Yn y gorllewin roedd Mauretania'n cyffwrdd y Môr Iwerydd, yn y gogledd wynebai'r Môr Canoldir, yn y dwyrain rhannai ffin â'r Numidia Rufeinig ac yn y de rhannai ffin â theyrnas y Getulii. Daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn ystod teyrnasiad yr ymerodr Claudius. Fe'i enwir ar ôl y llwyth brodorol, y Mauri (enw sy'n rhoi'r enw diweddar Mwriad neu Moor).