Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Penderyn. Fe'i lleolir yng nghymuned Hirwaun yng Nghwm Cynon. Saif ar yr A4059 rhwng Hirwaun ac Aberhonddu, cyn cyrraedd y ffin rhwng Rhondda Cynon Tâf a Phowys a Bannau Brycheiniog.
Dyma gartref y Cwmni Wisgi Cymreig.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[2]
Llyfryddiaeth
- David Davies (Dewi Cynon), Hanes Plwyf Penderyn (Aberdâr, 1905; ail argraffiad 1924)
Cyfeiriadau