Rhanbarth yn yr Henfyd a thalaith Rhufeinig a leolir yn ardal heddiw Serbia a Bwlgaria yw Moesia, rhwng Mynyddoedd y Balcanau i'r de ac Afon Donaw i'r gogledd. Ei ffin orllewinol oedd Afon Dvina. Prif drigolion y rhanbarth oedd Thraciaid ac Ilyriaid. Cymerodd ei enw oddi wrth y Moesi, llwyth Thracaidd oedd yn byw yno.