Dulyn

Dulyn
ArwyddairObedientia Civium Urbis Felicitas Edit this on Wikidata
Mathdinas fawr, dinas weinyddol yng Ngweriniaeth Iwerddon, y ddinas fwyaf, dinas â phorthladd Edit this on Wikidata
Poblogaeth592,713 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 841 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPaul McAuliffe Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirSwydd Dulyn, Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd114,990,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr20 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Life, Môr Iwerddon, Camlas Royal, Afon Dodder Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3497°N 6.2603°W Edit this on Wikidata
Cod postD1-18, 20, 22, 24, D6W, D1-18, 20, 22, D6W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredoloffice of the Lord Mayor of Dublin Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethollegislative body of Dublin City Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Lord Mayor of Dublin Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPaul McAuliffe Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas Gweriniaeth Iwerddon a'i dinas fwyaf yw Dulyn (Gwyddeleg: Baile Átha Cliath; Saesneg: Dublin). Mae'r enw yn gyfieithiad o'r Wyddeleg "dubh linn" ("pwll du"). Mae wedi'i lleoli ar arfordir dwyreiniol Iwerddon, ar aber Afon Life ac yng nghanol Rhanbarth Dulyn. Fe'i sefydlwyd gan y Llychlynwyr yn 988 ac mae'n brifddinas Iwerddon ers yr Oesoedd Canol. Gweinyddwyd Teyrnas Iwerddon ac yna Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon o Gastell Dulyn sydd o fewn hen ardal hanesyddol y ddinas. Mae'r Castell nawr yn ganolfan weinyddol a seremonïol o bwys i Weriniaeth Iwerddon.

Erbyn heddiw, rhestir y ddinas fel y degfed ar Fynegai Canolfannau Ariannol y Byd ac mae ei phoblogaeth yn tyfu gyda'r cyflymaf yn Ewrop. Mae Dulyn yn ganolbwynt hanesyddol a diwylliant cyfoes Iwerddon, yn ogystal â bod yn ganolfan fodern ar gyfer addysg, y celfyddydau, yr economi a diwydiant. Mae'n ganolfan weinyddol Swydd Dulyn.

Roedd poblogaeth y ddinas weinyddol yn 505,739 yn ôl cyfrifiad 2006, ond roedd poblogaeth yr ardal drefol gyfan, yn cynnwys y maestrefi gerllaw, yn 1,186,159.

Afon Life a'r ddinas gyda'r nos

Diwylliant

Llenyddiaeth, theatr a'r celfyddydau creadigol

Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon

Mae gan y ddinas hanes llenyddol byd-eang, gan gynhyrchu nifer o lenorion blaenllaw gan gynnwys William Butler Yeats, George Bernard Shaw a Samuel Beckett. Mae ysgrifenwyr a dramodwyr o Ddulyn yn cynnwys Oscar Wilde, Jonathan Swift a chrewr Dracula, Bram Stoker. Er hynny, efallai fod y ddinas yn fwyaf adnabyddus fel lleoliad prif weithiau James Joyce. Mae Dubliners yn gasgliad o straeon byrion gan Joyce am ddigwyddiadau a chymeriadau sy'n nodweddiadol o drigolion y ddinas ar ddechrau'r 20g. Lleolir ei waith enwocaf hefyd, Ulysses hefyd yn Nulyn ac mae'n llawn manylion cyfoes. Mae llenorion cydnabyddedig eraill o'r ddinas yn cynnwys J.M. Synge, Seán O'Casey, Brendan Behan, Maeve Binchy, a Roddy Doyle. Ceir llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleynyddol mwyaf Iwerddon yn Nulyn, gan gynnwys Amgueddfa Argraffu Cenedlaethol Iwerddon a Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.

Ceir nifer o theatrau hefyd yng nghanol y ddinas, a daeth nifer o actorion byd enwog o fyd y theatr yn Nulyn. Maent yn cynnwys Noel Purcell, Brendan Gleeson, Stephen Rea, Colin Farrell, Colm Meaney a Gabriel Byrne. Y theatrau amlycaf yw'r Gaiety yr Abaty, yr Olympia a'r Gate. Mae'r Gaiety yn arbenigo mewn cynyrchiadau sioe gerdd ac opera. Sefydlwyd yr Abaty ym 1904 gan griw a oedd yn cynnwys Yeats gyda'r nod o hyrwyddo dawn llenyddol Gwyddelig. Aeth y grŵp ymlaen i ddarparu rhai o lenorion enwocaf y ddinas, megis Synge, Yeats ei hun a George Bernard Shaw. Sefydlwyd Theatr y Gate ym 1928 er mwyn hyrwyddo gweithiau arloesol Ewropeaidd ac Americanaidd. Y theatr fwyaf yw Neuadd Mahony yn Yr Helix ym Mhrifysgol Dinas Dulyn yn Glasnevin.

Mae Temple Bar, ar lan deheuol Afon Life, yn gartref i’r Canolfan Ffotograffiaeth Gweddelig, Canolfan Plant yr Ark, Institiwt Ffilm Gwyddelig, Y Ffatri Botwm, Canolfan Amlgyfryng yr Arthouse, Oriel a Stiwdios Temple Bar a Theatr Newydd Dulyn. Gyda’r nos mae tafarndai’r ardal yn denu twristiaid gyda chanu gwerin.[1] Cynhelir gŵyl werin, sef Tradfest ym mis Ionawr.[2]

Hefyd lleolir Llyfr Kells, llawysgrif byd enwog ac enghraifft o gelf Ynysol a gynhyrchwyd gan fynachod Celtaidd yn 800 A.D. yng Ngholeg y Drindod. Mae Llyfrgell Chester Beatty hefyd yn gartref i gasgliad enwog o lawysgrifau, paentiadau bychain, argraffiadau, darluniau, llyfrau prin a gwrthrychau addurniedig a gasglwyd gan y miliwnydd Americanaidd (a dinesydd Gwyddelug anrhydeddus) Syr Alfred Chester Beatty (1875-1968). Dyddia'r casgliadau o 2700 C.C. ymlaen ac maent yn dod o Asia, y Dwyrain Canol, Gogledd America ac Ewrop. Yn aml, arddangosir gwaith gan arlunwyr lleol o amgylch St. Stephen's Green, sef prif barc gyhoeddus yng nghanol y ddinas. Yn ogystal â hyn, ceir nifer o orielau celf o amgylch y ddinas, gan gynnwys yr Amgueddfa Wyddelig o Gelf Modern, Oriel Bwrdeistrefol Hugh Lane, Oriel Douglas Hyde a'r Academi Hibernian Frenhinol.

Adeilad y Four Courts, Dulyn

Lleolir tair cangen o Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon yn Nulyn; Archeoleg yn Stryd Kildare, Celf ac Hanes Addurniedig yn Collins Barracks a Hanes Naturiol yn Stryd Merrion Street.

Lleolir Áras an Uachtaráin, preswylfa Arlywydd Iwerddon ym Mharc Phoenix anferth o fewn y ddinas.

Trên DART yng Ngorsaf reilffordd Bré

Cludiant

Bysiau

Mae Dublin Bus a chymniau eraill yn cynnig gwasanaethau bws.

Trenau

Mae trenau DART yn mynd o Malahide a Howth i Greystones, yn pasio trwy ganol y ddinas. Hefyd, mae trenau Iarnród Éireann yn cysylltu’r maestrefi â chanol ddinas.

Tramiau

Mae tramiau LUAS yn mynd o’r maestrefi deheuol i ganol y ddinas.[3]

Enwogion

Chwaraeon

Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Leinster sy'n chwarae yn y Pro14. Maent yn chwarae yn Stadiwm yr RDS.

Mae'n hefyd yn gartref i sawl tîm pêl-Droed yn Uwch Gynghrair Gweriniaeth Iwerddon, megis Bohemians, St Patrick’s Athletic, Shamrock Rovers a University College Dublin.[4]

Cyfeiriadau

  1. "Gwefan ireland.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-09. Cyrchwyd 2019-03-13.
  2. "Gwefan Tradfest". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-01. Cyrchwyd 2019-03-13.
  3. Gwefan Cyngor y ddinas
  4. Tudalen Uwch Gynghrair Iwerddon ar wefan BBC, 13 Chwefror 2019

Read other articles:

Plaza Quilicura UbicaciónCoordenadas 33°21′57″S 70°43′44″O / -33.365888888889, -70.728833333333Dirección Av. Manuel Antonio Matta con Av. Bernardo O'Higgins[1]​Comuna QuilicuraDatos de la estaciónNombre anterior Plaza de QuilicuraInauguración 25 de septiembre de 2023[2]​[3]​[1]​N.º de andenes 2N.º de vías 2Operador Metro de SantiagoServicios detalladosPosición SubterráneaSimbología Vista de la Plaza de Armas de Quilicura[4]​Lí...

Antigone CostandaCostanda pada 1955Lahir1934 (umur 88–89)Iskandariyah,  Mesir Antigone Costanda (bahasa Arab: أنتيجون كوستان; bahasa Yunani: Αντιγόνη Κωνσταντά) adalah seorang desainer, model dan ratu kecantikan asal Mesir yang berhasil menjadi pemenang kontes kecantikan Miss World pada tahun 1954, mewakili Mesir.[1] Kontes tersebut diadakan pada tanggal 18 Oktober 1954 di London, Inggris, dengan 16 kontestan turut berpartisipasi.&...

Danube Gorge/Weltenburg Narrows(Weltenburger Enge)IUCN category IV (habitat/species management area)The Weltenburg Narrows near Weltenburg AbbeyLocationKelheim, Lower Bavaria, Bavaria, GermanyCoordinates48°54′01″N 11°49′49″E / 48.900278°N 11.830278°E / 48.900278; 11.830278Area5.6DesignationNSG200.002 (NSG-00089.01)Established11 May 1970 Aerial image of the Danube Gorge near Weltenburg. The Weltenburg Abbey can be seen in the bottom right corner of the image...

  لمعانٍ أخرى، طالع البستان (توضيح). البستان  -  قرية مصرية -  تقسيم إداري البلد  مصر المحافظة محافظة البحيرة المركز الدلنجات المسؤولون السكان التعداد السكاني 26252 نسمة (إحصاء 2006) معلومات أخرى التوقيت ت ع م+02:00  تعديل مصدري - تعديل   قرية البستان هي إحدى ال�...

The Ethnic Power Relations (EPR) dataset identifies all politically relevant ethnic groups, their size, and their access to state power in every country of the world with a population of at least 250,000 from 1946 to 2017. It includes annual data on over 800 groups and codes the degree to which their representatives hold executive-level state power, from total control of the government, power-sharing to overt political discrimination. Also, it provides information on regional autonomy arrange...

Ataques a las estaciones policiales del Atlántico y Bolívar en 2018 Policía Nacional de Colombia, blanco principal de los atacantes.Lugar Barrio San José, Barranquilla Soledad 2000, Soledad, Atlántico Bellavista, Santa Rosa del Sur, Bolívar; ColombiaBlanco(s) Estaciones de policía de ColombiaFecha 27 de enero - 28 de enero de 20186:40 a. m. - 4:00 a. m. (UTC -5)Tipo de ataque ExplosiónArma(s) Granadas de manoMuertos 6 policías (estación del barrio San José de Barranquilla...

Pour les articles homonymes, voir Gravelotte. Gravelotteruisseau la Veuve La Gravelotte à Juvigny. Caractéristiques Longueur 11,6 km [1] Bassin collecteur Seine Régime pluvial Cours Source source · Localisation Juvigny · Altitude 44 m · Coordonnées 49° 01′ 45″ N, 4° 18′ 55″ E Confluence Marne · Localisation Condé-sur-Marne · Coordonnées 49° 02′ 07″ N, 4° 11′ 26″ E Géographie Principaux afflue...

«الخبز والسيرك» (بالإنجليزية: Bread and circuses)‏ وأصلها (باللاتينية: Panem et Circenses) أو الخبز والألعاب (بالإنجليزية: Bread and Games)‏؛ مُصطلح ورد في قصيدة للشاعر الهزلي الروماني جوفينال الذي عاش في أواخر القرن الأول وأوائل القرن الثاني الميلادي، ويُستخدم عادة في السياقات الثقافية، وخاصة �...

  لمعانٍ أخرى، طالع مالكوم كلارك (توضيح). هذه المقالة يتيمة إذ تصل إليها مقالات أخرى قليلة جدًا. فضلًا، ساعد بإضافة وصلة إليها في مقالات متعلقة بها. (سبتمبر 2018) مالكوم كلارك معلومات شخصية الميلاد 29 يونيو 1944(1944-06-29)كلايدبانك  [لغات أخرى]‏  الوفاة خطأ في التعبير: عل

4th episode of the 11th season of South Park The SnukeSouth Park episodeMayhem around South Park, shown with a split screen, 24-style. From top left: Hillary Clinton gets hospitalized, Kyle investigates the motive of a terrorist threat, CIA helicopters land in South Park, and Bahir plays checkers with Butters.Episode no.Season 11Episode 4Directed byTrey ParkerWritten byTrey ParkerProduction code1104Original air dateMarch 28, 2007 (2007-03-28)Episode chronology ← Pre...

Philippine television show PersonalanTitle cardGenreTabloid talk showDirected by Don Michael Perez Noel Añonuevo Presented by Ali Sotto Jolina Magdangal Jean Garcia Country of originPhilippinesOriginal languageTagalogProductionProduction locationsQuezon City, PhilippinesCamera setupMultiple-camera setupRunning time42 minutesProduction companyGMA Entertainment TVOriginal releaseNetworkGMA News TVReleaseJuly 25, 2011 (2011-07-25) –October 18, 2013 (2013-10-18) Personalan (tran...

American crossover thrash band Stormtroopers of DeathBackground informationAlso known asS.O.D.OriginNew York City, U.S.Genres Thrash metal hardcore punk crossover thrash Years active1985–1986, 1992, 1997–2002, 2007Labels Megaforce Nuclear Blast SpinoffsM.O.D.Spinoff ofAnthraxPast membersScott IanDan LilkerCharlie BenanteBilly Milano Stormtroopers of Death (abbreviated to S.O.D.) was an American crossover thrash band formed in New York City in 1985.[1] They are credited as being am...

Historic district in Massachusetts, United States United States historic placeWakefield ParkU.S. National Register of Historic PlacesU.S. Historic district Park AvenueShow map of MassachusettsShow map of the United StatesLocationRoughly Park Ave. between Summit Ave. and Chestnut St., Wakefield, MassachusettsCoordinates42°30′3″N 71°5′5″W / 42.50083°N 71.08472°W / 42.50083; -71.08472Architectural styleLate 19th And Early 20th Century American Movements, ...

Terremoto de Tarapacá de 1987 7,2[1]​ en escala de Richter (ML) ParámetrosFecha y hora 8 de agosto de 1987, 11:48 UTC-4[1]​Profundidad 70 KmCoordenadas del epicentro 19°01′19″S 69°59′28″O / -19.022, -69.991ConsecuenciasZonas afectadas I Región de Tarapacá, XV Región de Arica y ParinacotaMercalli VII a VIII[2]​Víctimas 3 muertos, 44 heridos[2]​[editar datos en Wikidata] El terremoto de Tarapacá de 1987, también llamado terremo...

Artikel ini perlu diterjemahkan ke bahasa Indonesia. Artikel ini ditulis atau diterjemahkan secara buruk dari Wikipedia bahasa selain Indonesia. Jika halaman ini ditujukan untuk komunitas berbahasa tersebut, halaman itu harus dikontribusikan ke Wikipedia bahasa tersebut. Lihat daftar bahasa Wikipedia. Artikel yang tidak diterjemahkan dapat dihapus secara cepat sesuai kriteria A2. Jika Anda ingin memeriksa artikel ini, Anda boleh menggunakan mesin penerjemah. Namun ingat, mohon tidak menyalin ...

هذه المقالة يتيمة إذ تصل إليها مقالات أخرى قليلة جدًا. فضلًا، ساعد بإضافة وصلة إليها في مقالات متعلقة بها. (أغسطس 2020) جامع المدينة المنورة   إحداثيات 18°05′26″N 15°58′42″W / 18.090417°N 15.978217°W / 18.090417; -15.978217[1]  معلومات عامة الموقع نواكشوط  الدولة موريتانيا  م...

Non-periodic tiling in geometry Wikimedia Commons has media related to Pinwheel tiling. In geometry, pinwheel tilings are non-periodic tilings defined by Charles Radin and based on a construction due to John Conway. They are the first known non-periodic tilings to each have the property that their tiles appear in infinitely many orientations. Conway's tessellation Conway's triangle decomposition into smaller similar triangles. Let T {\displaystyle T} be the right triangle with side length 1 {...

Professional golf tournamentEstrella Damm Ladies OpenTournament informationLocationBarcelona, SpainEstablished2017Course(s)Club de Golf TerramarPar72Length5,426 m (5,934 yd)Tour(s)Ladies European TourFormatStroke playPrize fund€300,000Month playedJulyCurrent champion Carlota Ciganda Terramarclass=notpageimage| Location in Europe The Estrella Damm Ladies Open is a professional golf tournament on the Ladies European Tour, first played in 2017.[1] The tournament is played in ...

L'aeroporto di Daytona Beach osservato dalla base destra per pista 34, o dal sottovento destro pista 07 Il circuito di traffico aeroportuale, in inglese aerodrome traffic circuit, è il tragitto standard che gli aeromobili percorrono, seguendo le regole del volo a vista, per effettuare un avvicinamento o atterrare su di un aeroporto. Il circuito è caratterizzato da una quota specifica, detta quota di circuito, e da un senso di percorrenza standard antiorario, con virate verso sinistra (circu...

1859 Belgian general election ← 1857 14 June 1859 (1859-06-14) 1861 → 58 of the 116 seats in the Chamber of Representatives57 seats needed for a majority   First party Second party   Leader Charles Rogier Party Liberal Catholic Leader since Candidate for PM Seats before 70 seats 38 seats Seats won 31 27 Seats after 69 47 Seat change 1 9 Popular vote 15,052 12,726 Percentage 54.19% 45.81% Government before election Ro...