Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys Llangybi gan Sant Cybi, nawddsant Caergybi ar Ynys Môn. Mae'n adnabyddus am Ffynnon Gybi, tua 400 medr o'r eglwys, hen ganolfan bererindod leol ar un o'r llwybrau hynafol i Ynys Enlli. Ceir adfeilion hen gell feudwy yno. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am ragweld ffyddlondeb cariadon. Ar un adeg roedd yna llysywenod yn y ffynnon; credid byddai claf yn dioddef o anhwyldra yn ei goes yn gwella pe bai un o'r pysgod hynny yn rwbio yn ei erbyn wrth iddo sefyll yn y ffynnon. Codwyd to dros y ffynnon ac roedd ceidwad yno i ofalu am yr ymwelwyr.[3] Mae'r safle yng ngofal Cadw.