Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 ar 9 Ebrill1992 a chafodd y Blaid Geidwadol eu 4edd buddugoliaeth o'r bron. Hwn oedd eu buddugoliaeth diwethaf hyd yn hyn (Medi 2013), heb fod yn rhan o glymblaid. Roedd hyn yn gryn ysgytwad ar y diwrnod gan fod y polau piniwn wedi dangos mai'r Blaid Lafur, dan arweinyddiaeth Neil Kinnock oedd am gipio'r mwyafrif.
Ar ddiwrnod yr etholiad roedd papur Y Sun wedi cyhoeddi ar ei dudalen flaen: "the last person to leave Britain" to "turn out the lights" pe bai Llafur yn ennill.[1] Credir mai'r pennawd hwn a gariodd y dydd i'r Blaid Geidwadol, yn anad dim arall. Drenydd y drin, cyhoeddodd y Sun: It's The Sun Wot Won It a disgrifiodd perchennog y papur y pennawd hwn fel "tasteless and wrong."[2]