Gwlad fawr yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth Swdan neu Swdan (hefyd Sudan neu Siwdan). Mae'n ffinio â'r Aifft i'r gogledd, Eritrea ac Ethiopia i'r dwyrain, De Swdan i'r de, Gweriniaeth Canolbarth Affrica a Tsiad i'r gorllewin a Libia i'r gogledd-orllewin. Mae'r Môr Coch yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain ac mae Afon Nîl yn llifo trwy'r wlad. Yn y Cyfrifiad Cenedlaethol diwethaf, roedd poblogaeth Swdan yn 40,533,330 (2017)[1].
Hanes
Hanes cynnar Swdan
Hyd at ddechrau'r 5ed ganrif, bron iawn, cefnogai'r Ymerodraeth Rufeinig dylwyth y Nobatae, a ddefnyddiai deyrnas Meroë fel amddiffynfa rhwng yr Aifft a thylwyth y Blemmyae. Tua'r flwyddyn 350 OC, daeth annibyniaeth Meroë i ben, pan ddinistriwyd y ddinas gan fyddin o Abyssinia.
Teyrnasoedd Cristnogol
Erbyn y 6ed ganrif, ymddangosodd tair gwladwriaeth newydd: Nobatia yn y gogledd, Muqurra yn y canolbarth, ac Alawa (oedd a'i phrifddinas ger safle Khartoum heddiw). Tua 540, anfonodd Theodora, ymerodres Bysantiwm, genhadwyr i hybu'r EfengylGristnogol yn Nobatia. Derbyniodd brenhinoedd Nubia awdurdod patriarchaid eglwys Goptig yr Aifft.
Dyfod Islam
Wedi sawl ymgais aflwyddiannus ar wladychiad milwrol, arwyddodd lluoedd Arabaidd o'r Aifft gyfres o gytundebau (AlBaqt) gyda'r Nubiaid. Bu'r cytundebau yn sail i berthynas yr Arabiaid a'r Nubiaid am gyfnod o dros 600 mlynedd. Lledaenodd Islam trwy'r ardal yn raddol iawn, trwy briodi a masnachu gyda mewnfudwyr a masnachwyr Arabaidd. Ym 1315, esgynodd tywysog o Fwslim o dras Nubiaidd i orsedd Dunqulah.
Ymddyngasodd dau grŵp Arabeg eu hiaith, y Jaali a'r Juhayna. Yn gorfforol, roeddynt yn ddi-dor gyda'r boblogaeth gyn-Islamaidd. Mae elfennau Arabaidd a Nubiaidd i ddiwylliant gogledd Swdan sydd ohoni.
Teyrnas Sinnar
Yn yr 17eg ganrif, ymddangosodd pobl y Funj yn neheubarth Nubia, gan gymryd lle adfeilion teyrnas Gristnogol, gan sefydlu As-Saltana az-Zarqa.
Rheolaeth o'r Aifft - 1821-1885
Yn 1820, daeth gogledd Swdan dan reolaeth Muhammad Ali, rhaglaw yr Ymerodraeth Otomanaidd yn yr Aifft. Gydag annogaeth o Brydain, ceisiodd Ismail Pasha, estyn y ddylanwad Eifftaidd tua'r de yn y blynyddoedd 1863-1879.
Gwrthryfel Mahdaidd
Ysgogwyd Muhammad ibn Abdalla i arwain wrthryfel oherwydd cam-lywodraeth Eifftaidd a dymuniad i burháu Islam yn Swdan. Ym 1885, lladdwyd y Cadfridog prydeinig Charles George Gordon, gadawodd yr Eifftiaid, a sefydlwyd wladwriaeth grefyddol Mahdaidd newydd.