Dydw i ddim yn cyfaddef, er enghraifft, bod cam mawr wedi'i wneud i Indiaid Cochion America neu bobl ddu Awstralia. Nid wyf yn cyfaddef bod cam wedi'i wneud i'r bobl hyn oherwydd bod hil gryfach, hil o radd uwch, hil doethach na nhw, wedi dod i mewn ac wedi cymryd eu tiroedd.[1]
”
Bu'n ohebydd rhyfel yn ystod Rhyfel y Boer 1899–1902 ac yn un o gyd-wleidyddion David Lloyd George tra’n aelod o’r Blaid Ryddfrydol cyn newid ei liwiau gwleidyddol i fod yn aelod o’r Blaid Geidwadol. Yn ystod y 1930au bu’n gyson ei feirniadaeth o bolisi Prydain tuag at Hitler ac yn 1940 olynodd Neville Chamberlain fel arweinydd Llywodraeth Prydain. Gwasanaethodd fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd a ddaeth i ben yn 1945. Collodd Churchill a’r Blaid Geidwadol Etholiad Cyffredinol 1945 ond dychwelodd fel Prif Weinidog rhwng 1951 a 1955. Roedd yn gwrthwynebu ffurfio'r NHS gan y Cymro Aneurin Bevan]] a'r Blaid Lafur. Roedd hefyd yn awdur llyfrau hanes.
Teulu
Roedd Churchill yn fab i’r Arglwydd Randolph Churchill a’i wraig Jennie (cyfenw morwynol Jerome). Roedd ei dad, yr Arglwydd Randolph Churchill, yn wleidydd Ceidwadol uchel ei barch.
1902 - Mentrodd i'r byd gwleidyddol fel AS Ceidwadol, gan newid plaid yn ddiweddarach ac ymuno â’r Rhyddfrydwyr. Daeth yn gyfeillgar â Lloyd George a gyda’i gilydd gwthion nhw lawer o ddiwygiadau cymdeithasol trwy’r Senedd.
1910 – Gorchmynnodd anfon milwyr i dorri streic y glowyr yn Nhonypandy
1914 - Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, dewiswyd Churchill i fod yn gyfrifol am y Llynges Frenhinol fel Prif Arglwydd y Morlys. Roedd yn Brif Arglwydd egnïol ac effeithlon, ond beirniadwyd ei gynlluniau i ymosod ar Dwrci a Gallipoli. Rhoddwyd y bai ar Churchill a bu’n rhaid iddo ymddiswyddo. Aeth i ymladd wedyn ar y Ffrynt Gorllewinol gyda Ffiwsilwyr Brenhinol y Sgotiaid.
1917 – Gyda Lloyd George yn Brif Weinidog cafodd swydd yn y llywodraeth, sef Gweinidog Arfau Rhyfel. Gweithiodd Churchill yn galed i gyflymu’r cyflenwad o arfau rhyfel ar gyfer y ffrynt. Yna cafodd swydd fel y Gweinidog Rhyfel.
1922 - Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf arhosodd David Lloyd George mewn grym tan 1922. Wedi hynny, arhosodd Churchill yn y Llywodraeth gan ymuno â’r Ceidwadwyr unwaith eto.
1924 - 1929 Bu’n Ganghellor y Trysorlys yn llywodraeth Doriaidd Stanley Baldwin rhwng 1924 a 1929. Yn y cyfnod hwn, roedd yn cael ei ddrwgdybio gan y pleidiau gwleidyddol eraill. Ni allai llawer o’i gyd Geidwadwyr ymddiried ynddo oherwydd iddo fod yn Rhyddfrydwr ar un adeg, ac roedd y Rhyddfrydwyr wedi colli ffydd ynddo oherwydd iddo droi at y Torïaid. Enynodd gasineb y glowyr oherwydd ei orchymyn i anfon milwyr i dorri streic y glowyr yn Nhonypandy yn 1910 ac atgasedd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC: Trade Union Congress) am ei ymdrechion i dorri’r Streic Gyffredinol yn 1926. Erbyn 1929 roedd wedi cweryla â sawl aelod o’i blaid ei hun ac yn feirniadol iawn o bolisïau’r llywodraeth.
1940-45 Roedd yn Brif Weinidog Prydain adeg yr Ail Ryfel Byd ac arweiniodd y wlad i fuddugoliaeth yn erbyn yr Almaen Natsïaidd.
1945 – Collodd y Blaid Geidwadol yr Etholiad Cyffredinol. Y Blaid Lafur dan arweiniad Clement Attlee oedd bellach mewn grym.
1951 – Ailetholwyd ef yn Brif Weinidog ar lywodraeth Dorïaidd
1955 – Ymddiswyddodd fel Prif Weinidog oherwydd afiechyd ond parhaodd i fod yn Aelod Seneddol tan 1964.[2][3]
Terfysg Tonypandy
Er bod Churchill fel arfer yn cael ei gofio fel arweinydd llwyddiannus yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn Ne Cymru roedd drwgdeimlad yn ei erbyn (sy'n parhau hyd heddiw) oherwydd y ffordd y deliodd â streic glowyr Tonypandy ym 1910.[4]
Gwrthdaro treisgar rhwng glowyr a’r heddlu oedd Terfysg Tonypandy yn 1910 sy’n cael ei weld fel anghydfod diwydiannol mwyaf chwerw’r cyfnod.
Un o brif ddigwyddiadau Terfysg Tonypandy oedd yr hyn a ddigwyddodd nos Fawrth, 8 Tachwedd 1910, pan fu’r streicwyr yn ymladd â’u dyrnau yn erbyn Heddlu Morgannwg, oedd â Heddlu Dinas Bryste wrth gefn. Ymyrrodd yr heddlu pan ddechreuodd y streicwyr dorri ffenestri busnesau yn Nhonypandy. Anfonwyd galwadau gan swyddogion lleol at Lywodraeth Llundain i gael cymorth milwrol i ymdopi â’r sefyllfa fygythiol. Oherwydd y penderfyniad gan Winston Churchill, fel yr Ysgrifennydd Cartref, i anfon milwyr i’r ardal i gefnogi’r heddlu’n fuan ar ôl y terfysgoedd ar 8 Tachwedd, bu drwgdeimlad tuag ato yn Ne Cymru gydol ei fywyd. Mae cyfrifoldeb a rôl Winston Churchill yn y terfysgoedd yn parhau i fod yn bwnc llosg sydd wedi ysgogi cryn ddadlau ac anghytuno ymysg haneswyr.[5][6]
Mae rhai haneswyr o’r farn bod ei benderfyniad i anfon y milwyr wedi achosi mwy o wrthdaro a chynyddu’r gwrthwynebiad i brotestiadau’r gweithwyr ac yn y pen draw wedi arwain at fethiant streic y gweithwyr.[4]
Yr Ail Ryfel Byd
I’r rhan fwyaf o bobl Prydain, roedd y cynghreiriaid yn fuddugol yn 1945 o ganlyniad i arweinyddiaeth ysbrydoledig Churchill.
Yn ystod y 1930au roedd Churchill wedi bod yn un o feirniaid mwyaf llafar ‘polisi dyhuddo’ Llywodraeth Stanley Baldwin a Neville Chamberlain. Roedd yn awyddus iawn i berswadio’r llywodraeth a phobl Prydain i beidio ag ymddiried yn Stalin, Mussolini na Hitler oherwydd credai bod y polisi dyhuddo yn gamgymeriad a fyddai’n arwain at ryfel yn y pen draw. Ond ychydig iawn a wrandawodd ar ei rybuddion ynglŷn â pheryglon comiwnyddiaeth, ffasgaeth a Natsïaeth. Nid oedd y cyhoedd eisiau gwrando arno. Roeddent yn ofni'r posibilrwydd o ryfel arall, ac felly roedd yn well ganddyn nhw gredu yn y polisi tramor heddychlon yr oedd Baldwin a Chamberlain yn ei ddilyn. Roedd ffordd Churchill o ddelio â phobl fel Hitler yn ymddangos yn ymosodol iddyn nhw, ac felly roedd yn siŵr o arwain at ryfel.
Gyda chychwyn y rhyfel ym mis Medi 1939 roedd rhybuddion Churchill wedi dod yn wir. Rhoddodd y Prif Weinidog, Neville Chamberlain rôl Prif Arglwydd y Morlys i Churchill. Ar ôl yr ymosodiad ar Ffrainc ym mis Mai 1940, ac ar ôl araith bwerus gan Lloyd George yn dweud wrtho y dylai fynd, ymddiswyddodd Chamberlain. Roedd rhai Aelodau Seneddol o blaid rhoi swydd y Prif Weinidog i ddirprwy Chamberlain, Arglwydd Halifax, ond yn y pen draw, cytunwyd mai Churchill fyddai’r dyn mwyaf addas i arwain y llywodraeth glymblaid newydd.
Roedd Churchill yn arweinydd rhyfel poblogaidd. Dechreuodd godi ysbryd truenus pobl Prydain drwy roi areithiau angerddol ac ymweld yn bersonol ag amrywiol rannau o’r wlad. Byddai’n mynd ar daith o amgylch y dinasoedd a oedd wedi cael eu bomio i ddangos cefnogaeth pan oedd y Blitz ar ei waethaf. Hyd yn oed pan oedd Prydain yn dioddef problemau difrifol fel Dunkirk ym mis Mai 1940, y gorchfygiad yn rhyfel y diffeithdir ym mis Ionawr 1941 a chwymp Singapôr i Japan ym mis Chwefror 1942, roedd Churchill yn codi ysbryd ei gydwladwyr drwy roi’r argraff ei fod yn credu’n gryf y bydden nhw’n ennill y rhyfel. Roedd yn areithiwr penigamp a oedd yn medru ysbrydoli pobl.
Dechreuodd ‘Ymgyrch at Fuddugoliaeth’ Churchill ym mrwydr El Alamein ym mis Hydref 1942. Penododd y Cadfridog Montgomery i arwain Byddin Prydain yng Ngogledd Affrica yn llwyddiannus. Trechwyd yr Almaenwyr yn llwyr yn El Alamein ac eto yn Tiwnisia a Sisili.
Churchill wnaeth annog cadfridogion y cynghreiriaid i oresgyn yr Eidal ym mis Gorffennaf 1943 a Ffrainc (D-Day) ym mis Mehefin 1944. Wedi ei annog gan Stalin i lansio ymosodiad yn Ewrop, fel y byddai’r Almaenwyr yn gorfod ymladd ar ddwy ffrynt, ac ar ôl i UDA ymuno â’r rhyfel, penderfynodd Churchill bod ymosodiad gan y Cynghreiriaid ar Ewrop yn allweddol i ennill y rhyfel yn Ewrop. Mynnodd, serch hynny, bod angen cynllunio gofalus a chymerwyd bron i ddwy flynedd i wneud hynny. Cynlluniwyd ymosodiad y Cynghreiriaid yn Ewrop gan y Cadfridog Dwight Eisenhower, Pencadlywydd Cynghreiriol (Supreme Allied Commander) a ffug-enw’r ymosodiad oedd Operation Overlord. Yn 1953 etholwyd Eisenhower yn Arlywydd UDA. Olynwyd ef yn y swydd gan John Fitzgerald Kennedy yn 1961.[7]
Drwy ei waith caled sicrhaodd Churchill bod arweinwyr rhyfel y cynghreiriaid, sef Franklin D. Roosevelt yn UDA a Stalin yn yr Undeb Sofietaidd, yn rhoi eu gwahaniaethau o’r neilltu er mwyn trechu Hitler a’r Almaen.[2]
"Odious design expressing nothg. but spite, malice, ill-will and monstrosity.
Words (Red Dragon takes the lead) are untrue and unduly flattering to Bevan."[8]
Geiriau hiliol
India
Am bobl India dywedodd Churchill,“I hate Indians. They are a beastly people with a beastly religion.” [9] Yn ystod Newyn Bengal, dywedodd Churchill na fyddai cymorth yn cyflawni dim gan fod yr Indiaid yn "breeding like rabbits", ond yna mi wnaeth ofyn i'w ysgrifennydd trafnidiaeth sut mai anfon bwyd i India.[10]
Tseina
Dywedodd Churchill am bobl Tseina, "I hate people with slit eyes and pigtails. I don't like the look of them or the smell of them – but I suppose it does no great harm to have a look at them."[11][12]
Pobl ddu
Fe wnaeth Churchill ddweud am bobl ddu, "did not really think that black people were as capable or as efficient as white people".[13]
Palestiniaid
Dywedodd am y Palestiniaid eu bod yn "barbaric hordes who ate little but camel dung".[14]
Irac
Dywedodd Churchill am ddefnyddio arfau cemegol yn Irac, "I am strongly in favour of using poisoned gas against uncivilised tribes."[15]
Marwolaeth
Bu farw yn Llundain ar Ionawr 24, 1965 a chladdwyd ef ym Mynwent Eglwys Sant Martin, Bladon. Rhoddwyd angladd gwladol iddo.
Cyfeiriadau
↑gwefan y BBC; Yn 1937, dywedodd wrth y Palestine Royal Commission:
'"I do not admit for instance, that a great wrong has been done to the Red Indians of America or the black people of Australia. I do not admit that a wrong has been done to these people by the fact that a stronger race, a higher-grade race, a more worldly wise race to put it that way, has come in and taken their place."'; adalwyd 31 Rhagfyr 2024.