Mynyddoedd creigiog anial yng nghanol y Sahara sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd cynhanesyddol pwysicaf ar gyfandir Affrica yw'r Tassili n'Ajjer. Gorwedd y mynyddoedd i'r gogledd-ddwyrain o fynyddoedd Al Hoggar yn ne-ddwyrain Algeria, yn agos i'r man lle mae ffiniau Libia, Algeria a Niger yn cwrdd. Daethpwyd â safleoedd archaeolegol y Tassili a'u trysorau i sylw'r byd tu allan gan yr archaeolegwr o Ffrainc Henri Lhote, ddiwedd y 1950au. Mae safleoedd y Tassili yn rhan o ardal ddiwylliannol gynhanesyddol ehangach sy'n cynnwys yr Hoggar a'r cylch.
Mae'r darluniau cynhanesyddol sydd ar furiau ogofâu a chysgodfeydd yn y Tassili yn dangos fod poblogaeth bur sylweddol yn byw bywyd hela a chodi gwartheg yno filoedd o flynyddoedd yn ôl, a bod yr hinsawdd a'r tyfiant yr adeg hynny yn debyg i'r hyn a geir yn y Sahel heddiw (dros fil o filltiroedd i'r de). Mae rhai o'r lluniau yn ogofâu'r Tassili yn dangos afonfeirch (hippopotamus) a phreiddiau anferth o wartheg cyrn hir, a hynny mewn ardal sydd bellach yn anialdir llwyr.
Llyfryddiaeth
Henri Lhote, The Search for the Tassili frescoes (Llundain, 1959). Cyfieithiwyd o'r Ffrangeg. Cyfrol sy'n cynnwys nifer o luniau.