Pentref a chymuned ger Caernarfon, Gwynedd, yw Llandwrog ( ynganiad ). Mae ar yr A499 hanner ffordd rhwng Caernarfon a Chlynnog. Yn ymyl y pentref ceir Parc Glynllifon, hen blasdy mawr sydd bellach yn ganolfan i weithgareddau o bob math. I'r gogledd mae Morfa Dinlle a'i draeth braf a Bae'r Foryd, lle rhed Afon Gwyrfai i'r môr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Mae'r pentref wedi bod yn gartref i Gwmni Recordiau Sain ers iw stiwdio recordio cyntaf agor ar fferm Gwernafalau yn 1975.
Yr eglwys
Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Twrog. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan y sant yn y 6g. Yn anffodus dydi'r hen eglwys ddim yn sefyll bellach. Codwyd un newydd yn ei lle yn 1860. Cedwir rhai o'r cofebion i Wyniaid a Glyniaid Glynllifon yn yr eglwys newydd; maen nhw i gyd yn perthyn i'r 18g.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llandwrog (pob oed) (2,539) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandwrog) (1,920) |
|
77.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandwrog) (1910) |
|
75.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandwrog) (398) |
|
36.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Enwogion
Atyniadau eraill
Cyfeiriadau