Ymadrodd Lladin yw Alma mater am brifysgol neu goleg. Tarddiad y gair yw dau air Lladin: alma "llawn maeth/caredig" a mater "mam" hy "y fam a roddodd faeth". Mae'n perthyn yn agor i'r term alumnus, sef myfyriwr graddiedig, neu yn llythrennol: "maethiad ifanc" neu "un a roddwyd iddo fwyd".[1] Defnyddir yr ymadrodd 'Alma mater' yn aml i gyfeirio at y coleg mae person wedi ei fynychu yn ystod ei oes. Fel arfer, cyfeirir at y coleg cyntaf, y radd gyntaf i'r person ei derbyn.[2] Dyma'r ystyr modern i'r gair.