Pentref ar bwys Aberdâr, ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Aberaman. Mae wedi'i rhannu'n ddwy gymuned - De Aberaman a Gogledd Aberaman. Saif tua milltir i'r de o Aberdâr, rhwng y dref honno ac Aberpennar. Sefydlwyd gweithdy haearn yno ym 1847.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Gerald Jones (Llafur).[1][2]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Aberaman (pob oed) (9,865) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberaman) (870) |
|
9.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberaman) (8815) |
|
89.4% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Aberaman) (1,982) |
|
45.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau