Tref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Caernarfon. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw "Caer Seiont yn Arfon" neu "Caer Saint yn Arfon", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn ôl Cyfrifiad 2001. "Cofi" y gelwir rhywun a aned yn y dre.
Mae Caerdydd 198.7 km i ffwrdd o Gaernarfon ac mae Llundain yn 335.9 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 12.7 km i ffwrdd.
Hanes
Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Llŷn a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg CanolBreuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref â Branwen ferch Llŷr.
Ar ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28. Hefyd yn ystod y 19g, daeth Caernarfon i fod yn un o brif ganolfannau'r byd argraffu a newyddiaduraeth yng Nghymru, ac ar ei fwyaf llewyrchus drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.[2]
Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad.
Cysylltiadau cludiant
Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis.
Sefydliadau
Y Diwydiant Teledu
Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er bod dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmniau teledu yn parhau i fod â swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmnïau canlynol yng Nghaernarfon:
Mae'r dref hefyd yn gartref i safle stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) a rhaglen bêl-droed Sgorio yn cael eu darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo).
Eraill
Ar lan Doc Fictoria saif adeilad ar batrwm hen waarws (ond a godwyd fel adeilad pwrpasol ym 1981) sydd yn bencadlys Gwasanaeth Archifau Gwynedd.
Hynodion
Gwrachen gam
Mae yna lecyn creigiog ar ben Twtil, Caernarfon sydd yn fan chwarae traddodiadol i’r Cofis. “Grachan gam” i’w ei enw ar lafar heddiw - tybed beth yw tarddiad y fath enw? Crachan? (scab) - posib - y graith ar y graig efallai? Gwrachen? (y pysgodyn, wrasse, loach). Ond na, dyma holi T. Meirion Hughes, bardd ac un o wybodusion tref Caernarfon, a chael mai gwrach sydd yma, yn ôl chwedl beth bynnag, a bod rhywun rhywdro wedi trio’i saethu, gan adael olion y bwled yn y graig.
Pen Twtil a'r paent eto - uwch hen Gaer,
Gwrachen Gam a'i hogo;
Ni theimlaf ing wrth ddringo
Esgyn i fryn yn y fro.
Ni wyddys pwy oedd y wrach, a pham ceisio ei saethu.[3]
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.