- Mae AS (Cymru) yn cyfeirio yma. Am ystyron eraill, gweler AS (gwahaniaethu)
Mae Senedd Cymru yn cynnwys 60 Aelod o'r Senedd, neu AS (Saesneg: Member of the Senedd neu MSs). Dewisir 40 aelod i gynrychioli pob etholaeth ac 20 i gynrychioli y pum ardal etholiadol yng Nghymru.
Defnyddiwyd yr un term AS yn y Gymraeg ar gyfer aelodau Tŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig.
Cyn Mai 2020, defnyddiwyd y teitl Aelod Cynulliad, neu AC (Saesneg: Assembly Members neu AMs) ar gyfer aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Fel Arweinydd Plaid Cymru adeg Etholiad Senedd Cymru, 2021 llwyddodd Price i gyd-weithio gyda'r plaid fuddugol, y Blaid Lafur a'i harweinydd, Mark Drakeford, i lunio Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru 2021. Rhoddodd hyn ar waith sawl polisi o eiddo Plaid Cymru gan gynnwy Prydau Bwyd am Ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru, a chefnogaeth bellach i fenter economaidd ac ieithydd, Arfor.