Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Ystrad Rhondda (hefyd Ystrad neu Yr Ystrad). Saif yng nghwm Rhondda Fawr.
Mae Ystrad yn bentref ar ffurf stribyn hir a chul, gyda'r rhan fwyaf o'r siopau ar hyd y Stryd Fawr, a chyfres o strydoedd llai o'i gwmpas a nodweddir gan dai teras; cynllun sy'n nodweddiadol o Gymoedd y De.
Rhed afon Rhondda Fawr trwy'r pentref, gan ei wahaniaethu oddi ar Y Gelli ar y lan ddeheuol. Nodweddir Ystrad Rhondda hyd heddiw gan ymdeimlad cryf o gymuned.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Ystrad Rhondda (pob oed) (5,854) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ystrad Rhondda) (692) |
|
12.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ystrad Rhondda) (5425) |
|
92.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Ystrad Rhondda) (1,087) |
|
43.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau