Tiwnisia

Tiwnisia
ArwyddairRhyddid, urddas, cyfiawnder, a threfn Edit this on Wikidata
Mathgwlad, gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, un o wledydd môr y canoldir Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTiwnis Edit this on Wikidata
PrifddinasTiwnis Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,565,204 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd20 Mawrth 1956 (Teyrnas)
25 Gorffennaf 1957 (Gweriniaeth)
AnthemHimat al Hima Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAhmed Hachani Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, CET, UTC+2, Africa/Tunis Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSeto Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGogledd Affrica, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd163,610 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLibia, Algeria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34°N 10°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Tiwnisia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cynrychiolwyr y Bobl Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Tiwnisia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethKais Saied Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Tiwnisia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAhmed Hachani Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$46,687 million, $46,665 million Edit this on Wikidata
ArianDinar Tiwnisaidd Edit this on Wikidata
Canran y diwaith13 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.2 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.731 Edit this on Wikidata
Map o Diwnisia

Gwlad Arabaidd yng Ngogledd Affrica, sy'n gorwedd rhwng Algeria yn y gorllewin a Libia yn y dwyrain, ac yn wynebu Sisili a de'r Eidal a Môr y Canoldir yn y gogledd yw Gweriniaeth Tiwnisia.[1] Ei phrifddinas yw Tiwnis.

Daearyddiaeth

Lleolir Tiwnisia ar ran fwyaf gogleddol cyfandir Affrica, ar ganol arfordir y gogledd. Ynys Sicilia yw'r tir Ewropeaidd agosaf, 80 km i'r gogledd-ddwyrain dros Gulfor Sicilia. Ar y tir Algeria a Libia yw ei chymdogion. Mae ganddi arfordir 1400 km hir ac amrywiol ar y Môr Canoldir.

Porthladd Bizerte

Gydag arwynebedd tir o ddim ond 164,000 km², Tiwnisia yw'r wlad leiaf yng Ngogledd Affrica. Mae'n mesur 750 km o'r anialwch yn y de i'r Cap Blanc, pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica, yn y gogledd, ond dim ond 150 km ar ei lletaf o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn dopograffyddol mae'r wlad yn ymrannu'n ddwy ardal; y gogledd mynyddig a'r de lled-wastad.

Y prif gadwyn mynydd yw'r Dorsal, sy'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir Mynyddoedd yr Atlas sy'n cychwyn ym Moroco yn Atlas Uchel. Mae'n rhedeg ar gwrs gogledd-ddwyreiniol o Tébessa ar y ffin ag Algeria hyd Zaghouan i'r de o Diwnis. Mae'n cynnwys y pwynt uchaf yn y wlad, Jebel Chambi (1544m), i'r gorllewin o Kasserine. Mae'r Dorsal yn gorffen mewn cyfres o fryniau isel yng ngorynys Cap Bon.

Gorwedd y rhan fwyaf o dir amaethyddol da y wlad i'r gogledd o'r llinell hon. Yn hanesyddol hon oedd grawnfa y Rhufain hynafol. Mae'n cynnwys gwastadeddau uchel y Dorsal ei hun, sef y Tell, a dyffryn ffwrythlon afon Medjerda. Afon Medjerda yw'r unig afon barhaol yn y wlad. I'r gogledd o ddyfryn Medjerda ceir mynyddoedd coediog y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir y gogledd o'r ffin ag Algeria, ger Tabarka, i gyfeiriad Bizerte, ger Tiwnis, lle mae'n rhedeg allan mewn gwastadedd arfordirol isel.

Olewydd ger Sfax

I'r de o'r Dorsal ceir ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr. Dyma'r Sahel, sy'n enwog am ei holewydd a'i dêts. Ymhellach i'r de mae'r tir yn troi'n fwyfwy sych a cheir sawl chott (llyn halen) yma ac acw. Serch hynny mae'r tir ar hyd yr arfordir yn ffrwythlon lle ceir dŵr ac yn cynnal rhai trefi mawr megis Sousse a Sfax.

I lawr yn y de ei hun mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn orchuddiedig gan y rhan ddwyreiniol yr Erg Mawr Dwyreiniol, sy'n llenwi rhan fawr o dde-ddwyrain Algeria yn ogystal ac yn rhan o aniladiroedd y Sahara. Yr unig dir ffrwythlon yw'r gwerddonau a'r stribed o dir ar yr arfordir.

Gweler hefyd:Rhestr dinasoedd a threfi yn Nhiwnisia

Hinsawdd

Mae gan ogledd Tiwnisia hinsawdd sy'n nodweddiadol o'r Môr Canoldir, gyda hafau hir, sych a phoeth a gaeafau cymhedrol a gwlyb. Mae mynyddoedd y Dorsal a Kroumirie yn cael eira weithiau. Wrth fynd i'r de mae'r hinsawdd yn troi'n boethach a sychach gyda phrin modfedd o law yn disgyn mewn blwyddyn yn yr Erg Mawr.

Hanes

Mae gan Tiwnisia hanes hir a chyfoethog. Berberiaid oedd y trigolion brodorol. Glaniodd y Ffeniciaid yn yr 8g CC a sefydlu dinas Carthago (Carthag) a dyfodd i fod yn un o ddinasoedd grymusaf yr Henfyd gyda thir a dinasoedd yn ei meddiant ar hyd arfordir y Maghreb (Moroco ac Algeria heddiw), yn Sisili, Sardinia a'r Ynysoedd Balearig a dwyrain Sbaen. Yn Nhiwnisia ei hun roedd 'na ddinasoedd pwysig yn Utica, Kerkouane, Hadrametum (Sousse heddiw) a lleoedd eraill.

Yn yr olaf o'r tri Rhyfel Pwnig syrthiodd Carthago a'i chwaer-ddinasoedd yn Nhiwnisia i ddwylo'r Rhufeiniaid. Daeth y rhan fwyaf o Diwnisia yn dalaith Rufeinig a elwid Affrica am mai Ifriquiya oedd yr enw brodorol am ogledd Tiwnisia gan y Berberiaid. Blodeuodd Carthago eto fel dinas Rufeinig a chodwyd nifer o ddinasoedd a threfi eraill sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd archaeolegol Rhufeinig gorau yn y byd heddiw, e.e. Dougga, Bulla Regia, El Djem a Sbeitla.

Iaith a Diwylliant

Mae Tiwnisia yn wlad ddwyieithog gyda dwy iaith swyddogol, sef Arabeg a Ffrangeg. Arabeg yw mamiaith pawb bron ond mae Ffrangeg yn cael ei siarad yn dda gan bobl sydd wedi derbyn addysg. Defnyddir Ffrangeg i gyd ag Arabeg mewn sefydliadau addysg uwch. Ceir rhaglenni Ffrangeg ar y teledu ac mae radio yn yr iaith yn gwasanaethu'r wlad o Diwnis. Cyhoeddir sawl papur newydd a chylchgrawn Ffrangeg yn ogystal. Mae gan Tiwnisia lenyddiaeth fywiog yn yr iaith Ffrangeg hefyd. Mewn rhannau o'r de a'r dwyrain ceir ychydig o siaradwr iaith Berber.

Mae hanes llenyddiaeth Tiwnisia yn gyfoethog. Llenyddiaeth Ffrangeg yw'r diweddaraf i ymuno â'i ffrwd. Cyn hynny roedd gan y wlad lenorion yn yr iaith Ffeniceg a'r iaith Ladin. Cynhyrchodd y wlad llenorion enwog fel Terens, Apuleius a Sant Awstin yn ystod y cyfnod clasurol. Arabeg yw iaith bwysicaf hanes llenyddiaeth Tiwnisia, wrth gwrs, ac yn cynnwys yn ei datblygiad ffigurau fel yr hanesydd enwog Ibn Khaldun. Y llenor diweddar mwyaf dylanwadol oedd Chebbi.

O ran crefydd, mae 99% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ond ceir rhai Cristnogion hefyd, yn arbennig yn nhrefi'r gogledd. Ar un adeg bu gan y wlad boblogaeth bur sylweddol o Iddewon, yn arbennig yn y brifddinas ac yn Djerba, ond ymudodd y mwyafrif ohonynt yn sgîl sefydlu Israel.

Y Theatr Ddinesig, Tiwnis

Economi

Mae Tiwnisia yn wlad gymharol ddatblygedig sy'n un o sefydlwyr Undeb y Maghreb Arabaidd.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi, [Tiwnisia].

Dolenni Allanol

Llywodraeth Tiwnisia a Newyddion am y wlad

Arolygon

Twristiaeth ac amryw