Lluman yr Awyrlu Brenhinol
Yr Awyrlu Brenhinol neu'r Llu Awyr Brenhinol (Saesneg : Royal Air Force neu'r RAF ) yw llu awyr y Deyrnas Unedig .
Cafodd ei greu yn 1918 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf trwy uno'r Corfflu Awyr Brenhinol (y Royal Flying Corps neu'r RFC, sefydlwyd 1912 ) a'r Gwasanaeth Awyr Brenhinol Llyngesol (y Royal Naval Air Service neu'r RNAS).
Cafodd ei ffurfio mewn pryd i weithredu ym mrwydrau olaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhwng y rhyfeloedd bu'n ymladd yn achlysurol mewn rhannau o'r Ymerodraeth Brydeinig fel Irac a Talaith Ffin y Gogledd-orllewin (Pacistan heddiw) yn erbyn gwrthryfelwyr. Chwaraeodd ran allweddol yn yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop , e.e. ym Mrwydr Prydain pan ymosododd y Luftwaffe ar Brydain.
Cymerodd ran yn Rhyfel y Gwlff a Rhyfel Irac ac mae rhai unedau'n rhan o'r llu Prydeinig sydd yn ne Irac heddiw, yn nhalaith Basra . Mae'n gweithredu yn Affganistan yn ogystal.
Gweinyddir yr RAF gan Adran y Llu Awyr yn y Weinyddiaeth Amddiffyn , sy'n rhan o lywodraeth y DU yn Llundain .
Mae gan yr RAF sawl gwersyll yng Nghymru . Y pwysicaf yw RAF y Fali , gerllaw Y Fali , Ynys Môn .