Talaith Rufeinig sy'n gyfateb yn fras i Andalucía a de Castille yn ne Sbaen heddiw oedd Baetica.
Ym mlynyddoedd cynnar teyrnasiad y Rhufeiniaid yn Sbaen roedd Baetica, gyda'i chymydog Lusitania, yn ffurfio talaith Hispania Ulterior.
Mae'r dalaith yn cael ei enwi ar ôl Afon Baetis, yr hen enw brodorol ar Afon Guadalquivir heddiw. Roedd y gwlân a gynhyrchid yn Baetica yn enwog am ei safon uchel a daeth yr enw Baeticus i olygu "dillad o safon uchel" ledled yr Ymerodraeth Rufeinig.