Pentref yng nghymuned Pontypridd ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Trehopcyn (Saesneg: Hopkinstown). Fe'i lleolir ar lan afon Rhondda Fawr ychydig i'r gorllewin o dref Pontypridd. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Pontypridd.[1]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Alex Davies-Jones (Llafur).[3]
Cyfeiriadau