Papur Bro Caerdydd a'r cylch yw Y Dinesydd y papur bro cyntaf a sefydlwyd. Fe'i sefydlwyd gan Meredydd Evans yn Ebrill 1973[1] ac fe'i dosberthir drwy'r capeli a'r ysgolion Cymraeg yn bennaf. Y Dinesydd oedd y papur bro cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru, ar wahân i Herald Cymraeg, Caernarfon ac mae'n gwasanaethu'r brifddinas ei hun a hefyd Y Barri, Penarth, Y Bontfaen a maestrefi gogleddol y ddinas.
Bu Norman Williams yn olygydd am y tair blwyddyn cyntaf.[1] Ymhlith y rheiny a fu wrth y llyw y mae Gwilym Roberts. Bu'r dylunydd, Cen Williams yn gartŵnydd cyson i'r cyhoeddiad o'r sefydlu yn y 1974.[2]
Roedd y cylchgrawn yn dathlu'i benblwydd yn 50 oed yn Ebrill 2023.[1]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolen allanol
Cyfeiriadau