Y brif ffynhonnell cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru ac aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru[1] yw Cwnsler Cyffredinol Cymru. Ei swyddogaeth yw i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion deddfwriaethol yng Nghymru a chymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Disgrifir swydd y Cwnsler Cyffredonol (yn swyddogol Cwnsler Cyffredinol i Lywodraeth Cymru) yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.[2] Penodir y Cwnsler Cyffredinol gan y teyrn Prydeinig (Elisabeth II ar hyn o bryd) ar enwebiad Prif Weinidog Cymru, ac mae'n rhaid i'r Cynulliad gytuno ar yr argymhelliad. Gall y Cwnsler Cyffredinol fod yn Aelod o'r Senedd, ond nid yw hyn yn amod angenrheidiol.[3]
Y Cwnsler Cyffredinol cyntaf oedd Carwyn Jones, AC dros Pen-y-bont ar Ogwr, oedd hefyd yn cyflawni'r swydd o Arweinydd y Tŷ.[4] Pan ddaeth Jones yn Brif Weinidog yn 2009 fe benodwyd John Griffiths AS i'w olynu.[5] Penodwyd y Cwnsler Cyffredinol nesaf, Theodore Huckle, yn swyddogol ar 10 Mehefin 2011, ac ef oedd y person cyntaf i ddal y swydd nad oedd yn Aelod o'r Cynulliad.[6]
Rhestr o ddeiliaid y swydd
Cyfeiriadau