Mae Albania yn un o wledydd y Balcanau. Mae hi'n wlad fynyddig iawn a elwir weithiau "Gwlad yr Eryr". Cyfyd y mynyddoedd i uchder o hyd at 2700m (9000 troedfedd). Ceir coedwigoedd sylweddol. Mae'r tir arfordirol yn ffrwythlon iawn.
Yn 1912 enillodd Albania ei hannibyniaeth ar yr Ottomoniaid. Yn 1925, yn sgîl rhyfel cartref y cymerodd yr Eidal ran ynddo, aeth y wlad yn weriniaeth. Fodd bynnag troes yn fonarchiaeth unwaith yn rhagor yn 1928 pan gafodd ei harlywydd Ahmed Beg Zogu ei wneud yn frenin ar y wlad dan yr enw cofiadwy Brenin Zog. Cafodd y wlad ei meddiannu gan luoedd arfog yr Eidal a'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r mwyafrif o'r Albaniaid yn perthyn i ddau grŵp ethnig, sef y Ghegiaid (i'r gogledd o Afon Shkumbi) a'r Tosgiaid (i'r de o'r afon honno); ychydig sy'n hysbys am eu gwreiddiau. Albaneg yw'r unig iaith swyddogol. Fel yn achos Cosofo dros y ffin, mae'r mwyafrif o'r dinesyddion yn Fwslemiaid.
Mewn canlyniad i bolisi ynysigaeth llywodraeth y wlad yn y gorffennol, pan ddibynai Albania i raddau helaeth ar fasnach gyda Tsieina a Gogledd Corea, roedd economi'r wlad yn dlawd iawn mewn cymhariaeth â gweddill Ewrop. Erys Albania yn un o wledydd tlotaf Ewrop heddiw, er bod pethau wedi gwella'n sylweddol gyda chymorth gan Undeb Ewrop.