Plaid wleidyddol Brydeinig, ganol-chwith yw'r Blaid Lafur a sefydlwyd ar 27 Chwefror 1900. Gellir ei hystyried yn brif gynrychiolydd y canol-chwith gwleidyddol ym Mhrydain ers y 1920au, pan esblygodd o'r undebau llafur a phleidiau sosialaidd y 19g. Symudodd tua'r canol o dan bolisi "Y Drydedd Ffordd" dan arweinyddiaeth Tony Blair ac o ganlyniad cyfeirir ati yn y 2000au fel "Llafur Newydd". Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru (gweler isod) yn rhan o Blaid Lafur y DU; yr un sefyllfa a'r Alban. Yn 2015 roedd gan y blaid oddeutu 292,000 o aelodau.[4][5]
Hanes
Fe'i sefydlwyd yn 1900, gan oddiweddwyd y Blaid Ryddfrydol ddechrau'r 1920au a ffurfiodd lywodraeth (leiafrifol) dan arweinyddiaeth Ramsay MacDonald yn 1924 ac eto yn 1929–31. Ffurfiodd rhan o glymblaid yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd rhwng 1940 a 1945 ac ar ddiwedd y Rhyfel, ffurfiodd lywodraeth eto - y tro hwn o dan arweinyddiaeth Clement Attlee - a daliodd ei gafael fel y brif blaid rhwng 1964 a 1970 gyda Harold Wilson wrth y llyw, ac yna'i olynydd James Callaghan.
†Yr etholiad cyntaf o dan Ddeddf Cynrychioliad y Bobl 1918 pan roddwyd yr hawl i'r rhan fwyaf o ddynion dros 21 oed a merched dros 30 oed i bleidleisio.
‡Yr etholiad cyntaf i ferched dros 21 gael pleidlais.
↑Brivati, Brian; Heffernan, Richard (2000). The Labour Party: A Centenary History. Basingstoke [u.a.]: Macmillan [u.a.] ISBN9780312234584. On 27 February 1900, the Labour Representation Committee was formed to campaign for the election of working class representatives to parliament.