Llyfrgell genedlaethol Sbaen yw'r Biblioteca Nacional de España, a leolir ym Madrid. Mae'n dal dros 9 miliwn o gyfrolau.[1] Sefydlwyd gan Felipe V, brenin Sbaen ym 1712 fel y Real Biblioteca Pública (y "llyfrgell gyhoeddus frenhinol"); ers hynny mae copi o bob llyfr a gyhoeddwyd yn Sbaen wedi'i dodi yn y llyfrgell. Rhoddwyd yr enw bresennol iddi ym 1836.[2]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol