Gwlad yng ngogledd Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Algeria neu Algeria. Mae hi ar arfordir y Môr Canoldir a'r gwledydd cyfagos yw Tiwnisia i'r gogledd-ddwyrain, Libia i'r dwyrain, Niger i'r de-ddwyrain, Mali a Mawritania i'r de-orllewin a Moroco i'r gorllewin. Mae rhan helaeth o'r wlad yn gorwedd yn anialwch y Sahara. Mae bron y cyfan o'i phoblogaeth o 44 miliwn yn y gogledd eithaf, ar hyd yr arfordir ac ym mryniau'r Anti-Atlas, rhan o gadwyn Mynyddoedd yr Atlas. Alger yw'r brifddinas ac mae arwynebedd yn wlad yn 2,381,741 km sg (919,595 mill sg). Algeria, felly, yw'r wlad fwyaf o ran arwynebedd yn Affrica, y byd Arabaidd, ac ym masn y Môr Canoldir.
Cyn 1962 gwelodd Algeria lawer o ymerodraethau yn ceisio ei meddiannu, gan gynnwys y Numidiaid, y Ffeniciaid, Carthaginiaid, Rhufeiniaid, Fandaliaid, Byzantines, Umayyadiaid, Abbasidiaid, Rustamidiaid, Almohads, Zayyanids, Sbaenwyr, Ottomaniaid ac yn olaf, Ffrainc. Mae mwyafrif llethol poblogaeth Algeria yn Arabaiaid-Berber, yn ymarfer Islam, ac yn defnyddio ieithoedd swyddogol Arabeg a Berber. Fodd bynnag, oherwydd hanes trefedigaethol Ffrainc a'u hymyraeth yn y wlad hon, mae'r Ffrangeg yn gwasanaethu fel iaith weinyddol ac addysg mewn rhai cyd-destunau, ac Arabeg Algeria yw'r brif iaith lafar.
Mae Algeria yn weriniaeth lled-arlywyddol, gydag etholaethau lleol o 58 talaith a 1,541 comiwn. Mae Algeria yn bwer rhanbarthol (regional power) yng Ngogledd Affrica, ac yn bŵer canol mewn materion byd-eang. Mae ganddi'r Mynegai Datblygiad Dynol uchaf o'r holl wledydd yn Affrica nad ydynt yn ynysoedd ac mae ganddi un o'r economïau mwyaf ar gyfandir Affrica, wedi'i seilio'n bennaf ar allforion ynni. Mae ganddi hefyd gronfeydd olew 16ed mwya'r byd a'r nawfed gronfa fwyaf o nwy naturiol. Sonatrach, y cwmni olew cenedlaethol, yw'r cwmni mwyaf yn Affrica, ac mae'n cyflenwi llawer iawn o nwy naturiol i Ewrop. Mae byddin Algeria yn un o'r mwyaf yn Affrica, ac mae gan y wlad y gyllideb amddiffyn fwyaf ar y cyfandir. Mae'n aelod o'r Undeb Affricanaidd, y Gynghrair Arabaidd, OPEC, y Cenhedloedd Unedig, ac Undeb Arabaidd Maghreb.
Geirdarddiad
Mae enw'r wlad yn deillio o ddinas Algiers sydd yn ei dro yn deillio o'r Arabeg al-Jazāʾir ( الجزائر , "Yr Ynysoedd"),[1] ffurf byr o'r enw Jazāʾir Banī Mazghanna ( جزائر بني مزغنة , sef "Ynysoedd Llwyth y Mazghanna"),[2][3][4].
Hanes
Cynhanes a hanes hynafol
Yn ardal Ain Hanech yn Nhalaith Saïda, darganfuwyd gweddillion cynnar (200,000 CC) o hominid oedd yn byw yma. Cynhyrchodd y Neanderthaliaid fwyelli llaw yn yr arddulliau Levalloisian a Mousterian (43,000 CC) tebyg i'r rhai yn y Levant.[5][6] Algeria oedd safle'r datblygiad uchaf o ran technegau offer Flake Hen Oes y Cerrig Canol.[7] Gelwir offer yr oes hon, sy'n cychwyn tua 30,000 CC, yn Aterian (ar ôl safle archeolegol Bir el Ater, i'r de o Tebessa).
Gelwir y diwydiannau llafn cynharaf yng Ngogledd Affrica yn Iberomaurusia, ac fe'u ceir yn rhanbarth Oran, yng ngogledd-orllewin Algeria, yn bennaf. Mae'n ymddangos bod y diwydiant hwn wedi lledaenu ledled rhanbarthau arfordirol y Maghreb rhwng 15,000 a 10,000 CC. Datblygodd gwareiddiad Neolithig (dofi anifeiliaid ac amaethyddiaeth) ym Maghreb y Sahara a Môr y Canoldir efallai rhwng 11,000 CC[8] a 2000 CC. Roedd y bywyd hwn, a ddarlunnir yn gyfoethog ym mhaentiadau Tassili n'Ajjer, yn amlwg yn Algeria tan y cyfnod clasurol. Ymunodd y gymysgedd o bobloedd Gogledd Affrica yn y pen draw â phoblogaeth frodorol benodol a ddaeth i gael eu galw'n Berberiaid, sef pobloedd brodorol gogledd Affrica.[9]
O'u prif ganolfan pŵer yn Carthago, ehangodd a sefydlodd y Carthaginiaid aneddiadau bach ar hyd arfordir Gogledd Affrica; erbyn 600 CC, roedd y Ffenicia yn Tipasa, i'r dwyrain o Cherchell, Hippo Regius (Annaba fodern) a Rusicade (Skikda fodern). Roedd yr aneddiadau hyn yn gwasanaethu fel trefi marchnad yn ogystal ag angori'r genedl.
Wrth i bŵer Carthaginian dyfu, cynyddodd ei ddylanwad ar y boblogaeth frodorol yn ddramatig. Roedd gwareiddiad Berber wedi datblygu o fewn cyfnod lle roedd amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, masnach a threfniadaeth wleidyddol yn gefn i sawl gwladwriaeth. Tyfodd cysylltiadau masnach rhwng Carthago a'r Berberiaid, ond arweiniodd ehangu tiriogaethol hefyd at gaethiwo neu recriwtio milwrol rhai Berberiaid.
Erbyn dechrau'r 4g CC, roedd Berberiaid yn ffurfio'r elfen unigol fwyaf o'r fyddin Carthaginaidd. Rhwng 241 a 238 CC yng "Ngwrthryfel yr Hurfilwyr", gwrthryfelodd milwyr Berber, ar ôl bod yn ddi-dâl yn dilyn trechu Carthago yn y Rhyfel Pwnig Cyntaf.[10] Fe lwyddon nhw i reoli llawer o diriogaeth Carthago yng Ngogledd Affrica, a buont yn bathu darnau arian yn dwyn yr enw 'Libya', a ddefnyddir yng Ngwlad Groeg i ddisgrifio brodorion Gogledd Affrica. Dirywiodd y wladwriaeth Carthaginaidd oherwydd i'r Rhufeiniaid eu trechu yn y Rhyfeloedd Pwnig.[11]
Erbyn yr ail ganrif CC, roedd sawl teyrnas Berber fawr wedi eu sefydlu. Sefydlwyd dau ohonynt yn Numidia, y tu ôl i'r ardaloedd arfordirol a reolir gan Carthago. I'r gorllewin o Numidia gorweddai Mauretania, a oedd yn ymestyn ar draws Afon Moulouya ym Moroco heddiw i Gefnfor yr Iwerydd. Cyrhaeddwyd uchafbwynt gwareiddiad y Berberiaid yn ystod teyrnasiad Masinissa yn yr 2il ganrif CC.
Ar ôl marwolaeth Masinissa ym 148 CC, rhannwyd ac adunwyd teyrnasoedd y Berber sawl gwaith. Goroesodd llinell Masinissa tan 24 OC, pan atodwyd gweddill tiriogaeth y Berber i'r Ymerodraeth Rufeinig.
Am sawl canrif rheolwyd Algeria gan y Rhufeiniaid, a sefydlodd lawer o gytrefi yn y rhanbarth. Fel gweddill Gogledd Affrica, roedd Algeria yn un o ffynonellau bara'r Ymerodraeth Rufeinig, gan allforio grawnfwydydd a chynhyrchion amaethyddol eraill.
Symudodd FandaliaidGermanaidd Geiseric i Ogledd Affrica yn 429, ac erbyn 435 roedd Numidia arfordirol dan eu rheolaeth.[12] Ni wnaethant fwrw gwreiddiau yn y tiroedd hyn, fodd bynnag, gan fod llwythau lleol yn aflonyddu arnynt.
Yn ystod rheolaeth y Rhufeiniaid, dim ond y Bysantiaid, y Fandaliaid a'r Carthaginiaid oedd yr unig rai yng Ngogledd Affrica a barhaodd yn genedloedd annibynnol.[13][14][15][16] Fe wnaeth pobl Kabyle wrthsefyll y Rhufeiniaid mor lwyddiannus fel bod ganddyn nhw reolaeth a meddiant dros eu mynyddoedd hyd yn oed yn ystod concwest Arabaidd Gogledd Affrica.[17][18]
Canol oesoedd
Ar ôl gwrthwynebiad bychan gan y bobl leol, fe orchfygodd Arabiaid Mwslimaidd (o'r Umayyad Caliphate) Algeria ar ddechrau'r 8g.
Trodd nifer fawr o'r Berberiaid brodorol tuag at Islam.[19] Ar ôl cwymp yr Umayyad Caliphate, daeth nifer o ymerodraethau lleol i'r amlwg, gan gynnwys ymerodraethau'r Rustamids, Aghlabids, Fatimids, Zirids, Hammadids, Almoravids, Almohads a'r Abdalwadid. Gadawodd y Cristnogion mewn tair ton: ar ôl y goncwest gychwynnol, yn y 10g a'r 11g. Cafodd yr olaf eu symud i Sisili gan y Normaniaid a bu farw'r ychydig oedd yn weddill yn y 14g.[19]
Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd Gogledd Affrica yn gartref i lawer o ysgolheigion, seintiau ac sofraniaid gan gynnwys Jwda Ibn Quraysh, y gramadegydd cyntaf i sôn am yr ieithoedd Semitaidd a'r Berber, y meistri Sufi mawr Sidi Boumediene (Abu Madyan) a Sidi El Houari, a'r Emirs Abd Al Mu'min ac Yāghmūrasen. Yn ystod yr amser hwn y daeth y Fatimidiaid neu blant Fatima, merch Muhammad, i'r Maghreb. Aeth y "Fatimidiaid" hyn ymlaen i sefydlu llinach hirhoedlog yn ymestyn ar draws y Maghreb, Hejaz a'r Lefant, gyda llywodraeth fewnol seciwlar, yn ogystal â byddin a llynges bwerus, a oedd yn cynnwys Arabiaid a Lefantiaid yn bennaf yn ymestyn o Algeria i'w prifddinas Cairo .
Gwnaeth gwladwriaeth Islamaidd Fatimid, a elwir hefyd yn Fatimid Caliphate ymerodraeth Islamaidd a oedd yn cynnwys Gogledd Affrica, Sisili, Palestina, Gwlad yr Iorddonen, Libanus, Syria, yr Aifft, arfordir Môr Coch Affrica, Tihamah, Hejaz ac Yemen.[20][21] Roedd Caliphates o Ogledd Affrica yn masnachu gydag ymerodraethau eraill, yn ogystal â bod yn rhan o rwydwaith o gefnogaeth a masnach cydffederal â gwladwriaethau Islamaidd eraill yn ystod y Cyfnod Islamaidd.
Ehangwyd rheolaeth y Berberiaid dros yr holl Maghreb, rhan o Sbaen[22] ac yn fyr dros Sisili,[23] ac erbyn yr 11g dim ond y Ziriaid a oedd yn parhau, ac yn rheoli Ifriqiya modern. Roedd y Zirids yn cydnabod goruchafiaeth caliphs Fatimid Cairo. Penderfynodd El Mu'izz, rheolwr Zirid ddod â'r gydnabyddiaeth hon i ben a datgan ei annibyniaeth.[24][25]
Y Berberiaid a Chymru
Yn y 16g a’r 17g cododd Syr Thomas Mostyn o ardal Llandudno bedwar tŵr ar arfordir gogledd Cymru fel mannau gwylio, rhag ymosodiadau y Berberiaid (neu'r 'Barbari') o Ogledd Affrica a'r Twrc. Dyma'r pedwar: Tŵr Bryniau (neu 'Cadair Freichiau Nain'), Cadair y Rheithor (Llandrillo yn Rhos), Bryn Tŵr (Abergele) a Thŵr Chwitffordd.
Byddai'r Almohads sy'n tarddu o Foroco heddiw, er iddo gael ei sefydlu gan ddyn sy'n tarddu o Algeria [26] o'r enw Abd al-Mu'min yn cymryd rheolaeth dros y Maghreb yn fuan. Yn ystod Ymerodraeth Almohad, llwyth Abd al-Mu'min, y Koumïa, oedd prif gefnogwyr yr orsedd a chorff pwysicaf yr ymerodraeth.[27] Gan drechu’r Ymerodraeth Almoravid a chymryd rheolaeth dros Moroco yn 1147,[28] fe wnaethant wthio i mewn i Algeria ym 1152, gan gymryd rheolaeth dros Tlemcen, Oran, ac Algiers,[29] a chymeryd rheolaeth oddi wrth yr Arabiaid Hilian, ac erbyn yr un flwyddyn fe wnaethant drechu Hammadidau a oedd yn rheoli Dwyrain Algeria.[29]
Oes Otomanaidd
Yn 1516 symudodd y preifatiriaid Otomanaidd Aruj a Hayreddin Barbarossa, a oedd yn frodyr i'w gilydd, ac a oedd yn gweithredu'n llwyddiannus o dan yr Hafsids, eu canolfan i Algiers. Llwyddon nhw i orchfygu Jijel ac Algiers o'r Sbaenwyr gyda chymorth y bobl leol, ond yn y pen draw, llofruddiodd y brodyr yr uchelwr lleol Salim al-Tumi a chymryd rheolaeth dros y ddinas a'r rhanbarthau cyfagos. Pan laddwyd Aruj ym 1518 yn ystod ei oresgyniad o Tlemcen, olynodd Hayreddin ef fel cadlywydd milwrol Algiers. Rhoddodd y swltan Otomanaidd fintai o ryw 2,000 o Janisariaid iddo. Gyda chymorth y grym hwn ac Algeriaid brodorol, fe orchfygodd Hayreddin yr ardal gyfan rhwng Cystennin ac Oran.[30][31]
Gwladychu Ffrengig (1830–1962)
Goresgynnodd a daliodd y Ffrancwyr Algiers ym 1830.[32][33] Ysgrifennodd yr hanesydd Ben Kiernan ar goncwest Ffrainc ar Algeria: "Erbyn 1875, roedd y goncwest Ffrengig yn gyflawn. Roedd y rhyfel wedi lladd oddeutu 825,000 o Algeriaid brodorol er 1830." [34] Rhwng 1831 i 1851 roedd 92,329 o Ffrancwyr wedi marw mewn ysbyty a dim ond 3,336 wrth ymladd.[35][36] Cyrhaeddodd poblogaeth Algeria, a oedd oddeutu 2.9 miliwn ym 1872, bron i 11 miliwn ym 1960.[37] Roedd polisi Ffrainc yn seiliedig ar "wareiddio'r" wlad.[38] Daeth y fasnach gaethweision a môr-ladrad yn Algeria i ben yn dilyn concwest Ffrainc.
Achosodd cyfuniad o epidemigau trais ac afiechyd i'r boblogaeth frodorol o Algeria ostwng bron i draean rhwng 1830 a 1872.[39][40]
Yn ystod yr amser hwn, dim ond y Kabyliaid a wrthwynebodd y Ffrancwyr; ni wladychwyd y Kabyliaid tan ar ôl gwrthryfel Mokrani ym 1871.
Yn ystod diwedd y 19g a dechrau'r 20g, roedd y gyfran Ewropeaidd bron yn un rhan o bump o boblogaeth Algeria. Nod llywodraeth Ffrainc oedd cymhathu Algeria yn rhan o Ffrainc, ac roedd hyn yn cynnwys buddsoddiadau addysgol sylweddol yn enwedig ar ôl 1900. Roedd y gwrthwynebiad diwylliannol a chrefyddol cynhenid yn fawr, ond cadwodd Algeria ei sgiliau unigol.[41]
Yn raddol, arweiniodd anfodlonrwydd ymhlith y boblogaeth Fwslimaidd, a oedd heb statws gwleidyddol ac economaidd o dan y system drefedigaethol, at alwadau am fwy o ymreolaeth wleidyddol ac yn y pen draw annibyniaeth oddi wrth Ffrainc.
Ym mis Mai 1945, cafodd y gwrthryfel yn erbyn y goresgynwyr Ffrengig ei atal trwy'r gyflafan Sétif a Guelma. Daeth tensiynau rhwng y ddau grŵp i ben ym 1954, pan ddechreuodd digwyddiadau treisgar cyntaf yr hyn a elwid yn ddiweddarach yn Rhyfel Algeria ar ôl cyhoeddi'r Datganiad ar 1 Tachwedd 1954 . Mae haneswyr wedi amcangyfrif bod rhwng 30,000 a 150,000 o Harkiaid a'u dibynyddionteuluoedd wedi'u lladd gan y Front de Libération Nationale (FLN) neu gan lynch mobs yn Algeria.[43] Defnyddiodd yr FLN ymosodiadau taro-a-ffoi yn Algeria a Ffrainc fel rhan o'i ryfel, ac aeth Ffrainc ati'n ddidrugaredd i ddial arnyn nhw.
Arweiniodd y rhyfel at farwolaeth cannoedd ar filoedd o Algeriaid a chafwyd cannoedd o filoedd o anafiadau ar ben hynny. Mae haneswyr, fel Alistair Horne a Raymond Aron, yn nodi bod nifer gwirioneddol y meirwon rhyfel Mwslimaidd Algeria yn llawer mwy na'r amcangyfrifon FLN gwreiddiol a Ffrangeg swyddogol ond ei fod yn llai na'r 1 miliwn o farwolaethau a hawliwyd gan lywodraeth Algeria ar ôl annibyniaeth. Amcangyfrifodd Horne fod y rhai a anafwyd yn Algeria yn ystod y cyfnod o wyth mlynedd oddeutu 700,000.[44] Dadwreiddiodd y rhyfel fwy na 2 miliwn o Algeriaid.[45]
Daeth y rhyfel yn erbyn rheolaeth Ffrainc i ben ym 1962, pan enillodd Algeria annibyniaeth lwyr yn dilyn cytundebau Evian Mawrth 1962 ac yna refferendwm annibyniaeth Gorffennaf 1962. Mae rhai'n amcangyfrif i dros 10 miliwn o Algeriaid farw yn ystod cyfnod trefedigaethol Ffrainc.[46]
Rhyfel Cartref (1991-2002) ac wedi hynny
Daearyddiaeth
Ers chwalu Sudan yn 2011, a chreu De Swdan, Algeria fu'r wlad fwyaf yn Affrica, a Basn Môr y Canoldir. Mae ei rhan ddeheuol yn cynnwys cyfran sylweddol o'r Sahara. I'r gogledd, mae'r Tell Atlas ac Atlas y Sahara, ymhellach i'r de, yn ddwy set gyfochrog o fynyddoedd amlwg, a rhyngddynt mewnosodir gwastadeddau anferth ac ucheldiroedd. Mae'r ddau Atlas yn tueddu i uno yn nwyrain Algeria. Ceir hefyd fynyddoedd helaeth Aures a Nememcha yn meddiannu gogledd-ddwyrain Algeria ac maent yn ffinio gyda Tiwnisia. Y pwynt uchaf yw Mynydd Tahat sy'n 3,003 metr.
Hinsawdd a hydroleg
Yn y rhanbarth hwn, gall tymereddau anialwch ganol dydd fod yn boeth trwy gydol y flwyddyn. Ar ôl machlud haul, fodd bynnag, mae'r aer clir, sych yn caniatáu colli gwres yn gyflym, ac mae'r nosweithiau'n cŵl i oer. Cofnodir ystodau dyddiol enfawr mewn tymheredd.
Mae glawiad yn weddol doreithiog ar hyd rhan arfordirol Atlas y Tell, yn amrywio o 400 i 670 mm y flwyddyn, ac mae'r gwlybaniaeth yn cynyddu o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae dyodiad ar ei drymaf yn rhan ogleddol dwyrain Algeria, lle mae'n cyrraedd cymaint â 1,000 milimetr (39.4 mod) mewn rhai blynyddoedd.
Yn bellach yn fewndirol, mae'r glawiad yn llai niferus. Mae gan Algeria hefyd ergs, neu dwyni tywod, rhwng mynyddoedd. Ymhlith y rhain, yn yr haf pan fydd gwyntoedd yn drwm, gall y tymheredd godi i 110 °F (43.3 °C) .
Hawliau Dynol
Mae Algeria wedi cael ei chategoreiddio gan Freedom House fel gwlad "sydd ddim yn rhydd" ers dechrau cyhoeddi graddfeydd o'r fath ym 1972, ac eithrio 1989, 1990, a 1991, pan gafodd y wlad ei labelu'n "rhannol rydd."[47]
Yn Rhagfyr 2016, cyhoeddodd Monitor Hawliau Dynol Ewro-Canoldir adroddiad ynghylch rhyddid y cyfryngau yn Algeria. Eglurodd fod llywodraeth Algeria wedi gosod cyfyngiad ar ryddid y wasg, mynegiant, a'r hawl i arddangos baneri, protestio a chynull yn heddychlon yn ogystal â sensoriaeth o'r cyfryngau ac o wefannau. Yn aml, pan fo newyddiadurwyr ac ymgyrchwyr yn beirniadu'r llywodraeth sy'n rheoli, mae trwyddedau rhai sefydliadau cyfryngau yn cael eu canslo.[48]
Mae undebau llafur annibynnol ac ymreolaethol yn cael eu haflonyddu'n aml gan y llywodraeth, gyda llawer o arweinwyr yn cael eu carcharu a phrotestiadau yn cael eu hatal. Yn 2016 mae nifer o undebau, llawer ohonynt yn rhan o Brotestiadau Algeria 2010-2012, wedi cael eu dadgofrestru gan y llywodraeth.[49][50][51]
Mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon yn Algeria.[52] Gellir cosbi ymddygiad cyfunrywiol cyhoeddus gyda dwy flynedd yn y carchar.[53] Er gwaethaf hyn, mae 26% o Algeriaid yn credu y dylid derbyn gwrywgydiaeth, yn ôl yr arolwg a gynhaliwyd gan BBC News Arabic -Arab Barometer yn 2019. Mae Algeria'n derbyn LGBT yn fwy nag unrhyw wlad Arabaidd arall, lle cynhaliwyd yr arolwg.[54]
Mae Human Rights Watch wedi cyhuddo awdurdodau Algeria o ddefnyddio pandemig COVID-19 fel esgus i atal symudiadau a phrotestiadau o blaid democratiaeth yn y wlad, gan arwain at arestio pobl ifanc fel rhan o bellhau cymdeithasol.[55]
Is-adrannau gweinyddol
Rhennir Algeria yn 58 talaith (wilayas), 553 dosbarth (daïras)[56] a 1,541 o fwrdeistrefi (baladiyahs). Enwir pob talaith, dosbarth a bwrdeistref ar ôl ei sedd, sef y ddinas fwyaf fel rheol.Nodyn:Algeria Wilayas
Economi
Fe wnaeth ton o brotestiadau economaidd ym mis Chwefror a mis Mawrth 2011 ysgogi llywodraeth Algeria i gynnig mwy na $ 23 biliwn mewn grantiau cyhoeddus a chodiadau cyflog a budd-daliadau ôl-weithredol. Mae gwariant cyhoeddus wedi cynyddu 27% yn flynyddol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Bydd rhaglen buddsoddiad cyhoeddus 2010-14 yn costio US $ 286 biliwn, a bydd 40% ohono'n mynd i ddatblygiad dynol.[57]
Diolch i refeniw hydrocarbon cryf, mae gan Algeria glustog o $173 biliwn mewn cronfeydd arian tramor a chronfa sefydlogi hydrocarbon fawr. Yn ogystal, mae dyled allanol Algeria yn isel iawn ar oddeutu 2% o'r CMC.[58] Mae'r economi yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar gyfoeth hydrocarbon, ac, er gwaethaf cronfeydd wrth gefn cyfnewid tramor uchel (UD $ 178 biliwn, sy'n cyfateb i dair blynedd o fewnforion), mae twf gwariant cyfredol yn gwneud cyllideb Algeria yn fwy agored i risg refeniw hydrocarbon is hirfaith.[59]
Nid yw Algeria wedi ymuno â'r WTO, er gwaethaf sawl blwyddyn o drafodaethau.[60]
Olew ac adnoddau naturiol
Mae Algeria, y mae ei heconomi yn ddibynnol ar betroliwm, wedi bod yn aelod o OPEC ers 1969. Mae'n cynhyrchu oddeutu 1.1 miliwn o gasgenni y dydd o olew crai, ond mae hefyd yn gynhyrchydd ac allforiwr nwy o bwys, gyda chysylltiadau pwysig ag Ewrop.[61] Hydrocarbonau yw asgwrn cefn yr economi ers amser maith, gan gyfrif am oddeutu 60% o refeniw'r gyllideb, 30% o CMC, a thros 95% o enillion allforio. Mae gan Algeria y 10fed gronfa fwyaf o nwy naturiol yn y byd a hi yw'r chweched allforiwr nwy mwyaf . Adroddodd Gweinyddiaeth Gwybodaeth Ynni'r UD fod gan Algeria 160 triliwn troedfedd ciwbig o gronfeydd wrth gefn o nwy naturiol.[62] Mae hefyd yn 16eg mwyaf mewn cronfeydd olew.[58]
Ymchwil a ffynonellau ynni amgen
Mae Algeria wedi buddsoddi amcangyfrif o 100 biliwn o dinars tuag at ymchwil. Pwrpas y rhaglen hon yw hyrwyddo cynhyrchu ynni amgen, yn enwedig egni solar a gwynt.[63] Amcangyfrifir bod gan Algeria y potensial ynni solar mwyaf o wledydd Môr y Canoldir, felly mae'r llywodraeth wedi ariannu creu parc gwyddoniaeth solar yn Hassi R'Mel. Ar hyn o bryd, mae gan Algeria 20,000 o athrawon ymchwil mewn amryw brifysgolion a thros 780 o labordai ymchwil, gyda nodau wedi'u gosod gan y wladwriaeth i ehangu i 1,000. Ar wahân i ynni'r haul, mae meysydd ymchwil yn Algeria yn cynnwys telathrebu gofod a lloeren, ynni niwclear ac ymchwil feddygol.
Twristiaeth
Am hir, roedd diffyg cyfleusterau wedi rhwystro datblygiad y sector twristiaeth yn Algeria, ond ers 2004 gweithredwyd strategaeth datblygu twristiaeth eang gan arwain at adeiladu llawer o westai o safon fodern uchel.
Rhwydwaith ffyrdd Algeria yw'r dwysaf yn Affrica; amcangyfrifir bod ei hyd yn 180,000 km (110,000 mi) o briffyrdd, gyda mwy na 3,756 o strwythurau a chyfradd palmant o 85%. Mae'r rhwydwaith hwn yn cael ei ategu gan Briffordd y Dwyrain-Gorllewin, prosiect seilwaith mawr sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.
Mae Priffordd Traws-Sahara hefyd yn croesi Algeria a chefnogir y ffordd hon gan lywodraeth Algeria i gynyddu masnach rhwng y chwe gwlad a groeswyd: Algeria, Mali, Niger, Nigeria, Chad, a Tiwnisia.
Demograffeg
Y boblogaeth hanesyddol
Blwyddyn
Pobl.
±%
1856
2,496
—
1872
2,416
−3.2%
1886
3,752
+55.3%
1906
4,721
+25.8%
1926
5,444
+15.3%
1931
5,902
+8.4%
1936
6,510
+10.3%
1948
7,787
+19.6%
1954
8,615
+10.6%
1966
12,022
+39.5%
1977
16,948
+41.0%
1987
23,051
+36.0%
1998
29,113
+26.3%
2008
34,080
+17.1%
2013
37,900
+11.2%
Mae gan Algeria boblogaeth o amcangyfrif o 44 miliwn, y mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn Arabaidd-Berber ethnig.[58][65][66] Ar ddechrau'r 20g, roedd ei phoblogaeth oddeutu pedair miliwn.[67] Mae tua 90% o Algeriaid yn byw yn yr ardal ogleddol, arfordirol; mae trigolion anialwch y Sahara wedi'u crynhoi'n bennaf mewn gwerddon, er bod tuag 1.5 miliwn yn parhau i fod yn grwydrol neu'n rhannol grwydrol. Yn y 2010au roedd 28.1% o Algeriaid o dan 15 oed.[58]
Ieithoedd
Arabeg Safonol Fodern a Berber yw'r ieithoedd swyddogol.[68] Arabeg Algeriaidd (Darja) yw'r iaith a ddefnyddir gan fwyafrif gan y boblogaeth. Mae Arabeg Algeriaidd wedi'i drwytho'n helaeth â benthyciadau o Ffrangeg a Berber.
Mae Berber wedi cael ei chydnabod fel "iaith genedlaethol" gan welliant cyfansoddiadol ar 8 Mai 2002.[69] Addysgir drwy gyfrwng y Kabyleg, y brif iaith Berber, ac mae'n rhannol gyd-swyddogol mewn rhannau o Kabylie. Ym mis Chwefror 2016, pasiodd cyfansoddiad Algeria benderfyniad a wnaeth Berber yn iaith swyddogol ochr yn ochr ag Arabeg.
Daeth Algeria i'r amlwg fel gwladwriaeth ddwyieithog ar ôl 1962.[70] Mae Arabeg Algeriaidd hefyd yn cael ei siarad gan oddeutu 72% o'r boblogaeth a Berber 27-30%.[71]
Mae Malek Bennabi a Frantz Fanon yn nodedig am eu gwaith ar ddadwaddoliad ; Ganwyd Awstin o Hippo yn Tagaste ( Souk Ahras heddiw); ac Ibn Khaldun, er iddo gael ei eni yn Nhiwnis, ysgrifennodd y Muqaddima wrth aros yn Algeria. Nodir yn eang weithiau teulu Sanusi yn y cyfnod cyn-drefedigaethol, ac Emir Abdelkader a Sheikh Ben Badis yn y cyfnod trefedigaethol. Ganwyd yr awdur Lladin Apuleius ym Madaurus (Mdaourouch), yn yr hyn a ddaeth yn Algeria yn ddiweddarach.-
Celf
Ceisiodd paentwyr Algeraidd, fel Mohamed Racim neu Baya, adfywio gorffennol mawreddog Algeria cyn gwladychu Ffrainc, ar yr un pryd ag y maent wedi cyfrannu at warchod gwerthoedd Algeria. Yn yr un modd, maeMohamed Temam, Abdelkhader Houamel hefyd wedi dychwelyd trwy'r gelf at olygfeydd o hanes ac arferion y wlad cyn dyfodiad y Ffrancwyr. Ymddangosodd artistiaid newydd eraill gan gynnwys M'hamed Issiakhem, Mohammed Khadda a Bachir Yelles, paentwyr Algeriaidd, gan gefnu ar baentio clasurol ffigurol i ddod o hyd i ffyrdd darluniadol newydd.Mae Mohammed Khadda [73] a M'hamed Issiakhem wedi bod yn nodedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.[73]
Cerddoriaeth
Mae cerddoriaeth Chaâbi yn genre cerddorol nodweddiadol Algeriaidd a nodweddir gan rythmau penodol ac o Qacidate (cerddi poblogaidd) mewn tafodiaith Arabeg. Meistr diamheuol y gerddoriaeth hon yw El Hadj M'Hamed El Anka.
Mae arddulliau cerddoriaeth werin yn cynnwys cerddoriaeth Bedouin, wedi'i nodweddu gan y caneuon barddonol sy'n seiliedig ar y kacida hir (cerddi); Mae cerddoriaeth Kabyle, wedi'i seilio ar repertoire cyfoethog sy'n farddoniaeth a hen chwedlau a basiwyd o genhedlaeth i genedlaeth; Cerddoriaeth Shawiya, llên gwerin o ardaloedd amrywiol ym Mynyddoedd Aurès. Mae arddull gerddoriaeth Rahaba yn unigryw i'r Aures. Mae Souad Massi yn gantores werin Algeriaidd nodedig. Ymhlith cantorion Algeriaidd eraill y diaspora mae Manel Filali yn yr Almaen a Kenza Farah yn Ffrainc. Mae cerddoriaeth Tergui yn cael ei chanu mewn ieithoedd Tuareg yn gyffredinol, cafodd Tinariwen lwyddiant byd-eang. Yn olaf, mae'r gerddoriaeth staïfi wedi tarddu o Sétif ac mae'n parhau i fod yn arddull unigryw o'i math.
Coginio
Mae bwyd Algeria yn gyfoethog ac amrywiol. Ystyriwyd y wlad fel "ysgubor Rhufain", ac fel y nodwyd, dyma un o'r rhesymau pam y daeth y Rhufeiniaid i'r wlad. Mae'n cynnig seigiau amrywiol, yn dibynnu ar y rhanbarth ac yn ôl y tymhorau. Mae'r bwyd yn defnyddio grawnfwydydd fel y prif gynhyrchion, gan eu bod bob amser yn cael eu cynhyrchu, gyda digonedd yn y wlad. Ni cheir yr un dysgl lle nad oes grawnfwydydd arni!
Yn aml, defnyddir cig, pysgod a llysiau. Ymhlith y prydau hysbys mae: cwscws,[74]chorba, rechta, chakhchoukha, berkoukes, shakshouka, mthewem, chtitha, mderbel, Dolma, brik neu bourek, garantita, lham'hlou, ac ati. Defnyddir selsig Merguez yn helaeth yn Algeria, ond mae'n wahanol, yn dibynnu ar y rhanbarth ac ar y sbeisys ychwanegol.
Mae cacennau'n cael eu marchnata ac maen nhw i'w cael mewn dinasoedd naill ai yn Algeria, yn Ewrop neu yng Ngogledd America. Fodd bynnag, mae cacennau traddodiadol hefyd yn cael eu gwneud gartref, gan ddilyn arferion y teulu. Ymhlith y cacennau hyn, mae Tamina, Baklawa, Chrik, Garn logzelles, Griouech, Kalb el-louz, Makroud, Mbardja, Mchewek, Samsa, Tcharak, Baghrir, Khfaf, Zlabia, Aarayech, Ghroubiya a Mghergchette.
Mae crwst Algeriaidd hefyd yn cynnwys cacennau Tiwnisia neu Ffrengig. Ceir cynhyrchion bara wedi'u marchnata a'u gwneud gartref gan gynnwys mathau fel Kessra neu Khmira neu Harchaya. Mae prydau traddodiadol eraill a werthir yn aml fel bwyd stryd yn cynnwys mhadjeb neu mahjouba, karantika, doubara, chakhchoukha, hassouna, a t'chicha.
↑Cameron, Averil; Ward-Perkins, Bryan (2001). "Vandal Africa, 429–533". The Cambridge Ancient History. 14. Cambridge University Press. tt. 124–126. ISBN978-0-521-32591-2.
↑ 29.029.1Jeff Huebner, "Al Qal'a of Beni Hammad (M'sila, Algeria)" in Middle East and Africa: International Dictionary of Historic Places (Vol. 4) (eds.
↑"Had planning been better (barracks, hospitals, medical services), the drain on men would have been miniscule [sic]: it has been calculated that between 1831 and 1851, 92,329 died in hospital, and only 3,336 in battle."
↑Baten, Jörg (2016). A History of the Global Economy. From 1500 to the Present. Cambridge University Press. t. 220. ISBN9781107507180.
↑United States Military Academy. Department of Military Art and Engineering (1947). The War in North Africa Part 2--The Allied Invasion. West Point, NY: Department of Military Art and Engineering, United States Military Academy. tt. 4–5.
Algeria Atlas Map(PDF) (Map). United Nations High Commissioner for Refugees (UNHCR). April 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol(PDF) ar 9 December 2016. Cyrchwyd 9 December 2016.