Gwleidydd o Gymru oedd Jennifer Elizabeth Randerson, Barwnes Randerson (26 Mai 1948 – 4 Ionawr 2025), Roedd yn aelod o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol a bu'n cynrychioli'r blaid yn Senedd Cymru a Thŷ'r Arglwyddi.
Bywgraffiad
Ganwyd Jennifer "Jenny" Randerson yn Llundain. Graddiodd mewn Hanes o Goleg Bedford, Prifysgol Llundain cyn ennill cymhwyster dysgu.[2]
Yn yr 1970au cynnar roedd yn athrawes yn Spalding High School, Swydd Lincoln ac ar y pryd roedd ei gŵr Peter yn gweithio i Nature Conservancy. Roedd yn astudio morfeydd heli a thraethellau lleidiog. Bu'n gweithio yn yr Orsaf Ymchwil Ecoleg Arfordirol yn Norwich.[3][4] Yn y 1990au daeth Peter yn ddarlithydd ecoleg yn Ngholeg y Brifysgol Caerdydd.[5][6][7]
Yn yr 1980au gweithiai Jenny fel athrawes uwchradd ac yna bu'n ddarlithydd yng Ngholeg Trydyddol Caerdydd (Coleg Glan Hafren erbyn hyn) yng Nghaerdydd. Roedd hefyd yn Ynad Heddwch rhwng 1982 ac 1999.
Gyrfa wleidyddol
Roedd yn gynghorydd ar Gyngor Caerdydd o 1983-2000 a hi oedd arweinydd y gwrthblaid swyddogol ar y Cyngor am bedair mlynedd. Yna cynrychiolodd sedd Canol Caerdydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 1999 a 2011. Cyflwynodd strategaeth diwylliant Cymru “Dyfodol Creadigol”, a'r strategaeth gyntaf ar gyfer yr iaith Gymraeg, sef “Iaith Pawb”.
Gwasanaethodd dros dro fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn llywodraeth glymblaid y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol o 6 Gorffennaf 2001 hyd 13 Mehefin 2002, yn absenoldeb Mike German, arweinydd ei phlaid ar y pryd. Wedi 2011, ymunodd â Thŷ'r Arglwyddi, a gwasanaethodd fel Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 2012 a 2015. Hi oedd y Democrat Rhyddfrydol benywaidd cyntaf o Gymru i fod yn weinidog yn San Steffan, a’r Rhyddfrydwr Cymreig cyntaf i fod yn weinidog ers Gwilym Lloyd-George yn 1945.
Cychwynnodd swydd fel Canghellor Prifysgol Caerdydd ar 30 Ionawr 2019.[8]
Bywyd personol
Roedd yn briod â Peter ac roedd ganddynt ddau o blant.[9]
Bu farw yn ei chartref yng Nghaerdydd ar 4 Ionawr 2025.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol