Ceir dwy brif dafodiaith, Geg i'r gogledd o'r afon Shkumbin a Tosc i'r de. Er mai amrywiaethau o dafodiaethau Geg a siaredir yng ngogledd Albania, Cosofo, Macedonia a Montenegro. amrywiaeth ar y dafodiaith Tosc yw sail yr iaith safonol, unedig. Ceir tafodiaethau hynafol o Tosc eu siarad yn yr Eidal gan yr Arberesh ac yng ngwlad Groeg gan yr Arfanitiaid.