Terfysg Tonypandy

Terfysg Tonypandy
Enghraifft o:terfysg Edit this on Wikidata
Dyddiad1910s Edit this on Wikidata
GwladwriaethDe Cymru Edit this on Wikidata
Plismyn yn blocio'r stryd yn ystod y terfysgoedd.

Anghydfod rhwng glowyr a pherchnogion Glofa'r Cambrian yn Ne Cymru, oedd Terfysg Tonypandy (neu Terfysg y Rhondda), a ddigwyddodd yn ardal Tonypandy a'r Rhondda yn 1910 a 1911.[1] Ymyrrodd Winston Churchill yn yr anghydfod, a ffyrnigodd y Cymry'n arw drwy ddanfon milwyr a heddweision o Loegr yn hytrach na chaniatau trafodaethau rhwng y glowyr a'u cyflogwyr.

Honnir i Winston Churchill ddweud, “If the Welsh are striking over hunger, we must fill their bellies with lead.” er nad oes tystiolchaeth ysgrifenedig o hynny. Yn sicr, roedd yn wrth-Gymreig ei agwedd, edrychai i lawr ei drwyn ar lowyr Cymru, ac yn ymerodraethol ei natur.[2]

Cefndir

Dechreuodd yr anghydfod ar ôl i gwmni Naval Colliery Company agor gwythïen newydd ym Mhwll Ely ym Mhen-y-graig. Roedd y perchnogion yn dadlau bod y glowyr yn fwriadol yn gweithio'n arafach nag y gallent. Ar y llaw arall mynnai'r glowyr fod y wythien newydd yn fwy anodd i'w gweithio nag eraill. Telid y glowyr wrth y dunnell ac nid yn ôl yr awr; felly ni fyddai'r glowyr wedi elwa o weithio'n arafach.[3]

Cerdyn post o 1911
(o gasgliad Emyr Young)

Ar 1 Medi 1910, cyhoeddodd perchnogion y lofa bosteri'n nodi eu bwriad i gau pob gwythien, a fyddai'n effeithio pob un o 950 gweithiwr y lofa.[3]:[p175] Aeth y dynion ar streic a galwodd y Cambrian Combine ddynion o du allan i'r ardal i dorri'r streic. Ffurfiodd y glowyr linellau piced a chynhaliodd Ffederasiwn Glowyr De Cymru falot, ac aeth 12,000 o lowyr cwmni'r Cambrian Combine ar streic.[3]:[p175] Gwrthododd y glowyr y cynnig o 2s 3c y tunnell.[3]:[p175]

Ar 2 Tachwedd, galwodd yr awdurdodau am gymorth milwrol i ddod â'r streic i ben ac i ddeilio gyda'r glowyr.[4]:[p109]

Y terfysg cyntaf: Tonypandy

Erbyn 6 Tachwedd roedd pob glofa yn ne Cymru o eiddo Cambrian Combine, ar wahân i Lwynypia, wedi cau.[5] Amgylchynwyd Glofa Llwynypia gan lowyr a oedd ar streic, ac a oeddent yn gwrthwynebu'r ffaith fod streic-dorrwyr ar y ffordd yno i gadw'r lofa ar agor. Yn groes i gyngor yr arweinyddion, dechreuodd rhai glowyr daflu cerrig ar un o'r adeiladau; ar hyn, aeth yn frwydr rhwng y glowyr a heddlu Morgannwg. Ymledodd y terfysg i'r dref, hyd ddau o'r gloch y bore. Sylweddolodd Lionel Lindsay, prif heddwas Morgannwg, na allai ymdopi gyda chynifer o bobl ac anafiadau ar y ddwy ochr a galwodd am gymorth milwyr.[5]

Danfonwyd heddlu Metropolitanaidd Llundain, milwyr ar feirch y diwrnod wedyn, a'r milwyr o'r 18th Hussars i gyrraedd Pontypridd am 8:15 am.[4]:[p122] ar 9 Tachwedd. Roedd terfysg mewn sawl tref erbyn hyn, ac aeth rhai ohonynt i Aberaman, Llwynypia, y Porth a mannau eraill.[4]:[p122]

Nid aeth y rhan fwyaf o'r glowyr am driniaeth meddygol, gan y byddent wedyn yn cael eu herlyn am fod yn derfysgwyr. Gwyddom, fodd bynnag, i'r glowr Samuel Rhys farw wedi iddo gael ei drywanu gan blismon, ac y clwyfwyd 80 heddwas a 500 o bobl.[6] Erbyn hyn roedd aelodau o'r Lancashire Fusiliers hefyd wedi cyrraedd.

Yn Rhagfyr erlidiwyd 13 o lowyr o'r Gilfach Goch am eu rhan a chafwyd protestiadau enfawr y tu allan, gyda dros 10,000 o bobl yn cefnogi'r glowyr. Bu'r glowyr ar streic am gyfanswm o 10 mis, gan ddychwelyd yn Awst 1911.

Credir i'r terfysgoedd hyn ysgogi deddf newydd a orfodai'r cyflogwr i roi lleiafswm o gyflog i'w weithwyr.[7]

Cyfeiriadau

  1. Evans, Gwyn; Maddox, David (2010). The Tonypandy Riots 1910–11. Plymouth: University of Plymouth Press. ISBN 978-1-84102-270-3.
  2. thenorwichradical.com; Dyfyniad: and was definitely still an imperialist, eugenically-minded war criminal. adalwyd 7 Tachwedd 2024.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Lewis, E.D. (1959). The Rhondda Valleys. London: Phoenix House.
  4. 4.0 4.1 4.2 Herbert, Trevor, gol. (1988). Wales 1880–1914: Welsh History and its sources. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0967-4.
  5. 5.0 5.1 Tonypandy heritage Archifwyd 2008-08-20 yn y Peiriant Wayback Cyngor Rhondda Cynon Taf
  6. Powerhouse Development Plans[dolen farw] ar wefan Cyngor Rhondda Cynon Taf
  7. Jones L Cwmardy (first published 1937), a Lawrence & Wishart 1978, ISBN 978-0-85315-468-6