Ganed Kirsty Williams yn Taunton, Gwlad yr Haf yn 1971 i rieni o Gymry. Dychwelodd y teulu i Gymru yn 1974 ac ymsefydlu ym mhentref Bynea yn Sir Gaerfyrddin, lle magwyd Kirsty.
Addysgwyd yn Ysgol annibynnol Mihangel Sant, Llanelli, yna graddiodd o Brifysgol Victoria ym Manceinion gyda gradd anrhydedd mewn astudiaethau Americanaidd, gan gynnwys cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Missouri. Yna dychwelodd i weithio i adran adnoddau dysgu Coleg Sir Gaerfyrddin yn Llanelli, cyn ymgymryd â swydd fel swyddog gweithredol marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer busnes bach yng Nghaerdydd.[3]
Erbyn hyn, mae Kirsty yn byw ar fferm y teulu ger Aberhonddu gyda’i gŵr a’u tair merch ifanc.[3]
Bywyd Gwleidyddol
Ymunodd Williams â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 15 oed. Yn etholiad cyffredinol 1997, bu’n cystadlu yn etholaeth Ogmore, gan ddod yn drydydd. Am gyfnod hir bu’n eiriolwr brwd dros Gynulliad Cymru, a bu’n ymgyrchu’n galed yn refferendwm 1997 dros greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wedi hynny, fe’i penodwyd i Grŵp Cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol gan Ysgrifennydd Cymru Ron Davies.[4]
Fe’i hetholwyd yn Aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ym mis Mai 1999. Yn ei thymor cyntaf daeth yn llefarydd iechyd ei phlaid. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cymru rhwng 1999 a 2003.[4]
Mae Williams wedi bod yn rhan o ymgyrch hirsefydlog ‘Mwy o Nyrsys’ sy’n gofyn am gyfraith ar lefelau staffio diogel ar gyfer nyrsys mewn ysbytai Cymru. Llwyddodd Kirsty Williams i gael balot deddfwriaethol (mae bil a basiwyd gan aelod sengl yn brin) ar 11 Rhagfyr 2013, a chafodd ganiatâd i fwrw ymlaen â’i Bil yn 2014, Bil Lefelau Staff Nyrsio. Fe'i pasiwyd a daeth yn gyfraith yng Nghymru ar 21 Mawrth 2016.[5]
Ym Mai 2016, yn dilyn canlyniadau trychinebus ei phlaid (hi oedd yr unig aelod) yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016 ymddiswyddodd Williams fel Arweinydd. Ar ddiwrnod cyntaf y cyfarfod llawn, pleidleisiodd gyda'r Llywodraeth ar benodi'r Prif Weinidog pe bai wedi pleidleisio dros Leanne Wood, byddai wedi dod yn Brif Weinidog.[6] Penododd y Prif Weinidog ar y pryd Carwyn Jones, Williams, i Gabinet Cymru fel Ysgrifennydd Addysg; Mae angen 31 sedd ar gyfer mwyafrif yng Nghynulliad Cymru, roedd gan Lafur 29, felly creodd Williams fwyafrif gweithredol.
Mae hi ar flaen y gad o ran diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru a chyflwynodd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i'r Senedd ar 6 Gorffennaf 2020.[7]
Cafodd ei beirniadu’n eang am y ddefnydd o algorithm i ddyfarnu graddau arholiad yn 2020 yn yr hyn a elwid yn fiasco arholiadau 2020. Roedd rhaid iddi gwneud tro pedol ac ymddiheuro o flaen pwyllgor Senedd am yr sefyllfa “Ond mae hi’n briodol fy mod i’n ymddiheuro’n uniongyrchol ac yn ddi-ben-draw i’n pobol ifanc." [8]
Ar 27 Hydref 2020 cyhoeddodd na fyddai’n sefyll yn Etholiad Senedd 2021, gan ddweud ei bod hi'n "edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda fy nheulu ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'm rôl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda fy olynydd i sicrhau bod Brycheiniog a Sir Faesyfed yn dychwelyd llais Democratiaid Rhyddfrydol Cymru."[9]
Cyfeiriadau
↑Adwaenir fel Ysgrifennydd dros Addysg a Sgiliau hyd at 13 Rhag 2018