Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop yw Rwmania (Rwmaneg: România). Mae'n ffinio â Hwngari a Serbia i'r gorllewin a Bwlgaria i'r de, a'r Wcráin a Moldofa i'r gogledd a'r dwyrain.[1] Ffurfir y mwyafrif o'r goror rhwng Rwmania a Bwlgaria gan Afon Donaw, sy'n arllwys i Aberdir y Donaw yn y fan mae morlin yn ne-ddwyrain Rwmania ar lannau'r Môr Du. Mae ganddi arwynebedd o 238,391 metr sgcilowar (92,043 mi sgw) a hinsawdd gyfandirol a thymherus. Rhed cadwyn dde-ddwyreiniol Mynyddoedd Carpathia trwy ganolbarth y wlad, gan gynnwys Copa Moldoveanu (2,544 m (8,346 tr)).[2]
Tyfod economi Rwmania yn gyflym ar ddechrau'r 2000au, a bellach mae'n seiliedig yn bennaf ar wasanaethau a hefyd yn cynhyrchu ac allforio peiriannau ac ynni trydan. Ymaelododd â NATO yn 2004 a'r Undeb Ewropeaidd yn 2007. Trigai tua 20 miliwn o bobl yn y wlad, a bron i 2 miliwn ohonynt yn y brifddinas Bwcarést.[3] Rwmaniaid, un o'r cenhedloedd Lladinaidd, yw mwyafrif y boblogaeth a siaradent Rwmaneg ac yn Gristnogion Uniongred Dwyreiniol. Ceir lleiafrifoedd o dras Hwngaraidd a Roma.
Tarddiad yr enw
Daw enw'r wlad yn y bôn o'r gair Lladinromanus, sy'n golygu "dinesydd Rhufain".[4] Defnyddid yr enw yn gyntaf, hyd y gwyddon, yn yr 16g gan ddyneiddwyr Eidalaidd a deithiodd i Dransylfania, Moldafia, a Walachia.[5][6][7][8] Sonir am Țeara Rumânească ("Tir Rwmania") yn Llythyr Neacșu o Câmpulung (1521), y ddogfen hynaf sy'n goroesi yn yr iaith Rwmaneg.[9]
Defnyddid y ddau sillafiad român a rumân hyd ddiwedd yr 17g, pan wahaniaethid y ddwy ffurf am resymau cymdeithasol-ieithyddol: "taeog" oedd ystyr rumân bellach, a român oedd yr enw ar y bobl Rwmaneg eu hiaith.[10] Wedi diddymu'r system daeog ym 1746, gair anarferol oedd rumân a daeth y ffurf român yn safonol. Defnyddid yr enw Rwmania i ddisgrifio mamwlad yr holl Rwmaniaid yng nghyfnod cynnar y 19g.[11]
Ymhlith y ffurfiau ar enw'r wlad mewn ieithoedd eraill Ewrop mae Rumänien yn Almaeneg, Roumanie yn Ffrangeg, Rumunija yn Serbo-Croateg, Румыния (Rumyniya) yn Rwseg, a Rumunia yn Bwyleg. Daw'r enw Cymraeg drwy'r hen ffurf Saesneg Rumania neu Roumania.[12]Romania yw'r ffurf Saesneg arferol ers canol y 1970au.[13][14]
Enwau swyddogol
1859–1862: Tywysogaethau Unedig
1862–1866: Tywysogaethau Unedig Rwmania
1866–1881: Rwmania
1881–1947: Teyrnas Rwmania
1947–1965: Gweriniaeth Pobl Rwmania (RPR)
1965–1989: Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania (RSR)
1989–presennol: Rwmania
Hanes
Hanes cynnar
Tua 2000 CC ymsefydlodd yr Indo-Ewropeaid yn ardal Donaw-Carpathia, a chymysgant â'r brodorion neolithig gan ffurfio'r Thraciaid. Tros amser datblygodd y Thraciaid yn ddau dylwyth tebyg, y Getiaid a'r Daciaid, enwau a roddid arnynt gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Trigant yn y mynyddoedd i ogledd Gwastatir y Donaw ac ym Masn Transylfania. Daeth y Getiaid i gysylltiad â'r byd Groeg drwy wladfeydd yr Ïoniaid a'r Doriaid ar arfordir gorllewinol y Môr Du yn y 7g CC.
Yr Oesoedd Canol
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Annibyniaeth a brenhiniaeth
Roedd Rwmania dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaidd o'r 15g hyd y 19g. Yn sgil twf cenedlaetholdeb ar draws Ewrop, dechreuodd y Rwmaniaid frwydro am eu hannibyniaeth yn y 1820au wrth iddynt geisio uno Moldafia, Walachia a Thransylfania. Unodd Moldafia a Walachia ym 1862 i ffurfio'r Tywysogaethau Unedig, a ail-enwyd yn Rwmania ym 1866. Trodd yn deyrnas ym 1881.
Otherwydd diffiniwyd nifer o ffiniau Romany gan afonydd naturiol, weithiau'n shifftio, ac oherwydd bu'r Delta Donaw wastad yn ehangu tuag at y môr, tua 2-5 metr llinellog y flwyddyn, mae arwynebedd Romania wedi newid dros yr ychydig o degawdau diwethaf, yn cyffredinol yn cynyddu. Cynyddwyd y rhif o tua 237,500 km² yn 1969 i 238,319 km² yn 2005.
Mae Rwmania yn weriniaeth ddemocrataidd. Mae cangen ddeddffwriaethol llywodraeth Rwmania yn cynnwys dwy siambr, y Senat (Senedd), sydd ag 137 o aelodau (2004), ac y Camera Deputaţilor (Siambr Dirprwyon), sydd â 332 o aelodau (2004). Etholir aelodau'r ddwy siambr pob pedair mlynedd.
Etholir yr Arlywydd, pennaeth y cangen weithredol, hefyd gan bleidlais boblogaidd, pob pum mlynedd (nes 2004, pedair mlynedd). Mae'r arlywydd yn penodi'r Prif Weinidog, sy'n bennaeth y lywodraeth, a phenodir aelodau'r lywodraeth gan y Prif Weinidog. Mae angen i'r lywodraeth cael pleidlais seneddol o gymeradwyaeth.
Rhanbarthau a siroedd
Caiff Rwmania ei rhannu i 41 o judeţe, neu siroedd, a bwrdeisiaeth Bwcarést (y brifddinas).
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Yn 2022, mae Rwmania yn cael CMC o gwmpas $737 biliwn a CMC y pen o $38,721[17]. Yn ôl Banc y Byd, mae Rwmania yn gwlad incwm uchel[18]. Yn ôl Eurostat, roedd CMC y pen Rwmania yn 77% o gyfartaledd yr UE yn 2022, cynnydd o 44% mewn 2007 gan wneud Rwmania yn un o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf.[19]
Ar ôl 1989, fe wnaeth y wlad profi degawd o ansefydlogrwydd economaidd a ddirywiad, wedi arwain yn rhannol gan sylfaen ddiwydiannol ddarfodedig a ddiffyg diwyigo strwythurol. Er hyn, o 2000 ymlaen, roedd economi Rwmania wedi trawsnewid mewn i un gyda sefydlogrwydd macro-economaidd cymharol wedi ei nodweddi gan twf uchel, diweithdra isel a chwyddiant sy'n lleihau. Yn 2006, yn ôl Swyddfa Ystadegau Rwmania, roedd twf CMC yn 7.7%, un o'r cyfraddau uchaf yn Ewrop[20]. Er hyn, roedd y Dirwasgiad Mawr yn 2008 wedi gorfodi i'r gwlad benthyg yn allanol, gan gynnwys rhaglen 'bailout' o €20 biliwn o'r IMF[21]. Yn ôl Banc y Byd, tyfodd CMC y pen mewn pŵer prynu o $13,687 yn 2007 i $28,206 yn 2018 [22]. Cynyddodd cyflog net cyfartalog i €913 yn 2023[23], a cyfradd chwyddiant o -1.1% yn 2016. Roedd di-weithdra yn Rwmania yn 4.3% yn Awst 2018, sy'n isel mewn cymhariaeth efo gwledydd eraill yn yr UE[24].
Roedd twf allbwn diwydiannol wedi cyrraedd 6.5% blwyddyn-ar-flwyddyn yn Chwefror 2013, yr uchaf yn Ewrop[25]. Y cwmnïoedd lleol mwyaf yn cynnwys gwneuthurwr ceir Dacia, Petrom, Rompetrol, Ford Romania, Electrica, Romgaz, RCS & RDS a Banca Transilvania. O 2020 ymlaen, mae yna o gwmpas 6000 o allforion y mis. Prif allforion Rwmania yw: ceir, meddalwedd, dillad a tecstiliau, peiriannau diwydiannol, offer trydannol ac electronig, cynhyrchion metalig, deunyddiau crai, offer milwrol, cynhyrchiol fferyllol, cemegion, a cynhyrchion amaethfyddol (ffrwythau, llysiau, a blodau). Mae masnach wedi'i ganoli'n bennaf o amgylch aelodau yr UE, gyda'r Almaen a'r Eidal fel ei partneriaid masnach fwyaf. Roedd balans cyfrif yn 2012 o gwmpas 4.52% o CMC.
Ar ôl cyfres o preifateiddio a diwygiadau yn y 1990au hwyr a'r 2000au, ymyrraeth llywodraethol yn economi Rwmania yn llai na gwledydd Ewropeaidd arall[26]. Yn 2005, disodlodd y llywodraeth system trethi flaengar Rwmania efo treth gwastad o 16% am incwm personol ac elw corfforaethol, ymhlith y cyfraddau isaf yn yr Undeb Ewropeaidd[27]. Mae'r economi wedi'i seilio ar wasanaethau, sy'n cyfri am 56.2% o CMC y wlad yn 2017, gyda diwydiant ac amaethfyddiaeth yn cyfri am 30% a 4.4% yn y drefn honno[28]. Amcangyfrir bod 25.8% o weithlu Rwmania yn cael eu gyflogi yn y sector amaethfyddol, un o'r uchaf yn Ewrop[29].
Rwmania wedi denu symiau cynyddol o fuddsoddiad tramor yn dilyn diwedd Comiwnyddiaeth, gyda stoc o fuddsoddiad tramor uniongyrchol (FDI) yn Rwmania yn codi i €83.8 biliwn yn Mehefin 2019. Cyfanswm stoc allanol FDI Rwmania (busnes allanol neu dramor naill ai'n buddsoddi mewn neu'n prynu stoc economi leol) oedd $745 miliwn yn Rhagfyr 2018, y gwerth isaf ymhlith 28 aelod-wladwriaethau'r UE[30]. Rhai cwmnïoedd sy'n buddsoddi yn Rwmania yn cynnwys Coca-Cola, McDonald's, Pizza Hut, Procter & Gamble, Citibank, a IBM.
Yn ôl adroddiad Banc y Byd yn 2019, mae Rwmania yn safle 52 allan o 190 yn economïau o ran rhwyddineb gwneud busnes, un lle yn uwch na Hwngari gyfagos ac un lle yn is na'r Eidal. Canmolodd yr adroddiad y broses gyson o orfodi contractau a mynediad at gredyd yn y wlad, tra'n nodi anawsterau o ran mynediad at drydan a delio â thrwyddedau adeiladu.
Ers 1867 arian cyfred swyddogol wedi bod yn y leu Romania ac yn dilyn enwadau ers 2005. Ar ôl ymuno â'r Ue yn 2007, mae Rwmania yn cynllunio i ddefnyddio'r Ewro yn 2029[31].
Yn Ionawr 2020, adroddwyd bod dyled allanol Rwmania yn US$122 biliwn yn ôl data CEIC[32].
Demograffeg
Y boblogaeth hanesyddol
Blwyddyn
Pobl.
±%
1866
4,424,961
—
1887
5,500,000
+24.3%
1899
5,956,690
+8.3%
1912
7,234,919
+21.5%
1930
18,057,028
+149.6%
1939
19,934,000
+10.4%
1941
13,535,757
−32.1%
1948
15,872,624
+17.3%
1956
17,489,450
+10.2%
1966
19,103,163
+9.2%
1977
21,559,910
+12.9%
1992
22,760,449
+5.6%
2002
21,680,974
−4.7%
2011
20,121,641
−7.2%
2016 (amcan.)
19,474,952
−3.2%
Nid yw rhifau cyn 1948 yn cyfateb i ffiniau cyfredol y wlad.
Yn ôl cyfrifiad 2011, poblogaeth Rwmania yw 20,121,641. Megis gwledydd eraill yn ei chylch, mae disgwyl i'r boblogaeth leiháu'n raddol yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i gyfradd ffrwythlondeb (1.2–1.4) sy'n rhy isel i gynnal nifer cenedlaethau'r dyfodol a chyfradd allfudo sy'n uwch na'r gyfradd mewnfudo. Ym mis Hydref 2011, roedd Rwmaniaid ethnig yn cyfri am 88.9% o'r boblogaeth. Y lleiafrifoedd ethnig mwyaf eu maint yw'r Hwngariaid (6.5%) a'r Roma (3.3%).[33][34] Mwyafrif yw'r Hwngariaid yn siroedd Harghite a Covasna. Ymhlith y lleiafrifoedd eraill mae'r Wcreiniaid, yr Almaenwyr, y Tyrciaid, y Lipofiaid (Hen Gredinwyr o dras Rwsiaidd), yr Aromaniaid, y Tatariaid, a'r Serbiaid.[35] Ym 1930, trigai 745,421 o Almaenwyr yn Rwmania,[36] ond dim ond rhyw 36,000 sy'n byw yno heddiw.[35] Yn 2009 roedd tua 133,000 o fewnfudwyr yn Rwmania, yn bennaf o Foldofa a Tsieina.
Ieithoedd
Iaith swyddogol Rwmania yw'r Rwmaneg, iaith Romáwns ddwyreiniol sy'n debyg i'r Aromaneg, y Megleno-Romaneg, a'r Istro-Romaneg, ond sy'n rhannu nifer o nodweddion â'r ieithoedd gorllewinol megis Eidaleg, Ffrangeg, Sbaeneg, a Phortiwgaleg. Mae 31 o lythrennau yn yr wyddor Rwmaneg. Siaredir Rwmaneg yn iaith gyntaf gan 85% o'r boblogaeth. Siaredir Hwngareg gan 6.2%, a'r Flach-Romani (tafodiaith Romani) gan 1.2%. Trigai 25,000 o siaradwyr Almaeneg brodorol a 32,000 o siaradwyr Tyrceg yn Rwmania, yn ogystal â 50,000 o siaradwyr Wcreineg[37] sy'n byw ger y ffin â'r Wcráin ac yn fwyafrif yn yr ardaloedd hynny.[38] Yn ôl y cyfansoddiad, mae rhaid i gynghorau lleol sicrháu hawliau iaith i holl leiafrifoedd y wlad, ac os yw'r lleiafrif ethnig yn cyfri am ddros 20% o'r boblogaeth yna ceir defnyddio'r iaith leiafrifol yn y llywodraeth, y llysoedd, a'r ysgolion.[39] Y Saesneg a'r Ffrangeg yw'r prif ieithoedd tramor a addysgir yn yr ysgol.[40] Yn 2012 roedd 31% o Rwmaniaid yn medru'r Sasneg, 17% yn medru'r Ffrangeg, a 7% yn gallu siarad Eidaleg.[41]
Gwladwriaeth seciwlar a heb grefydd swyddogol yw Rwmania. Cristnogion yw'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth. Yn 2011 roedd 81% yn perthyn i Eglwys Uniongred Rwmania, 4.8% yn Brotestaniaid, 4.3% yn Babyddion, a 0.8% yn ffyddlon i Eglwys Gatholig Groeg Rwmania. O weddill y boblogaeth, mae 195,569 yn perthyn i enwadau Cristnogol eraill neu'n aelodau o grefydd arall, gan gynnwys 64,337 o Fwslimiaid (y mwyafrif o dras Dyrcaidd neu Dataraidd) a 3,519 o Iddewon. Yn ogystal, mae 39,660 yn anffydwyr neu fel arall yn ddigrefydd.[42]
Eglwys hunanbenaethol dan Batriarch yw Eglwys Uniongred Rwmania sy'n rhan o gymundeb yr Eglwysi Uniongred Dwyreiniol. Hon yw'r Eglwys Uniongred ail fwyaf yn y byd, ac yn wahanol i'r eglwysi eraill mae ganddi ddiwylliant Lladinaidd ac yn defnyddio iaith Romáwns yn ei litwrgi.[43] Mae ganddi awdurdod canonaidd dros holl diriogaeth Rwmania a Moldofa,[44] ac esgobaethau ar gyfer Rwmaniaid yn Serbia ac Hwngari yn ogystal â chymunedau ar wasgar yng Nghanolbarth a Gorllewin Ewrop, Gogledd America, ac Oceania.
Diwylliant
Er bod hunaniaeth gymdeithasol a diwylliannol genedlaethol, mae diwylliannau'r rhanbarthau yn adlewyrchu gwahaniaethau hanesyddol. Gwelir dylanwad Awstria ac Hwngari ym mhensaernïaeth Transylfania a'r Banat: arddulliau Romanésg, Gothig, a Baróc. Cafodd y Slafiaid, yn bennaf yr Wcreiniaid a'r Rwsiaid, eu heffaith ar ardal Moldafia, a gwelir nodweddion o darddiad Tataraidd a phobloedd eraill Canolbarth Asia yng nghelfyddyd y werin. Trwy Walachia yn ne'r wlad daeth ddylanwad Môr y Canoldir: y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, y Bysantiaid a'r Otomaniaid. Mae'r lleiafrifoedd Hwngaraidd, Roma, ac Almaenig yn cadw at draddodiadau eu hunain o ran celfyddyd, coginiaeth, a gwisg.
Y Weinyddiaeth Diwylliant sy'n gyfrifol am gefnogi bywyd a sefydliadau diwylliannol ar draws Rwmania. Bwcarést yw canolfan ddiwylliannol y wlad ac yma lleolir sawl theatr, tŷ opera, y Gerddorfa Genedlaethol, Cerddorfa Ffilharmonig George Enescu, yr Amgueddfa Gelfyddyd Genedlaethol, yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol, Amgueddfa Byd Natur Grigore Antipa, Amgueddfa'r Werin, Amgueddfa'r Pentref, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell Ganolog Prifysgol Bwcarést, a Llyfrgell Academi Rwmania. Mae gwyliau cenedlaethol Rwmania yn cynnwys y flwyddyn newydd (1 ac 2 Ionawr), y Llun wedi'r Pasg, Gŵyl Fai (mărțișor), y Diwrnod Cenedlaethol (1 Rhagfyr, sy'n dathlu uno Transylfania â gweddill y wlad), a Dydd y Nadolig.
Rheolir nifer o arferion a thraddodiadau gan grefydd y gymuned. Mae'r Rwmaniaid ethnig yn cynnal seremonïau yn ôl yr arfer Uniongred Ddwyreiniol yn ystod Wythnos y Grog a'r Pasg. Mae'r Hwngariaid ac Almaenwyr, sy'n perthyn i'r Eglwys Babyddol ac eglwysi Protestannaidd, yn rhoi mwy o bwyslais ar ddathlu'r Nadolig. Cedwir y wisg werin Rwmanaidd yng nghefn gwlad, ac mae gan bob sir bron ei lliw ac arddull leol. Cyfunir y grefft a'r gelfyddyd gan arferion y werin: cerfweithiau pren, gwisg addurnedig, brodwaith, carpedi, a chrochenwaith. Mae Rwmania yn enwog am ei wyau Pasg addurnedig a phaentio ar wydr.
Coginiaeth
Cafwyd dylanwad sylweddol ar goginiaeth Rwmania gan draddodiadau'r Tyrciaid a'r Groegiaid. Prif fwyd y werin ers talwm yw cawl a ballu: cawl cig, llysiau a nwdls, cawl bresych tew, a stiw cig moch gyda garlleg a winwns. Am damaid melys bwyteir crwst plăcintă, baclafa, neu deisen almon o'r enw saraille. Mae gwin o ardal Moldafia yn boblogaidd, a cheir cyrfau lleol ar draws y wlad. Diod archwaeth gryf yw palincă, sef brandieirin sy'n ffurf ranbarthol ar wirod sy'n boblogaidd ar draws Basn Carpathia.
Celf, cerdd a llên
Offerynnau cerdd traddodiadol y wlad yw'r cobza (sy'n debyg i liwt), y tambal (dwlsimer), y flaut (ffliwt), yr alpgorn, y bibgod, a'r nai (pibau Pan). Mae'r gerddoriaeth werin yn cynnwys cerddoriaeth ddawns, y doina (galarganeuon), baledi, a cherddoriaeth fugeiliol. Daeth sawl arlunydd a llenor Rwmanaidd i sylw'r byd yn y 19g, gan gynnwys y beirdd Mihail Eminescu a Tudor Arghezi, y llenor a chwedleuwr Ion Creanga, yr arlunydd Nicolae Grigorescu, a'r dramodydd Ion Luca Caragiale. Ymfudodd nifer o artistiaid a deallusion Rwmanaidd o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys y dramodydd Eugène Ionesco, y bardd a thraethodydd Andrei Codrescu, yr athronydd Emil Cioran, y llenor a chyfarwyddwr ffilm Petru Popescu, y cerflunydd Constantin Brancusi, a'r hanesydd Mircea Eliade. Roedd yn rhaid i'r holl gelfyddydau cydymffurfio â Realaeth Sosialaidd yn ystod yr oes gomiwnyddol.
Chwaraeon
Gêm bat a phêl o'r enw oină yw mabolgamp draddodiadol Rwmania. Pêl-droed yw'r gamp fwyaf poblogaidd, a saif meysydd yn y dinasoedd mawrion a chanddynt timau yn y gynghrair genedlaethol. Bu'r tîm pêl-droed cenedlaethol yn llwyddiannus iawn ar adegau, yn enwedig yn y 1990au dan gapteiniaeth Gheorghe Hagi. Fel arfer mae Rwmaniaid yn chwarae a hamddena mewn clybiau, a'r gweithgareddau mwyaf boblogaidd yw seiclo, pêl-droed, pêl-law, tenis, rygbi, a'r crefftau ymladd. Mae Mynyddoedd Carpathia yn denu dringwyr a heicwyr yn yr haf, a sgïwyr ac eirfyrddwyr yn y gaeaf. Yn Aberdir y Donaw mae gwylwyr adar wrth eu helfen, ac mae nofwyr yn heidio i'r traethau ar lannau'r Môr Du pan bo'r tywydd yn braf.
Ffynodd y cyfryngau torfol a lleol yn Rwmania yn sgil Chwyldro 1989, er i nifer o gyhoeddiadau derfyn o ganlyniad i gwymp economaidd yn y ddegawd olynol. Cyhoeddir y papurau newydd cenedlaethol Libertatea ("Rhyddid"), Jurnalul Naţional ("Cyfnodolyn Cenedlaethol"), Adevărul ("Y Gwir"), ac Evenimentul Zilei ("Digwyddiadau'r Dydd") yn ddyddiol ym Mwcarést, a Monitorul Oficial ("Sylwedydd Swyddogol") yw newyddiadur y llywodraeth. Rompres yw asiantaeth newyddion swyddogol y wlad. Lansiwyd y gwasanaeth Media Fax, cwmni preifat, ym 1991. Lleolir adrannau o asiantaethau newyddion tramor, er enghraifft y BBC, yn y brifddinas. Rheolir rhwydwaith radio a theledu cenedlaethol gan y wladwriaeth, a cheir hefyd nifer o sianeli preifat, megis PRO-TV. Mae'r cyfansoddiad yn haeru i sicrháu rhyddid y wasg, ond gwelir y llywodraeth yn aml yn dylanwadu ar y cyfryngau ac yn erlyn newyddiadurwyr am resymau gwleidyddol.
↑Verres, Andréas. Acta et Epistolae. I. t. 243. nunc se Romanos vocant
↑Cl. Isopescu (1929). "Notizie intorno ai romeni nella letteratura geografica italiana del Cinquecento". Bulletin de la Section HistoriqueXVI: 1–90. ""... si dimandano in lingua loro Romei ... se alcuno dimanda se sano parlare in la lingua valacca, dicono a questo in questo modo: Sti Rominest ? Che vol dire: Sai tu Romano, ...""
↑Holban, Maria (1983). Călători străini despre Țările Române (yn Romanian). II. Ed. Științifică și Enciclopedică. tt. 158–161. Anzi essi si chiamano romanesci, e vogliono molti che erano mandati quì quei che erano dannati a cavar metalli ...CS1 maint: unrecognized language (link)
↑Cernovodeanu, Paul (1960). Voyage fait par moy, Pierre Lescalopier l'an 1574 de Venise a Constantinople, fol 48. Studii și materiale de istorie medievală (yn Romanian). IV. t. 444. Tout ce pays la Wallachie et Moldavie et la plus part de la Transilvanie a eté peuplé des colonies romaines du temps de Traian l'empereur ... Ceux du pays se disent vrais successeurs des Romains et nomment leur parler romanechte, c'est-à-dire romain ...CS1 maint: unrecognized language (link)
↑"Romania". 2005 Index of Economic Freedom. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-01-05. Cyrchwyd 2024-03-17.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
↑"Farmers in the EU - statistics". Eurostat. Awst 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-15. Cyrchwyd 17 Mawrth 2024.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
2001 studio album by The Bambi MolestersSonic Bullets: 13 From the HipStudio album by The Bambi MolestersReleased2001RecordedRSL Studio, Novo Mesto;various locations in Seattle, August, October 2001GenreSurf rock, instrumental rock, spy musicLength43:49LabelDancing BearProducerEdi CukerićThe Bambi Molesters chronology Intensity!(1999) Sonic Bullets: 13 From the Hip(2001) Dumb Loud Hollow Twang Deluxe(2003) Professional ratingsReview scoresSourceRatingPitchfork Media7.9/10 link Sonic ...
The Boys' Brigade in MalaysiaBriged Putera Malaysia بريڬيد ڤوترا مليسيا (Jawi)Unofficial remake logo of Boys' Brigade in MalaysiaAbbreviationBB (BBM)Founded1946TypeNon-profit organisationHeadquartersPetaling JayaLocationMalaysiaMembership (2019) 8427FounderRobert DaviesCurrent PresidentNicholas YeapAffiliationsMalaysian Youth Council, Malaysian Ministry of Youth and Sports, Malaysian AIDS CouncilAssociate member of the Council of Churches of Malaysia, National Evangelical Chr...
Mary Robinson Mary Robinson, geportretteerd door Thomas Gainsborough (1781). Algemene informatie Bijnaam The English Sappho Volledige naam Mary Darby Robinson Geboren 27 november 1757 Geboorteplaats Bristol, Verenigd Koninkrijk Overleden 26 december 1800 Overlijdensplaats Englefield Green, Verenigd Koninkrijk Beroep Actrice, auteur, dichteres Werk Jaren actief 1775-1800 Genre Poëzie Portaal Literatuur Mary Robinson (Bristol, 27 november 1757 - Englefield Green, 26 december 1800)...
Selbstporträt, 1885 Ecce Homo! („Sehet diesen Menschen!“), Ausspruch des Pilatus’ gegenüber den Jerusalemern in Bezug auf Jesus von Nazareth Antonio Ciseri (* 25. Oktober 1821 in Ronco sopra Ascona; † 8. März 1891 in Florenz) war ein schweizerisch-italienischer Maler. Inhaltsverzeichnis 1 Leben 2 Werke 3 Literatur 4 Weblinks 5 Einzelnachweise Leben Ciseri wurde als Sohn von Giovan Francesco Ciseri und Caterina Materni im Tessin geboren. Sein Vater und Grossvater waren seit Generati...
هذه المقالة يتيمة إذ تصل إليها مقالات أخرى قليلة جدًا. فضلًا، ساعد بإضافة وصلة إليها في مقالات متعلقة بها. (أكتوبر 2018) متلازمة الشاي والخبز المحمص معلومات عامة من أنواع الأمراض المصاحبة للشيخوخة، وسوء التغذية تعديل مصدري - تعديل متلازمة الشاي والخبز المحمص هي شكل...
Virgen del Canciller Rolin de Jan van Eyck (Museo del Louvre, París). Retrato de Giovanni Arnolfini y su esposa, National Gallery, Londres. Primitivos flamencos es la denominación historiográfica para los maestros de la escuela flamenca de pintura en sus siglos iniciales; desde Jan van Eyck (primera mitad del siglo XV) hasta Pieter Bruegel el Viejo (mediados del siglo XVI).[1] Dentro de la pintura flamenca existen varias escuelas: la italianista y la reaccionaria durante l...
Komunitas Sant'EgidioComunità di Sant'EgidioBerkas:Sant'Egidio.pngDinamai berdasarkanSanto GilesTanggal pendirian1968; 54 tahun lalu (1968)PendiriAndrea RiccardiDidirikan diVirgil High School, RomeTipeAsosiasi internasional orang percaya dari kepausan; organisasi non-pemerintahTujuanPerawatan bagi orang yang membutuhkan; menyelesaikan konflikKantor pusatSant'Egidio, RomaLokasi73 negaraWilayah Eropa, Afrika, Amerika, AsiaJumlah anggota Seluruh duniaPresidenMarco ImpagliazzoOrganisasi ind...
В Википедии есть статьи о других людях с фамилией Гонсалес. Оскар Гонсалесисп. Óscar González Arraiga Общая информация Полное имя О́скар Гонса́лес Арра́йга Прозвище Finito / Fantasma Гражданство Мексика Дата рождения 22 апреля 1990(1990-04-22) Место рождения Тепик, Мексика Дата смерти 3 фе�...
Dieser Artikel befasst sich mit dem Archäologen Theodore Leslie Shear (1880–1945). Zu seinem Sohn Theodore Leslie Shear, Jr. (* 1938) siehe T. Leslie Shear, Jr. Theodore Leslie Shear (1936) Theodore Leslie Shear (* 11. August 1880 in New London, New Hampshire; † 3. Juli 1945 am Lake Sunapee, New London, New Hampshire) war ein amerikanischer Klassischer Archäologe. Thedore Leslie Shear, Sohn von Theodore R. Shear (1847–1909) und Mary Louise Quackenbush, besuchte die Halsey Collegiate S...
Indigenous knowledge for sustainable architecture Bhimakali temple, built in Kath-Kuni style of architecture.Kath-Kuni is an indigenous construction technique prevalent in the isolated hills of northern India, especially in the region of Himachal Pradesh Kath is derived from the Sanskrit word kashth meaning wood and kuni from the word kona meaning corner. It also goes by other names such as kath-kona, kath-ki-kanni in Sarahan region It is a traditional technique that uses alternating layers o...
Public state university in Hyderabad, Telangana Osmania redirects here. For other uses, see Osmania (disambiguation). Osmania UniversityMotto in EnglishLead us from Darkness to LightTypePublicEstablished1918 (105 years ago) (1918)FounderMir Osman Ali KhanAccreditationNAACNBAAcademic affiliationsUGCAIUAICTEBCIChancellorDr. Tamilisai Soundararajan (Governor of Telangana)Vice-ChancellorProf. D Ravinder YadavAcademic staff445[1]Students10,280[1]Undergraduates1,9...
Firmo Freire do Nascimento Nascimento 1881 Morte 1967 Cidadania Brasil Ocupação militar [edite no Wikidata] Firmo Freire do Nascimento (Boquim, 1 de dezembro de 1881 — Sergipe, 9 de julho de 1967) foi um militar brasileiro.[1] Biografia Foi chefe do Gabinete Militar no governo Getúlio Vargas, de 18 de setembro de 1942 a 28 de outubro de 1945. Referências ↑ Firmo Freire do Nascimento na página do Centro de Pesquisa e Documentação de História Contemporânea do Brasil (CPDOC) ...
Overview of religion in Jharkhand Religion in Jharkhand[1] Hinduism (67.83%) Islam (14.53%) Unclassified (12.52%) Christianity (4.31%) Sikhism (0.22%) Others (0.41%) Not stated (0.19%) Hinduism is the majority religion in Jharkhand, followed by nearly 67.83% of total population as of 2011 census. There has also been a significant population of followers of Islam and Sarnaism, with 14.53% and 12.52% respectiv...
Open-source project management system TRAC redirects here. For other uses, see TRAC (disambiguation). This article has multiple issues. Please help improve it or discuss these issues on the talk page. (Learn how and when to remove these template messages) This article may contain excessive or inappropriate references to self-published sources. Please help improve it by removing references to unreliable sources where they are used inappropriately. (March 2014) (Learn how and when to remove thi...
Former ruling palace of the Emperor of Japan View through the Jomeimon gate on the Shishinden main hall The Kyōto Imperial Palace (京都御所, Kyōto-gosho) is the former palace of the Emperor of Japan, located in Kamigyō-ku, Kyoto, Japan. Since the Meiji Restoration in 1869, the Emperors have resided at the Tokyo Imperial Palace, while the preservation of the Kyoto Imperial Palace was ordered in 1877.[1] Today, the grounds are open to the public, and the Imperial Household Agency...
Banda diagonal Base del encéfalo. (La banda diagonal no está señalada, pero la sustancia perforada anterior está señalada en el centro). Tronco del encéfalo, vista anterior. (La banda diagonal no está señalada, pero la sustancia perforada anterior es el #5).Latín [TA]: stria diagonalis;bandeletta diagonalisTA A14.1.09.422Sinónimos banda diagonal de Broca;cintilla diagonal de Broca;bandeleta diagonal de Broca Enlaces externosNeuroNames nucleus of stria terminalis[editar datos en...
Luke Bowanko Nazionalità Stati Uniti Altezza 198 cm Peso 136 kg Football americano Ruolo Centro Squadra Baltimore Ravens Carriera Giovanili Virginia Cavaliers Squadre di club 2014-2016 Jacksonville Jaguars2017- Baltimore Ravens Statistiche Partite 24 Partite da titolare 14 Statistiche aggiornate al 10 settembre 2017 Modifica dati su Wikidata · Manuale Luke Bowanko (Clifton, ...) è un giocatore di football americano statunitense che gioca nel ruolo di ce...
Kastil Pulau Trakai Trakai, Lituania Kastil Pulau Trakai Jenis Kastil Koordinat 54°39′07″N 24°56′02″E / 54.652°N 24.934°E / 54.652; 24.934 Dibangun Abad ke-14 Pembangun Kęstutis Kastil Pulau Trakai (bahasa Lituania: Trakų salos pilis) adalah sebuah kastel yang terletak di sebuah pulau di Danau Galvė di kota Trakai, Lituania. Pembangunan kastil batu ini dimulai pada abad ke-14 oleh Kęstutis, tetapi pada tahun 1377, kastel ini mengalami kerusakan besa...
Untuk kegunaan lain, lihat Surat Kecil untuk Tuhan. Surat Kecil untuk Tuhan the SeriesGenre Drama Roman BerdasarkanSurat Kecil untuk Tuhanoleh Agnes DavonarSkenarioSerena LunaCeritaSerena LunaSutradaraGita AsmaraPemeran Nikita Willy Giorgino Abraham Morgan Oey Lucky Perdana Anjasmara Hito Argatama Penggubah lagu temaMelly GoeslawLagu pembukaSurat Kecil untuk Tuhan — Nikita WillyLagu penutupSurat Kecil untuk Tuhan — Nikita WillyNegara asalIndonesiaBahasa asliBahasa IndonesiaJmlh. musim1Jml...