Mae papur newydd yn gyhoeddiad sy'n cynnwys newyddion, gwybodaeth a hysbysebu, fel arfer wedi'i gyhoeddi ar bapur rhad. Gall thema'r papur fod yn un cyffredinol neu o ddiddordeb arbennig, ac fel arfer cyhoeddir yn ddyddiol neu'n wythnosol.
Fformat
Mae'r rhan fwyaf o bapurau newydd modern yn un o dri maint:
Tabloidau: 380mm x 300mm (15 by 11¾ modfedd). Hanner maint argrafflenni a welir yn mwy cyffrogawol wedi'u cymharu ag argrafflenni. Gelwir tabloidau gyda chynnwys mwy fel argrafflenni yn gompactau.
Caiff Y Cymro ei gyhoeddi'n wythnosol. Mae papurau bro – papurau cymunedol a gaiff eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr – wedi dod yn brif nodwedd diwylliant newyddiaduro Cymru yn ystod y tri degawd diwethaf. Y Byd oedd y papur newydd dyddiol Cymraeg arfaethedig.
Papurau newydd Saesneg Cymru
Ymhlith y papurau newydd Saesneg a gyhoeddwyd yng Nghymru mae:
Mae enwau papurau newydd yn amrywio'n eang o iaith i iaith ac o wlad i wlad. Mae rhai teitlau yn gwbl unigryw, ond mae nifer o newyddiaduron yn rhannu elfennau tebyg yn eu henwau. Yn aml, mae'r enwau yn cynnwys nod o ddinas, ardal neu wlad y papur. Ceir enghreifftiau o'r elfennau amlaf isod:
Ym 1937, roedd gan tua ddau o bob tri phapur newydd dyddiol yn yr Unol Daleithiau un o'r enwau canlynol: News, Times, Journal, Herald, Tribune, Press, Star, Record(er), Democrat, Gazette, Post, Courier, Sun, Leader, Republic(an).[1] Mae'r teitlau Democrat a Republic(an) ar gyhoeddiadau Americanaidd yn cyfeirio at ddwy brif blaid yr Unol Daleithiau, y Democratiaid a'r Gweriniaethwyr.