Prifysgol ym Mharc Cathays, Caerdydd a sefydlwyd ym 1883 yw Prifysgol Caerdydd (Saesneg: Cardiff University). Roedd hi'n aelod Prifysgol Cymru tan 2004.
Mae Prifysgol Caerdydd yn un o brif brifysgolion ymchwil y byd, gyda thros 60% o'r ymchwil a wneir yng Nghaerdydd wedi ei ystyried ymysg y gorau yn y byd.[2] Yn hynny o beth, mae Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion Grŵp Russell.
Sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ym 1883, ac fe'i gorfforwyd trwy Siarter Frenhinol ym 1884. Ym 1931, gwahanwyd yr Ysgol Feddygaeth oddi wrth y Coleg er mwyn ffurfio Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Ym 1972, ail-enwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy fel Coleg Prifysgol, Caerdydd.[3] Ym 1988, oherwydd uno Coleg Prifysgol, Caerdydd ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, cafodd y sefydliad yr enw "Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd". Newidiwyd hynny i "Brifysgol Cymru, Caerdydd" ym 1996, a wedyn yn 2004, ail-unwyd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gyda Phrifysgol Cymru, Caerdydd ac fe gymrodd y sefydliad yr enw swyddogol "Prifysgol Caerdydd".
Fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i’r Gymraeg, mae Prifysgol Caerdydd wedi addo £22,000 i ŵyl flynyddol Tafwyl mewn prif gytundeb noddi tair blynedd.[4]
Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
Hon yw un o'r adrannau Cymraeg hynaf, ac yma mae'r Gadair Gymraeg sefydledig hynaf yng Nghymru. Am dros ganrif y mae wedi cyfrannu'n helaeth i fywyd Cymru ac wedi bod yn gartref ac yn feithrinfa i ysgolheigion a llenorion amlwg, gan gynnwys W. J. Gruffydd, G. J. Williams, A. O. H. Jarman a Saunders Lewis.
Mae'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion, sy'n rhan or Ysgol, yn dysgu’r iaith i dros 1,700 o oedolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r Ysgol hefyd yn gartref i Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America ac i Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio.[5]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Prifysgolion Cymru |
---|
| |
|