policy. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.
  52. Lam, Yin Yin. "Three factors that have made Singapore a global logistics hub". The World Bank Blogs. The World Bank. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.
  53. Morgan, Grace, gol. (2016). A Guide to the Singapore Constitution. Singapore Management University. tt. 33–36.
  54. 54.0 54.1 Moss, Trefor (18 Ionawr 2010). "Buying an advantage". Jane's Defence Review. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2010.
  55. "SAF remains final guarantor of Singapore's independence". Singapore: Channel NewsAsia. 1 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-16. Cyrchwyd 19 Chwefror 2011.
  56. "Lunch Talk on "Defending Singapore: Strategies for a Small State" by Minister for Defence Teo Chee Hean" (Press release). 21 April 2005. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2007-10-24. https://web.archive.org/web/20071024173928/http://www.mindef.gov.sg/imindef/news_and_events/nr/2005/apr/21apr05_nr2.html. Adalwyd 2021-10-16.
  57. "S'pore to boost expenditure, raise defence spending". AsiaOne. Singapore. 13 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ionawr 2012. Cyrchwyd 13 Hydref 2011.
  58. "An alternative way to curtail press freedom". RSF (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 April 2020.
  59. "The government of Singapore says it welcomes criticism, but its critics still suffer". The Economist. London. 9 Mawrth 2017.
  60. "Constitution of the Republic of Singapore – Singapore Statutes Online". sso.agc.gov.sg (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Mai 2020.
  61. "Freedom in the World 2010 – Singapore". Freedom House. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-07. Cyrchwyd 12 Mehefin 2011.
  62. "Singapore". Freedom House. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2014. Cyrchwyd 28 Mai 2014.
  63. The Economist Intelligence Unit (8 Ionawr 2019). "Democracy Index 2018: Me Too?". The Economist Intelligence Unit. Cyrchwyd 13 Ionawr 2019.
  64. Lee, U-Wen. "PAP racks up landslide win, takes 83 out of 89 seats". Business Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Medi 2015. Cyrchwyd 13 Medi 2015.
  65. "Singapore: The death penalty – A hidden toll of executions". Amnesty International. 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ionawr 2012. Cyrchwyd 1 Mai 2011.
  66. "The Singapore Government's Response To Amnesty International's Report 'Singapore – The Death Penalty: A Hidden Toll Of Executions'" (Press release). 30 Ionawr 2004. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2007-11-14. https://web.archive.org/web/20071114130039/http://www.mha.gov.sg/basic_content.aspx?pageid=74. Adalwyd 2021-10-16.
  67. "Hong Kong has best judicial system in Asia: business survey". ABS-CBN News. Quezon City. Agence France-Presse. 15 Medi 2008. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2016.
  68. "How a 14-year-old girl was trafficked to Singapore and locked up". Asia One. 2017.
  69. "Sex trafficking in Singapore: How changes to the law Mai protect women duped into prostitution". CNA. 10 Tachwedd 2019.
  70. "'She had lost all reason to live': Undoing the horrors of being trafficked to Singapore and seeking justice". cna. 15 Chwefror 2020.
  71. Wong, Jonathan (2 Hydref 2018). "Government has not curbed public prosecutor's discretion for Section 377A: A-G Lucien Wong". The Straits Times.
  72. Savage, Victor R.; Yeoh, Brenda S.A. (2004). Toponymics: A Study of Singapore's Street Names. Singapore: Eastern Universities Press. ISBN 978-981-210-364-2.
  73. "Bukit Timah Hill". National Heritage Board. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 April 2015. Cyrchwyd 11 Ionawr 2015.
  74. Commonwealth and Colonial Law by Kenneth Roberts-Wray, London, Stevens, 1966.
  75. Department of External Affairs in Australia. (16 Mai 1957): Report from the Australian High Commission in Singapore to the Department of External Affairs in Australia.
  76. "All set for transfer". The Straits Times. Singapore. 16 Mai 1958. t. 2.
  77. "Pedra Branca". Ministry of Foreign Affairs. Cyrchwyd 4 Chwefror 2020.
  78. "Such quantities of sand". The Economist. London. 28 Chwefror 2015.
  79. "MND Land Use Report". Ministry of National Development. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Chwefror 2013.
  80. "Earthshots: Satellite Images of Environmental Change: Singapore". Earthshots. Cyrchwyd 14 April 2015.
  81. "New ideas to feed a growing island". The Straits Times. Singapore. 4 Chwefror 2018.
  82. 82.0 82.1 Brook, Barry W.; Sodhi, Navjot S.; Ng, Peter K.L. (24 Gorffennaf 2003). "Catastrophic extinctions follow deforestation in Singapore". Nature 424 (6947): 420–426. Bibcode 2003Natur.424..420B. doi:10.1038/nature01795. ISSN 0028-0836. PMID 12879068. https://archive.org/details/sim_nature-uk_2003-07-24_424_6947/page/420.
  83. ""Garden City" vision is introduced". History SG. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2016.
  84. "Singapore, A City in a Garden" (PDF). National Parks Board. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 24 Mawrth 2014.
  85. "Speech by MOS Desmond Lee at the Asia for Animals Conference Gala Dinner". National Development Ministry. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 17 Ionawr 2014.
  86. "National Initiatives". National Biodiversity Reference Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2007. Cyrchwyd 26 Medi 2009.
  87. "Singapore Botanic Gardens declared UNESCO World Heritage Site". Channel NewsAsia. 4 Gorffennaf 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2017.
  88. "Climate of Singapore |". www.weather.gov.sg. Cyrchwyd 28 Mai 2020.
  89. McKnight, Tom L. (Tom Lee); Hess, Darrel (2000). Physical geography : a landscape appreciation. Internet Archive. Upper Saddle River, N.J. : Prentice Hall. Cyrchwyd 28 Mai 2020.
  90. "Singapore National Environment Agency Weather Statistics". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Hydref 2016. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2016.
  91. Bond, Sam (2 Hydref 2006). "Singapore enveloped by Sumatran smog". Edie newsroom. Cyrchwyd 2 Mehefin 2011.
  92. Mok Ly Yng (22 Medi 2010). "Why is Singapore in the 'Wrong' Time Zone?". National University of Singapore. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 5 Mai 2020.
  93. "Astronomical and Tidal Information | Monthly Data |". www.weather.gov.sg. Cyrchwyd 31 Mai 2020.
  94. Baten, Jörg (2016). A History of the Global Economy. From 1500 to the Present. Cambridge University Press. t. 292. ISBN 978-1-107-50718-0.
  95. Li, Dickson (1 Chwefror 2010). "Singapore is most open economy: Report". Asiaone. Singapore. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2010. Cyrchwyd 10 Mai 2011.
  96. "Singapore ranked 7th in the world for innovation". The Straits Times. Singapore. 5 Mawrth 2010. Cyrchwyd 23 Awst 2010.
  97. "Singapore jumps to top of Global Dynamism Index". The Straits Times. Singapore. 29 Hydref 2015.
  98. "Singapore top paradise for business: World Bank". AsiaOne. Singapore. Agence France-Presse. 26 Medi 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd 22 April 2010. For the second year running, Singapore tops the aggregate rankings on the ease of doing business in 2006 to 2007.
  99. "The AAA-rated club: which countries still make the grade?". The Guardian. London. 15 Hydref 2014.
  100. Ogg, Jon C. (8 Awst 2011). "Remaining countries with AAA credit ratings". NBC News. Cyrchwyd 12 Hydref 2011.
  101. "CPIB Corruption Statistics 2015" (PDF). World Bank. 2 April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 22 Mawrth 2016.
  102. "Singapore is world's most competitive economy: World Economic Forum". Straits Times. 9 Hydref 2019.
  103. "Report for Selected Countries and Subjects". www.imf.org. Cyrchwyd 7 Hydref 2019.
  104. "Report for Selected Countries and Subjects". www.imf.org. Cyrchwyd 7 Hydref 2019.
  105. "MNCs: Why you should set up a subsidiary in Singapore". Hawksford. Cyrchwyd 23 Awst 2021.
  106. "44 Percent of Workforce Are Non-Citizens" (our estimate)". Your Salary in Singapore. 15 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Chwefror 2016.
  107. Seung-yoon Lee (9 April 2014). "Ha-Joon Chang: Economics Is A Political Argument". HuffPost. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2014.
  108. "Singapore remains top Asian city for meetings". The Straits Times. Singapore. 9 Medi 2015.